Old/New Testament
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.
77 A’m llef y gwaeddais ar Dduw, â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd. 2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu. 3 Cofiais Dduw, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela. 4 Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru. 5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd. 6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal. 7 Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy? 8 A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd? 9 A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela. 10 A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf. 11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt. 12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf. 13 Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n Duw ni? 14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd. 15 Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela. 16 Y dyfroedd a’th welsant, O Dduw, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd. 17 Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant. 18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear. 19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl. 20 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.
Maschil i Asaff.
78 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. 2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: 3 Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. 4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. 5 Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: 6 Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: 7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef: 8 Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw. 9 Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr. 10 Ni chadwasant gyfamod Duw, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef; 11 Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt. 12 Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan. 13 Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr. 14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân. 15 Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr. 16 Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd. 17 Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch. 18 A themtiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys. 19 Llefarasant hefyd yn erbyn Duw; dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch? 20 Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl? 21 Am hynny y clybu yr Arglwydd, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel; 22 Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef: 23 Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd, 24 A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd. 25 Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol. 26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt. 27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr. 28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd. 29 Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt; 30 Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau, 31 Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel. 32 Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef. 33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn. 34 Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn fore. 35 Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd. 36 Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod: 37 A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef. 38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid. 39 Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd. 40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch? 41 Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel. 42 Ni chofiasant ei law ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn. 43 Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan: 44 Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed. 45 Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha. 46 Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust. 47 Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew. 48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt. 49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg. 50 Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint. 51 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham: 52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch. 53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt. 54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef. 55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt. 56 Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau: 57 Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus. 58 Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau. 59 Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr: 60 Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion; 61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn. 62 Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth. 63 Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd. 64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant. 65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin. 66 Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol. 67 Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim: 68 Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd. 69 Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd. 70 Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid: 71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth. 72 Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
10 O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth. 2 Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth. 3 Canys hwynt‐hwy, heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. 4 Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy’n credu. 5 Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, Mai’r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt. 6 Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:) 7 Neu, pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,) 8 Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae’r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; 9 Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. 10 Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth. 11 Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. 12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno. 13 Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. 14 Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr? 15 A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus! 16 Eithr nid ufuddhasant hwy oll i’r efengyl: canys y mae Eseias yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? 17 Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. 18 Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a’u geiriau hyd derfynau y byd. 19 Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y’ch digiaf chwi. 20 Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf. 21 Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.