M’Cheyne Bible Reading Plan
26 Yna holl bobl Jwda a gymerasant Usseia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad. 2 Efe a adeiladodd Eloth, ac a’i dug hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau. 3 Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem. 4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef. 5 Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a’r dyddiau y ceisiodd efe yr Arglwydd, Duw a’i llwyddodd ef. 6 Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid. 7 A Duw a’i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid, y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal, a’r Mehuniaid. 8 A’r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a’i enw ef a aeth hyd y mynediad i’r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr. 9 Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y glyn, ac wrth droad y mur, ac a’u cadarnhaodd hwynt. 10 Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydewau lawer; oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid, yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd: a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd, ac yn Carmel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear. 11 Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt, trwy law Jeiel yr ysgrifennydd, a Maaseia y llywydd, dan law Hananeia, un o dywysogion y brenin. 12 Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant. 13 A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus, tri chan mil a saith mil a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynorthwyo’r brenin yr erbyn y gelyn. 14 Ac Usseia a ddarparodd iddynt, sef i’r holl lu, darianau, a gwaywffyn, a helmau, a llurigau, a bwâu, a thaflau i daflu cerrig. 15 Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a’i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.
16 Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i’w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw: ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogldarthu ar allor yr arogl-darth. 17 Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd, yn feibion grymus: 18 A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i’r Arglwydd, ond i’r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o’r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr Arglwydd Dduw. 19 Yna y llidiodd Usseia, a’r arogl-darth i arogldarthu oedd yn ei law ef: a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid, gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef, yng ngŵydd yr offeiriaid yn nhŷ yr Arglwydd, gerllaw allor yr arogl-darth. 20 Ac edrychodd Asareia yr archoffeiriad a’r holl offeiriaid arno ef, ac wele, yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno: ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan, oherwydd i’r Arglwydd ei daro ef. 21 Ac Usseia y brenin a fu wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neilltuol; canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr Arglwydd: a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ y brenin, yn barnu pobl y wlad.
22 A’r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diwethaf Usseia, a ysgrifennodd Eseia y proffwyd mab Amos. 23 Felly Usseia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau ym maes beddrod y brenhinoedd; canys dywedasant, Gwahanglwyfus ydyw efe. A Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
13 Ac mi a sefais ar dywod y môr; ac a welais fwystfil yn codi o’r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau enw cabledd. 2 A’r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew: a’r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a’i gorseddfainc, ac awdurdod mawr. 3 Ac mi a welais un o’i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw; a’i friw marwol ef a iachawyd: a’r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil. 4 A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i’r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i’r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef? 5 A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain. 6 Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a’i dabernacl, a’r rhai sydd yn trigo yn y nef. 7 A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â’r saint, a’u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith, a chenedl. 8 A holl drigolion y ddaear a’i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd. 9 Od oes gan neb glust, gwrandawed. 10 Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Dyma amynedd a ffydd y saint. 11 Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o’r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig. 12 A holl allu’r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i’r ddaear ac i’r rhai sydd yn trigo ynddi addoli’r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol. 13 Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o’r nef i’r ddaear, yng ngolwg dynion; 14 Ac y mae efe yn twyllo’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, trwy’r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear, am iddynt wneuthur delw i’r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw. 15 A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw’r bwystfil, fel y llefarai delw’r bwystfil hefyd, ac y parai gael o’r sawl nid addolent ddelw’r bwystfil, eu lladd. 16 Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau: 17 Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw ef. 18 Yma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi’r bwystfil: canys rhifedi dyn ydyw: a’i rifedi ef yw, Chwe chant a thrigain a chwech.
9 Baich gair yr Arglwydd yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd, fel yr eiddo holl lwythau Israel. 2 A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn. 3 A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd. 4 Wele, yr Arglwydd a’i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân. 5 Ascalon a’i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o’i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir. 6 Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid. 7 A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau, a’i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i’n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad. 8 A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â’m llygaid.
9 Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen. 10 Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a’r march oddi wrth Jerwsalem, a’r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i’r cenhedloedd: a’i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd eithafoedd y ddaear. 11 A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o’r pydew heb ddwfr ynddo.
12 Trowch i’r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg: 13 Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y’th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus: 14 A’r Arglwydd a welir trostynt, a’i saeth ef a â allan fel mellten: a’r Arglwydd Dduw a gân ag utgorn, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau. 15 Arglwydd y lluoedd a’u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor. 16 A’r Arglwydd eu Duw a’u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef. 17 Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuainc, a gwin y gwyryfon.
12 Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw. 2 Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef. 3 Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint. 4 Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, 5 Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a’i roddi i’r tlodion? 6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo’r pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo. 7 A’r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn. 8 Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser. 9 Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.
10 Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd: 11 Oblegid llawer o’r Iddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.
12 Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r ŵyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem, 13 A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. 14 A’r Iesu wedi cael asynnyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig, 15 Nac ofna, ferch Seion: wele, y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn. 16 Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt wneuthur hyn iddo. 17 Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw. 18 Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn. 19 Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.
20 Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl: 21 Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu. 22 Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu.
23 A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn. 24 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer. 25 Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol. 26 Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a’i hanrhydedda ef. 27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon. 28 O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn. 29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho. 30 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o’m hachos i y bu’r llef hon, ond o’ch achos chwi. 31 Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn. 32 A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun. 33 (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.) 34 Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn? 35 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae’n myned. 36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.
37 Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo: 38 Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn, 40 Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt. 41 Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.
42 Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog: 43 Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.
44 A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. 45 A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. 46 Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. 47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. 48 Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. 49 Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 50 Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.