M’Cheyne Bible Reading Plan
33 Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd, y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef, ac a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwyni, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt. 4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd, am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd, Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd. 5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd. 6 Ac efe a yrrodd ei feibion trwy’r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef. 7 Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ Dduw, am yr hwn y dywedasai Duw wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd. 8 Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i’ch tadau chwi; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, trwy law Moses. 9 Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel. 10 Er llefaru o’r Arglwydd wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy.
11 Am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon. 12 A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau, 13 Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a’i dug ef drachefn i Jerwsalem i’w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr Arglwydd oedd Dduw. 14 Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du’r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a’i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda. 15 Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr, a’r ddelw, allan o dŷ yr Arglwydd, a’r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr Arglwydd, ac yn Jerwsalem, ac a’u taflodd allan o’r ddinas. 16 Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant; dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu Arglwydd Dduw Israel. 17 Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd: eto i’r Arglwydd eu Duw yn unig.
18 A’r rhan arall o hanes Manasse, a’i weddi ef at ei Dduw, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw Arglwydd Dduw Israel, wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel. 19 Ei weddi ef hefyd, a’r modd y cymododd Duw ag ef, a’i holl bechod ef, a’i gamwedd, a’r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.
20 Felly Manasse a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ei dŷ ei hun; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
21 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 22 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel y gwnaethai Manasse ei dad ef: canys Amon a aberthodd i’r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei dad ef, ac a’u gwasanaethodd hwynt. 23 Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr Arglwydd, fel yr ymostyngasai Manasse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy. 24 A’i weision ef a fradfwriadasant i’w erbyn ef, ac a’i lladdasant ef yn ei dŷ ei hun.
25 Ond pobl y wlad a laddasant yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon; a phobl y wlad a urddasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.
19 Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Aleliwia; Iachawdwriaeth, a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i’r Arglwydd ein Duw ni: 2 Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â’i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi. 3 Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A’i mwg hi a gododd yn oes oesoedd. 4 A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd, Amen; Aleliwia. 5 A llef a ddaeth allan o’r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a’r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd. 6 Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog. 7 Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a’i wraig ef a’i paratôdd ei hun. 8 A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw’r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw’r rhai hyn. 10 Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i’w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth. 11 Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a’r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela. 12 A’i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun: 13 Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw. 14 A’r lluoedd oedd yn y nef a’i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân. 15 Ac allan o’i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro’r cenhedloedd ag ef: ac efe a’u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog. 16 Ac y mae ganddo ar ei wisg, ac ar ei forddwyd, enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI. 17 Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef, Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr; 18 Fel y bwytaoch gig brenhinoedd, a chig pen-capteiniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a’r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chig holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion. 19 Ac mi a welais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear, a’u lluoedd, wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef. 20 A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, a’r rhai a addolasent ei ddelw ef. Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan. 21 A’r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o’i enau ef: a’r holl adar a gawsant eu gwala o’u cig hwynt.
1 Baich gair yr Arglwydd at Israel trwy law Malachi. 2 Hoffais chwi, medd yr Arglwydd: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr Arglwydd: eto Jacob a hoffais, 3 Ac Esau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch, a’i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch. 4 Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a’r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd. 5 Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.
6 Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di? 7 Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd. 8 Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrymwch y cloff a’r clwyfus, onid drwg hynny? cynnig ef yr awron i’th dywysog, a fydd efe bodlon i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd Arglwydd y lluoedd. 9 Ac yn awr gweddïwch, atolwg, gerbron Duw, fel y trugarhao wrthym: o’ch llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un ohonoch? medd Arglwydd y lluoedd. 10 A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd Arglwydd y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o’ch llaw. 11 Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i’m henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.
12 Ond chwi a’i halogasoch ef, pan ddywedasoch, Bwrdd yr Arglwydd sydd halogedig; a’i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus. 13 Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! a ffroenasoch arno, medd Arglwydd y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a’r cloff, a’r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o’ch llaw chwi? medd yr Arglwydd. 14 Ond melltigedig yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i’r Arglwydd; canys Brenin mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a’m henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.
18 Gwedi i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion. 2 A Jwdas hefyd, yr hwn a’i bradychodd ef, a adwaenai’r lle: oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno. 3 Jwdas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau. 4 Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? 5 Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt. 6 Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr. 7 Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth. 8 Yr Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith: 9 Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O’r rhai a roddaist i mi, ni chollais i’r un. 10 Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw’r gwas oedd Malchus. 11 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef? 12 Yna’r fyddin, a’r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a’i rhwymasant ef, 13 Ac a’i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe. 14 A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i’r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.
15 Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad. 16 A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn. 17 Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf. 18 A’r gweision a’r swyddogion, gwedi gwneuthur tân glo, oherwydd ei bod hi’n oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymo: ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymo.
19 A’r archoffeiriad a ofynnodd i’r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth. 20 Yr Iesu a atebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae’r Iddewon yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim. 21 Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i’r rhai a’m clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i. 22 Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o’r swyddogion a’r oedd yn sefyll gerllaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti’n ateb yr archoffeiriad? 23 Yr Iesu a atebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o’r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i? 24 Ac Annas a’i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad. 25 A Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymo. Hwythau a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o’i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf. 26 Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i’r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd? 27 Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.
28 Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i’r dadleudy: a’r bore ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy, rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta’r pasg. 29 Yna Peilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn? 30 Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti. 31 Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb: 32 Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw. 33 Yna Peilat a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? 34 Yr Iesu a atebodd iddo, Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a’i dywedasant i ti amdanaf fi? 35 Peilat a atebodd, Ai Iddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti? 36 Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma. 37 Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i. 38 Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef. 39 Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 40 Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas. A’r Barabbas hwnnw oedd leidr.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.