Old/New Testament
Salm Dafydd.
143 Arglwydd, clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder. 2 Ac na ddos i farn â’th was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di. 3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm. 4 Yna y pallodd fy ysbryd o’m mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof. 5 Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf. 6 Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela. 7 O Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 8 Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid. 9 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O Arglwydd: gyda thi yr ymguddiais. 10 Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di; canys ti yw fy Nuw: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb. 11 Bywha fi, O Arglwydd, er mwyn dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder. 12 Ac er dy drugaredd dinistria fy ngelynion, a difetha holl gystuddwyr fy enaid: oblegid dy was di ydwyf fi.
Salm Dafydd.
144 Bendigedig fyddo yr Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i ryfela. 2 Fy nhrugaredd, a’m hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf. 3 Arglwydd, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono? 4 Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio. 5 Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant. 6 Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt. 7 Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron; 8 Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster. 9 Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti. 10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol. 11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster: 12 Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas: 13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd: 14 A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd. 15 Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.
Salm Dafydd o foliant.
145 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd. 2 Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd. 3 Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy. 4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid. 5 Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf. 6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd. 7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant. 8 Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd. 9 Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd. 10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd; a’th saint a’th fendithiant. 11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid: 12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth. 13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd. 14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd. 15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; 16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da. 17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd. 19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt. 20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe. 21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
21 Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni’m gwrandawant felly, medd yr Arglwydd. 22 Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i’r rhai sydd yn credu, ond i’r rhai di‐gred: eithr proffwydoliaeth, nid i’r rhai di‐gred, ond i’r rhai sydd yn credu. 23 Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu? 24 Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un di‐gred neu annysgedig i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, a fernir gan bawb: 25 Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch. 26 Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un ohonoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatguddiad, y mae ganddo gyfieithiad. Gwneler pob peth er adeiladaeth. 27 Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un. 28 Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; eithr llefared wrtho’i hun, ac wrth Dduw. 29 A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill. 30 Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf. 31 Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb. 32 Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i’r proffwydi. 33 Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd, fel yn holl eglwysi’r saint. 34 Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniatawyd iddynt lefaru; ond bod yn ddarostyngedig, megis ag y mae’r gyfraith yn dywedyd. 35 Ac os mynnant ddysgu dim, ymofynnant â’u gwŷr gartref: oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys. 36 Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe? 37 Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd, neu yn ysbrydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt. 38 Eithr od yw neb heb wybod, bydded heb wybod. 39 Am hynny, frodyr, byddwch awyddus i broffwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr. 40 Gwneler pob peth yn weddaidd, ac mewn trefn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.