Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Cronicl 22-23

22 A thrigolion Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef: canys y fyddin a ddaethai gyda’r Arabiaid i’r gwersyll, a laddasai y rhai hynaf oll. Felly Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a deyrnasodd. Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia merch Omri. Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab: canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwolaeth ei dad, i’w ddinistr ef.

Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt, ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel, yn erbyn Hasael brenin Syria, yn Ramoth-Gilead: a’r Syriaid a drawsant Joram. Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion â’r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe â Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe. A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth Dduw, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr Arglwydd i dorri ymaith dŷ Ahab. A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab, efe a gafodd dywysogion Jwda, a meibion brodyr Ahaseia, y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia, ac efe a’u lladdodd hwynt. Ac efe a geisiodd Ahaseia; a hwy a’i daliasant ef, (canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria;) a hwy a’i dygasant ef at Jehu: lladdasant ef hefyd, a chladdasant ef; canys dywedasant, Mab Jehosaffat yw efe, yr hwn a geisiodd yr Arglwydd â’i holl galon. Felly nid oedd gan dŷ Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas.

10 Ond pan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd holl frenhinol had tŷ Jwda. 11 Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd, ac a’i rhoddodd ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau. Felly Josabea merch y brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, (canys chwaer Ahaseia ydoedd hi,) a’i cuddiodd ef rhag Athaleia, fel na laddodd hi ef. 12 Ac efe a fu yng nghudd gyda hwynt yn nhŷ Dduw chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.

23 Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod. A hwy a aethant o amgylch yn Jwda, ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda, a phennau-cenedl Israel, ac a ddaethant i Jerwsalem. A’r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â’r brenin yn nhŷ Dduw: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Wele, mab y brenin a deyrnasa, fel y llefarodd yr Arglwydd am feibion Dafydd. Dyma y peth a wnewch chwi; Y drydedd ran ohonoch, yr rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid, fydd yn borthorion i’r trothwyau; A’r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin; a’r drydedd ran wrth borth y sylfaen; a’r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr Arglwydd. Ac na ddeled neb i dŷ yr Arglwydd, ond yr offeiriaid, a’r gweinidogion o’r Lefiaid; deuant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr Arglwydd. A’r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pob un â’i arfau yn ei law; a phwy bynnag arall a ddelo i’r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyda’r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan. A’r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.) A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a’r tarianau, a’r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ Dduw. 10 Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â’i arf yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ hyd y tu aswy i’r tŷ, ynghylch yr allor a’r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch. 11 Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a’r dystiolaeth, ac a’i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a’i feibion a’i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.

12 A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr Arglwydd. 13 A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a’r cantorion ag offer cerdd, a’r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth! 14 A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o’r rhesau: a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd. 15 A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua’r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.

16 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i’r Arglwydd. 17 Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a’i distrywiasant ef, a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor. 18 A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr Arglwydd, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr Arglwydd, i offrymu poethoffrymau yr Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd. 19 Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr Arglwydd, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll. 20 Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a’r pendefigion, a’r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr Arglwydd: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth. 21 A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia â’r cleddyf.

Datguddiad 10

10 Ac mi a welais angel cryf arall yn disgyn o’r nef, wedi ei wisgo â chwmwl: ac enfys oedd ar ei ben, a’i wyneb ydoedd fel yr haul, a’i draed fel colofnau o dân: Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd. Ac efe a osododd ei droed deau ar y môr, a’i aswy ar y tir; Ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo lefain, y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau. Ac wedi darfod i’r saith daran lefaru eu llefau, yr oeddwn ar fedr ysgrifennu: ac mi a glywais lef o’r nef yn dywedyd wrthyf, Selia’r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt. A’r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr, ac ar y tir, a gododd ei law i’r nef, Ac a dyngodd i’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a’r pethau sydd ynddi, a’r ddaear a’r pethau sydd ynddi, a’r môr a’r pethau sydd ynddo, na byddai amser mwyach: Ond yn nyddiau llef y seithfed angel, pan ddechreuo efe utganu, gorffennir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe i’w wasanaethwyr y proffwydi. A’r llef a glywais o’r nef, a lefarodd drachefn wrthyf, ac a ddywedodd, Dos, cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw’r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tir. Ac mi a euthum at yr angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi’r llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cymer, a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di, eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl. 10 Ac mi a gymerais y llyfr bychan o law’r angel, ac a’i bwyteais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mêl yn felys: ac wedi imi ei fwyta ef, fy mol a aeth yn chwerw. 11 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhaid i ti drachefn broffwydo i bobloedd, a chenhedloedd, ac ieithoedd, a brenhinoedd lawer.

Sechareia 6

Hefyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a’r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres. Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon, Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon. Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A’r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear. Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a’r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau; a’r brithion a ânt allan i’r deheudir. A’r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear. Yna efe a waeddodd arnaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd.

A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 10 Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia: 11 Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad; 12 A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gŵr a’i enw BLAGURYN: o’i le hefyd y blagura, ac efe a adeilada deml yr Arglwydd: 13 Ie, teml yr Arglwydd a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau. 14 A’r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr Arglwydd. 15 A’r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr Arglwydd, a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd Dduw.

Ioan 9

Ac wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth. A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na’i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae’r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. Tra ydwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf. Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o’r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall; Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, Anfonedig). Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.

Y cymdogion gan hynny, a’r rhai a’i gwelsent ef o’r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw’r un oedd yn eistedd ac yn cardota? Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe. 10 Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di? 11 Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg. 12 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni wn i.

13 Hwythau a’i dygasant ef at y Phariseaid, yr hwn gynt a fuasai yn ddall. 14 A’r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef. 15 Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled. 16 Yna rhai o’r Phariseaid a ddywedasant, Nid yw’r dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw’r Saboth. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith. 17 Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef, am agoryd ohono dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, Mai proffwyd yw efe. 18 Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef, mai dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg. 19 A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr? 20 Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef: 21 Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano’i hun. 22 Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni’r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o’r synagog. 23 Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef. 24 Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro’r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn. 25 Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled. 26 Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di? 27 Yntau a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch:paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef? 28 Hwythau a’i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo ef; eithr disgyblion Moses ydym ni. 29 Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses: eithr hwn, nis gwyddom ni o ba le y mae efe. 30 Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i. 31 Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando. 32 Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall. 33 Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim. 34 Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a’i bwriasant ef allan. 35 Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw? 36 Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo? 37 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a’i gwelaist ef; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe. 38 Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i haddolodd ef.

39 A’r Iesu a ddywedodd, I farn y deuthum i’r byd hwn; fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion. 40 A rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion? 41 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.