Old/New Testament
148 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau. 2 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd. 3 Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni. 4 Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd. 5 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd. 6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi. 7 Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau: 8 Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef: 9 Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd: 10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog: 11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd: 12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau: 13 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd. 14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.
149 Molwch yr Arglwydd. Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint. 2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin. 3 Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn. 4 Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth. 5 Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau. 6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo; 7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd; 8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn; 9 I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.
150 Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth. 2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd. 3 Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn. 4 Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ. 5 Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar. 6 Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
29 Os amgen, beth a wna’r rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? paham ynteu y bedyddir hwy dros y meirw? 30 A phaham yr ydym ninnau mewn perygl bob awr? 31 Yr ydwyf beunydd yn marw, myn eich gorfoledd yr hon sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. 32 Os yn ôl dull dyn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Effesus, pa lesâd sydd i mi, oni chyfodir y meirw? Bwytawn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym. 33 Na thwyller chwi: y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da. 34 Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch: canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn. 35 Eithr fe a ddywed rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac â pha ryw gorff y deuant? 36 O ynfyd, y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw. 37 A’r peth yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall. 38 Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun. 39 Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd: eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar. 40 Y mae hefyd gyrff nefol, a chyrff daearol: ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daearol. 41 Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. 42 Felly hefyd y mae atgyfodiad y meirw. Efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth: 43 Efe a heuir mewn amarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorff anianol, ac a gyfodir yn gorff ysbrydol. 44 Y mae corff anianol, ac y mae corff ysbrydol. 45 Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a’r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau. 46 Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol. 47 Y dyn cyntaf o’r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o’r nef. 48 Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd. 49 Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol. 50 Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. 51 Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf: 52 Canys yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir. 53 Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. 54 A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth. 55 O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? 56 Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith. 57 Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. 58 Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.