Old/New Testament
Caniad y graddau.
129 Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr: 2 Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant. 3 Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion. 4 Yr Arglwydd sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol. 5 Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion. 6 Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith: 7 A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes. 8 Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd.
Caniad y graddau.
130 O’r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd. 2 Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau. 3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif? 4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner. 5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf. 6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore. 7 Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef. 8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
131 O Arglwydd, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi. 2 Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu. 3 Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
11 Byddwch ddilynwyr i mi, megis yr wyf finnau i Grist. 2 Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi. 3 Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw. 4 Pob gŵr yn gweddïo neu yn proffwydo, a pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben. 5 Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen: canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio. 6 Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged. 7 Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben, am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: a’r wraig yw gogoniant y gŵr. 8 Canys nid yw’r gŵr o’r wraig, ond y wraig o’r gŵr. 9 Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig; eithr y wraig er mwyn y gŵr. 10 Am hynny y dylai’r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion. 11 Er hynny nid yw na’r gŵr heb y wraig, na’r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd. 12 Canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r gŵr, felly y mae’r gŵr trwy’r wraig: a phob peth sydd o Dduw. 13 Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn bennoeth? 14 Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes a fydd gŵr, mai amarch yw iddo? 15 Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes, clod yw iddi: oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi. 16 Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.