Old/New Testament
27 Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod. 2 Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan. 3 Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau. 4 Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen? 5 Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig. 6 Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus. 7 Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys. 8 Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth. 9 Olew ac arogl‐darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon. 10 Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell. 11 Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo. 12 Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir. 13 Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr. 14 Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo. 15 Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt. 16 Y mae yr hwn a’i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys. 17 Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill. 18 Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o’i ffrwyth ef: a’r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd. 19 Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn. 20 Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn. 21 Fel y tawddlestr i’r arian, a’r ffwrnais i’r aur: felly y mae gŵr i’w glod. 22 Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef. 23 Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd. 24 Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth? 25 Y gwair a flaendardda, a’r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir. 26 Yr ŵyn a’th ddillada, ac o’r geifr y cei werth tir. 27 Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i’th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i’th lancesau.
28 Yr annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid: ond y rhai cyfiawn sydd hy megis llew. 2 Oherwydd camwedd gwlad, aml fydd ei phenaethiaid: ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol, y pery hi yn hir. 3 Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion, sydd debyg i lifddwfr yr hwn ni ad luniaeth. 4 Y rhai a ymadawant â’r gyfraith, a ganmolant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith, a ymladd â hwynt. 5 Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr Arglwydd, a ddeallant bob peth. 6 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog. 7 Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr, a gywilyddia ei dad. 8 Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd. 9 Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd. 10 Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni. 11 Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus a’i chwilia ef allan. 12 Pan fyddo llawen y cyfiawn, y mae anrhydedd mawr: ond pan ddyrchafer yr annuwiolion, y chwilir am ddyn. 13 Y neb a guddio ei bechodau, ni lwydda: ond y neb a’u haddefo, ac a’u gadawo, a gaiff drugaredd. 14 Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol: ond y neb a galedo ei galon, a ddigwydda i ddrwg. 15 Fel y llew rhuadus, a’r arth wancus, yw llywydd annuwiol i bobl dlodion. 16 Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasao gybydd‐dra, a estyn ei ddyddiau. 17 Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i’r pwll; nac atalied neb ef. 18 Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith. 19 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi. 20 Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond y neb a brysuro i fod yn gyfoethog, ni bydd digerydd. 21 Nid da derbyn wyneb: canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam. 22 Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno. 23 Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na’r neb a draetho weniaith â’i dafod. 24 Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam, ac a ddywed, Nid yw hyn gamwedd, sydd gymar i ddinistriwr. 25 Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, a wneir yn fras. 26 Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun, sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog, a achubir. 27 Y neb a roddo i’r tlawd, ni bydd angen arno: ond y neb a guddio ei lygaid, a gaiff lawer o felltithion. 28 Pan ddyrchafer yr annuwiol, dynion a ymguddia: ond wedi darfod amdanynt, yr amlheir y cyfiawn.
29 Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth. 2 Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia. 3 Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda. 4 Brenin trwy farn a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a’i dinistria hi. 5 Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i’w draed ef. 6 Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen. 7 Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod. 8 Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint. 9 Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch. 10 Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef. 11 Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl. 12 Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol. 13 Y tlawd a’r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a’r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau. 14 Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth. 15 Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam. 16 Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy. 17 Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i’th enaid. 18 Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef. 19 Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb. 20 A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef. 21 Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o’i febyd, o’r diwedd efe a fydd fel mab iddo. 22 Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd. 23 Balchder dyn a’i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd. 24 Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega. 25 Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd a ddyrchefir. 26 Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae barn pob dyn. 27 Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.
10 A myfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn yn bresennol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hy arnoch. 2 Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy â’r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd. 3 Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd: 4 (Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i’r llawr;) 5 Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist; 6 Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi. 7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist. 8 Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni’m cywilyddid: 9 Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau. 10 Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eithr presenoldeb y corff sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygus. 11 Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol. 12 Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall. 13 Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o’n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddyd hyd atoch chwi hefyd. 14 Canys nid ydym, megis rhai heb gyrhaeddyd hyd atoch chwi, yn ymestyn allan tu hwnt i’n mesur; canys hyd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist: 15 Nid gan fostio hyd at bethau allan o’n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth, 16 I bregethu’r efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes. 17 Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd. 18 Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymeradwy; ond yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.