Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 70-71

I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa.

70 O Dduw, prysura i’m gwaredu; brysia, Arglwydd, i’m cymorth. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha. Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.

71 Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth. Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi. Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa. Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws. Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o’m hieuenctid. Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti. Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa. Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd. Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth. 10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant, 11 Gan ddywedyd, Duw a’i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd. 12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf: fy Nuw, brysia i’m cymorth. 13 Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi. 14 Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy. 15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt. 16 Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi. 17 O’m hieuenctid y’m dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau. 18 Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo. 19 Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O Dduw, sydd debyg i ti? 20 Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei drachefn, ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear. 21 Amlhei fy mawredd, ac a’m cysuri oddi amgylch. 22 Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy Nuw: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel. 23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist. 24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.

Rhufeiniaid 8:22-39

22 Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. 23 Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. 24 Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? 25 Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. 26 A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 27 A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. 28 Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. 29 Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer. 30 A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. 31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? 32 Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; 33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: 34 Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. 35 Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? 36 Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. 37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. 38 Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, 39 Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.