M’Cheyne Bible Reading Plan
27 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Jotham pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac enw ei fam ef oedd Jerwsa merch Sadoc. 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Usseia ei dad: eithr nid aeth efe i deml yr Arglwydd. A’r bobl oedd eto yn ymlygru. 3 Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd; ac ar fur y tŵr yr adeiladodd efe lawer. 4 Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym mynyddoedd Jwda, ac yn y coedydd yr adeiladodd efe balasau a thyrau.
5 Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon, ac a aeth yn drech na hwynt. A meibion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno, a deng mil corus o wenith, a deng mil corus o haidd. Hyn a roddodd meibion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a’r drydedd. 6 Felly Jotham a aeth yn gadarn, oblegid efe a baratôdd ei ffyrdd gerbron yr Arglwydd ei Dduw.
7 A’r rhan arall o hanes Jotham, a’i holl ryfeloedd ef, a’i ffyrdd, wele y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. 8 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
9 A Jotham a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd. Ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
28 Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ond ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad. 2 Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel, ac a wnaeth i Baalim ddelwau toddedig. 3 Ac efe a arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac a losgodd ei blant yn tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel. 4 Efe a aberthodd hefyd, ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas. 5 Am hynny yr Arglwydd ei Dduw a’i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a’i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a’u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a’i trawodd ef â lladdfa fawr.
6 Canys Peca mab Remaleia a laddodd yn Jwda chwech ugain mil mewn un diwrnod, hwynt oll yn feibion grymus: am wrthod ohonynt Arglwydd Dduw eu tadau. 7 A Sichri, gŵr grymus o Effraim, a laddodd Maaseia mab y brenin, ac Asricam llywodraethwr y tŷ, ac Elcana y nesaf at y brenin. 8 A meibion Israel a gaethgludasant o’u brodyr ddau can mil, yn wragedd, yn feibion, ac yn ferched, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr oddi arnynt, ac a ddygasant yr ysbail i Samaria. 9 Ac yno yr oedd proffwyd i’r Arglwydd, a’i enw Oded; ac efe a aeth allan o flaen y llu oedd yn dyfod i Samaria, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, oherwydd digofaint Arglwydd Dduw eich tadau yn erbyn Jwda, y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi, a lladdasoch hwynt mewn cynddaredd yn cyrhaeddyd hyd y nefoedd. 10 Ac yn awr yr ydych chwi yn amcanu darostwng meibion Jwda a Jerwsalem, yn gaethweision, ac yn gaethforynion i chwi: onid oes gyda chwi, ie, gyda chwi, bechodau yn erbyn yr Arglwydd eich Duw? 11 Yn awr gan hynny gwrandewch arnaf fi, a gollyngwch adref y gaethglud a gaethgludasoch o’ch brodyr: oblegid y mae llidiog ddigofaint yr Arglwydd arnoch chwi. 12 Yna rhai o benaethiaid meibion Effraim, Asareia mab Johanan, Berecheia mab Mesilemoth, a Jehisceia mab Salum, ac Amasa mab Hadlai, a gyfodasant yn erbyn y rhai oedd yn dyfod o’r filwriaeth, 13 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni ddygwch y gaethglud yma: canys gan i ni bechu eisoes yn erbyn yr Arglwydd, yr ydych chwi yn amcanu chwanegu ar ein pechodau ni, ac ar ein camweddau: canys y mae ein camwedd ni yn fawr, ac y mae digofaint llidiog yn erbyn Israel. 14 Felly y llu a adawodd y gaethglud a’r anrhaith o flaen y tywysogion, a’r holl gynulleidfa. 15 A’r gwŷr, y rhai a enwyd wrth eu henwau, a gyfodasant ac a gymerasant y gaethglud, ac a ddilladasant eu holl rai noethion hwynt â’r ysbail, a dilladasant hwynt, a rhoddasant iddynt esgidiau, ac a wnaethant iddynt fwyta ac yfed; eneiniasant hwynt hefyd, a dygasant ar asynnod bob un llesg, ie, dygasant hwynt i Jericho, dinas y palmwydd, at eu brodyr. Yna hwy a ddychwelasant i Samaria.
16 Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahas at frenhinoedd Asyria i’w gynorthwyo ef. 17 A’r Edomiaid a ddaethent eto, ac a drawsent Jwda, ac a gaethgludasent gaethglud. 18 Y Philistiaid hefyd a ruthrasent i ddinasoedd y gwastadedd, a thu deau Jwda, ac a enillasent Beth-semes, ac Ajalon, a Gederoth, a Socho a’i phentrefi, Timna hefyd a’i phentrefi, a Gimso a’i phentrefi; ac a drigasant yno. 19 Canys yr Arglwydd a ddarostyngodd Jwda, o achos Ahas brenin Israel: oblegid efe a noethodd Jwda, gan droseddu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr. 20 A Thilgath-pilneser brenin Asyria a ddaeth ato ef, ac a gyfyngodd arno ef, ac nis cynorthwyodd ef. 21 Er i Ahas gymryd rhan allan o dŷ yr Arglwydd, ac o dŷ y brenin, a chan y tywysogion, a’i rhoddi i frenin Asyria; eto nis cynorthwyodd efe ef.
