Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Job 36-37

36 Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd, Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw. O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder. Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi. Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe. Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid. Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir. Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder; Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt: 10 Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd. 11 Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch. 12 Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth. 13 Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt. 14 Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan. 15 Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder. 16 Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster. 17 Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot. 18 Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr. 19 A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth. 20 Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle. 21 Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd. 22 Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe? 23 Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd? 24 Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion. 25 Pob dyn a’i gwêl; a dyn a’i cenfydd o bell. 26 Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef. 27 Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth; 28 Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth. 29 Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef? 30 Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr. 31 Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth. 32 Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt. 33 Ei dwrf a fynega amdano, a’r anifeiliaid am y tarth.

37 Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle. Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef. Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear. Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef. Duw a wna daranau â’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni. Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef. Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef. Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le. O’r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd. 10 Â’i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir. 11 Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau. 12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear. 13 Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod. 14 Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw. 15 A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu? 16 A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth? 17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt? 18 A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig? 19 Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch. 20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef. 21 Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt. 22 O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy. 23 Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe. 24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.

Actau 15:22-41

22 Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a’r henuriaid, ynghyd â’r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiochia, gyda Phaul a Barnabas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr: 23 A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a’r henuriaid, a’r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch: 24 Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw’r ddeddf; i’r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn: 25 Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgynnull yn gytûn, anfon gwŷr etholedig atoch, gyda’n hanwylyd Barnabas a Phaul; 26 Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist. 27 Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas; a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau. 28 Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân, a chennym ninnau, na ddodid arnoch faich ychwaneg na’r pethau angenrheidiol hyn; 29 Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb: oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach. 30 Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr. 31 Ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychu a wnaethant am y diddanwch. 32 Jwdas hefyd a Silas, a hwythau yn broffwydi, trwy lawer o ymadrodd a ddiddanasant y brodyr, ac a’u cadarnhasant. 33 Ac wedi iddynt aros yno dros amser, hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch, gan y brodyr, at yr apostolion. 34 Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno. 35 A Phaul a Barnabas a arosasant yn Antiochia, gan ddysgu ac efengylu gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill hefyd.

36 Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn, ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy. 37 A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc. 38 Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt, yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia, ac nid aethai gyda hwynt i’r gwaith. 39 A bu gymaint cynnwrf rhyngddynt, fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd; ac y cymerth Barnabas Marc gydag ef, ac y mordwyodd i Cyprus: 40 Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymaith, wedi ei orchymyn i ras Duw gan y brodyr. 41 Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau’r eglwysi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.