Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Cronicl 31

31 Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a’r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i’w feddiant, i’w dinasoedd.

A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pob un yn ôl ei weinidogaeth, yr offeiriaid a’r Lefiaid i’r poethoffrwm, ac i’r ebyrth hedd, i weini, ac i foliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwersylloedd yr Arglwydd. A rhan y brenin oedd o’i olud ei hun i’r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a’r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a’r newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd. Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, trigolion Jerwsalem, am roddi rhan i’r offeiriaid a’r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr Arglwydd.

A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddygasant yn aml, flaenffrwyth yr ŷd, y gwin, a’r olew, a’r mêl, ac o holl gnwd y maes, a’r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth. A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i’r Arglwydd eu Duw, ac a’u gosodasant bob yn bentwr. Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio’r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt. A phan ddaeth Heseceia a’r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr Arglwydd, a’i bobl Israel. A Heseceia a ymofynnodd â’r offeiriaid a’r Lefiaid oherwydd y pentyrrau. 10 Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dŷ Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr Arglwydd, bwytasom a digonwyd ni, gweddillasom hefyd lawer iawn: canys yr Arglwydd a fendithiodd ei bobl; a’r gweddill yw yr amldra hyn.

11 A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a’u paratoesant, 12 Ac a ddygasant i mewn y blaenffrwyth, a’r degwm, a’r pethau cysegredig, yn ffyddlon: a Chononeia y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy, a Simei ei frawd ef yn ail. 13 Jehiel hefyd, ac Asaseia, a Nahath, ac Asahel, a Jerimoth, a Josabad, ac Eliel, ac Ismachia, a Mahath, a Benaia, oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef, trwy orchymyn Heseceia y brenin, ac Asareia blaenor tŷ Dduw. 14 A Chore mab Imna y Lefiad, y porthor tua’r dwyrain, oedd ar y pethau a offrymid yn ewyllysgar i Dduw, i rannu offrymau yr Arglwydd, a’r pethau sancteiddiolaf. 15 Ac wrth ei law ef yr oedd Eden, a Miniamin, a Jesua, a Semaia, Amareia, a Sechaneia, yn ninasoedd yr offeiriaid, yn eu swydd, i roddi i’w brodyr yn ôl eu rhan, i fawr ac i fychan: 16 Heblaw y gwrywiaid o’u cenedl hwynt, o fab tair blwydd ac uchod, i bawb a’r oedd yn dyfod i dŷ yr Arglwydd, ddogn dydd yn ei ddydd, yn eu gwasanaeth hwynt, o fewn eu goruchwyliaethau, yn ôl eu dosbarthiadau; 17 I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau, ac i’r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod, yn ôl eu goruchwyliaethau, yn eu dosbarthiadau; 18 Ac i genedl eu holl blant hwy, eu gwragedd, a’u meibion, a’u merched, trwy’r holl gynulleidfa: oblegid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd: 19 Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas, y gwŷr a enwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid, ac i’r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid.

20 Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn, a’r gwirionedd, gerbron yr Arglwydd ei Dduw. 21 Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd efe yng ngweinidogaeth tŷ Dduw, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei Dduw, efe a’i gwnaeth â’i holl galon, ac a ffynnodd.

Datguddiad 17

17 A daeth un o’r saith angel oedd â’r saith ffiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthyf, Tyred, mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer; Gyda’r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi. Ac efe a’m dygodd i i’r diffeithwch yn yr ysbryd: ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn llawn o enwau cabledd, a saith ben iddo, a deg corn. A’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac â main gwerthfawr, a pherlau, a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra. Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A FFIEIDD-DRA’R DDAEAR. Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr. A’r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a’r bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â’r saith ben ganddo, a’r deg corn. Y bwystfil a welaist, a fu, ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fyny o’r pydew heb waelod, a myned i ddistryw: a rhyfeddu a wna’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, pan welont y bwystfil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fod. Dyma’r meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae’r wraig yn eistedd arnynt. 10 Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac un sydd, a’r llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig. 11 A’r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw’r wythfed, ac o’r saith y mae, ac i ddistryw y mae’n myned. 12 A’r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto; eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda’r bwystfil. 13 Yr un meddwl sydd i’r rhai hyn, a hwy a roddant eu nerth a’u hawdurdod i’r bwystfil. 14 Y rhai hyn a ryfelant â’r Oen, a’r Oen a’u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd; a’r rhai sydd gydag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon. 15 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd a welaist, lle mae’r butain yn eistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd. 16 A’r deg corn a welaist ar y bwystfil, y rhai hyn a gasânt y butain, ac a’i gwnânt hi yn unig ac yn noeth, a’i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a’i llosgant hi â thân. 17 Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr un ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw. 18 A’r wraig a welaist, yw’r ddinas fawr, sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear.

Sechareia 13:2-9

A bydd y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o’r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o’r wlad. A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a’i fam a’i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr Arglwydd: a’i dad a’i fam a’i cenedlasant ef a’i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo. A bydd y dydd hwnnw, i’r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo: Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a’m dysgodd i gadw anifeiliaid o’m hieuenctid. A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y’m clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.

Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd: taro y bugail, a’r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain. A bydd yn yr holl dir, medd yr Arglwydd, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a’r drydedd a adewir ynddo. A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a’u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr Arglwydd yw fy Nuw.

Ioan 16

16 Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi. Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae’r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. A’r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi. Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi. Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned? Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon. Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch. A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi: 10 O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach; 11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd. 12 Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. 13 Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi. 14 Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi. 15 Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi. 16 Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad. 17 Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad? 18 Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. 19 Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch? 20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd. 21 Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni’r plentyn, nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd. 22 A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. 23 A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. 24 Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 25 Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae’r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad. 26 Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch: 27 Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw. 28 Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad, ac a ddeuthum i’r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad. 29 Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg. 30 Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw. 31 Yr Iesu a’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu? 32 Wele, y mae’r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae’r Tad gyda myfi. 33 Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.