22 A’r amser yr oedd yn gyfyng arno, efe a chwanegodd droseddu yn erbyn yr Arglwydd: hwn yw y brenin Ahas. 23 Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus, y rhai a’i trawsent ef; ac efe a ddywedodd, Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt, minnau a aberthaf iddynt hwy, fel y’m cynorthwyont innau: ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd. 24 Ac Ahas a gasglodd lestri tŷ Dduw, ac a ddarniodd lestri tŷ Dduw, ac a gaeodd ddrysau tŷ yr Arglwydd, ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerwsalem. 25 Ac ym mhob dinas yn Jwda y gwnaeth efe uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr, ac a ddicllonodd Arglwydd Dduw ei dadau.
26 A’r rhan arall o’i hanes ef, a’i holl ffyrdd, cyntaf a diwethaf, wele hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel. 27 Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn y ddinas yn Jerwsalem, ond ni ddygasant hwy ef i feddrod brenhinoedd Israel. A Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
14 Ac mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef bedair mil a saith ugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau. 2 Ac mi a glywais lef o’r nef, fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taran fawr: ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau: 3 A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc, a cherbron y pedwar anifail, a’r henuriaid: ac ni allodd neb ddysgu’r gân, ond y pedair mil a’r saith ugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear. 4 Y rhai hyn yw’r rhai ni halogwyd â gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen. 5 Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw. 6 Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, a’r efengyl dragwyddol ganddo, i efengylu i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl: 7 Gan ddywedyd â llef uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; oblegid daeth awr ei farn ef: ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a’r ddaear, a’r môr, a’r ffynhonnau dyfroedd. 8 Ac angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb. 9 A’r trydydd angel a’u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a’i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law, 10 Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen: 11 A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli’r bwystfil a’i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef. 12 Yma y mae amynedd y saint: yma y mae’r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, a ffydd Iesu. 13 Ac mi a glywais lef o’r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur; a’u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt. 14 Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym. 15 Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear. 16 A’r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear; a’r ddaear a fedwyd. 17 Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman llym. 18 Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân; ac a lefodd â bloedd uchel ar yr hwn oedd â’r cryman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy gryman llym, a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear: oblegid aeddfedodd ei grawn hi. 19 A’r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a’i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw. 20 A’r gerwyn a sathrwyd o’r tu allan i’r ddinas; a gwaed a ddaeth allan o’r gerwyn, hyd at ffrwynau’r meirch, ar hyd mil a chwe chant o ystadau.
10 Erchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar law; a’r Arglwydd a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes. 2 Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a’r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail. 3 Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd â’i braidd tŷ Jwda, ac a’u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel. 4 Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono.
5 A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr Arglwydd gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch. 6 A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i’w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac a’u gwrandawaf hwynt. 7 Bydd Effraim hefyd fel cawr, a’u calonnau a lawenychant fel trwy win: a’u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd. 8 Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant. 9 A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y’m cofiant, a byddant fyw gyda’u plant, a dychwelant. 10 A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt. 11 Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith. 12 Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr Arglwydd.
13 Achyn gŵyl y pasg, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a’u carodd hwynt hyd y diwedd. 2 Ac wedi darfod swper, wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot, mab Simon, ei fradychu ef; 3 Yr Iesu yn gwybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw; 4 Efe a gyfododd oddi ar swper, ac a roes heibio ei gochlwisg, ac a gymerodd dywel, ac a ymwregysodd. 5 Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i’r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu. 6 Yna y daeth efe at Simon Pedr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti’n golchi fy nhraed i? 7 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ôl hyn. 8 Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi. 9 Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylo a’m pen hefyd. 10 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll. 11 Canys efe a wyddai pwy a’i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll. 12 Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi? 13 Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a’r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf. 14 Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd; 15 Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi. 16 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy na’r hwn a’i danfonodd. 17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
18 Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn. 19 Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe. 20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 21 Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi. 22 Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd. 23 Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. 24 Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd. 25 Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? 26 Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon. 27 Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys. 28 Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho. 29 Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a’r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i’r tlodion. 30 Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi’n nos.
31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. 32 Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd. 33 O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron. 34 Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd. 35 Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd.
36 A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned? Yr Iesu a atebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awron fy nghanlyn: eithr ar ôl hyn y’m canlyni. 37 Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot. 38 Yr Iesu a atebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.