Old/New Testament
4 Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau; dy wallt sydd fel diadell o eifr, y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead. 2 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif, y rhai a ddaethant i fyny o’r olchfa; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen, ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil. 3 Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad, a’th barabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad. 4 Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn. 5 Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili. 6 Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau, af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus. 7 Ti oll ydwyt deg, fy anwylyd; ac nid oes ynot frycheuyn.
8 Tyred gyda mi o Libanus, fy nyweddi, gyda mi o Libanus: edrych o ben Amana, o gopa Senir a Hermon, o lochesau y llewod, o fynyddoedd y llewpardiaid. 9 Dygaist fy nghalon, fy chwaer a’m dyweddi; dygaist fy nghalon ag un o’th lygaid, ag un gadwyn wrth dy wddf. 10 Mor deg yw dy gariad, fy chwaer, a’m dyweddi! pa faint gwell yw dy gariad na gwin, ac arogl dy olew na’r holl beraroglau! 11 Dy wefusau, fy nyweddi, sydd yn diferu fel dil mêl: y mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus. 12 Gardd gaeëdig yw fy chwaer, a’m dyweddi: ffynnon gloëdig, ffynnon seliedig yw. 13 Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau, a ffrwyth peraidd, camffir, a nardus; 14 Ie, nardus a saffrwn, calamus a sinamon, a phob pren thus, myrr, ac aloes, ynghyd â phob rhagorol berlysiau: 15 Ffynnon y gerddi, ffynnon y dyfroedd byw, a ffrydiau o Libanus.
16 Deffro di, ogleddwynt, a thyred, ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd, fel y gwasgarer ei pheraroglau: deued fy anwylyd i’w ardd, a bwytaed ei ffrwyth peraidd ei hun.
5 Deuthum i’m gardd, fy chwaer, a’m dyweddi: cesglais fy myrr gyda’m perarogl, bwyteais fy nil gyda’m mêl, yfais fy ngwin gyda’m llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.
2 Myfi sydd yn cysgu, a’m calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a’m gwallt â defnynnau y nos. 3 Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt? 4 Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a’m hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn. 5 Mi a gyfodais i agori i’m hanwylyd; a’m dwylo a ddiferasant gan fyrr, a’m bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo. 6 Agorais i’m hanwylyd; ond fy anwylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni’m hatebodd. 7 Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas, a’m cawsant, a’m trawsant, a’m harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf. 8 Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.
9 Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o’r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly? 10 Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil. 11 Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân. 12 Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys. 13 Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol. 14 Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir. 15 Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol â chedrwydd. 16 Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
3 O y Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith? 2 Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd? 3 A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd? 4 A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd. 5 Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae? 6 Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 7 Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham. 8 A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd. 9 Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon. 10 Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt. 11 Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. 12 A’r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna’r pethau hynny, a fydd byw ynddynt. 13 Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren: 14 Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd. 15 Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato. 16 I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i’w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i’th had di, yr hwn yw Crist. 17 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw’r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer. 18 Canys os o’r ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw haeach o’r addewid: ond Duw a’i rhad roddodd i Abraham trwy addewid. 19 Beth gan hynny yw’r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai’r had, i’r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr. 20 A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un. 21 A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder. 22 Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu. 23 Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. 24 Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. 25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. 26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. 27 Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. 28 Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. 29 Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.