Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Cronicl 10

10 A Rehoboam a aeth i Sichem; canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin. A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin, Jeroboam a ddychwelodd o’r Aifft. Canys hwy a anfonasent, ac a alwasent amdano ef. A Jeroboam a holl Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd, Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni, a ni a’th wasanaethwn di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith.

A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw, gan ddywedyd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn? A hwy a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Os byddi yn dda i’r bobl yma, a’u bodloni hwynt, ac os dywedi wrthynt eiriau teg, hwy a fyddant yn weision i ti byth. Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha beth ar yr iau a osododd dy dad arnom ni? 10 A’r gwŷr ieuainc y rhai a gynyddasent gydag ef a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom, ysgafnha dithau hi oddi arnom ni: fel hyn y dywedi wrthynt; Fy mys bach fydd ffyrfach na llwynau fy nhad. 11 Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd chwi â iau drom, minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf ag ysgorpionau. 12 Yna y daeth Jeroboam, a’r holl bobl, at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd. 13 A’r brenin a’u hatebodd hwynt yn arw: a’r brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid; 14 Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf arni hi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau. 15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: oherwydd yr achos oedd oddi wrth Dduw, fel y cwblhâi yr Arglwydd ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.

16 A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes chwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, aed pawb i’w pebyll, edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly holl Israel a aethant i’w pebyll. 17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy. 18 A’r brenin Rehoboam a anfonodd Hadoram, yr hwn oedd ar y dreth, a meibion Israel a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw: ond y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem. 19 Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.

Datguddiad 1

Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder; a chan ddanfon trwy ei angel, efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan: Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a’r holl bethau a welodd. Dedwydd yw’r hwn sydd yn darllen, a’r rhai sydd yn gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae’r amser yn agos.

Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a’r hwn a fu, a’r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef; Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o’r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Wele, y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau; a phob llygad a’i gwêl ef, ie, y rhai a’i gwanasant ef: a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef. Felly, Amen. Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog. Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a’ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist. 10 Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn, 11 Yn dywedyd, Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r diwethaf: a’r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea. 12 Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur; 13 Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur. 14 Ei ben ef a’i wallt oedd wynion fel gwlân, cyn wynned â’r eira; a’i lygaid fel fflam dân; 15 A’i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd. 16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth. 17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf: 18 A’r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth. 19 Ysgrifenna’r pethau a welaist, a’r pethau sydd, a’r pethau a fydd ar ôl hyn; 20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a’r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a’r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.

Seffaneia 2

Ymgesglwch, ie, deuwch ynghyd, genedl anhawddgar; Cyn i’r ddeddf esgor, cyn i’r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr Arglwydd. Ceisiwch yr Arglwydd, holl rai llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra: fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd.

Canys bydd Gasa yn wrthodedig, ac Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron. Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y Cerethiaid! y mae gair yr Arglwydd i’ch erbyn: O Ganaan, gwlad y Philistiaid, mi a’th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr. A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid. A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr Arglwydd eu Duw a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.

Clywais waradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â’r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl, ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt. Am hynny fel mai byw fi, medd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a’u difroda, a gweddill fy nghenedl a’u meddianna hwynt. 10 Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd. 11 Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt: canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o’i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.

12 Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir â’m cleddyf. 13 Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch. 14 A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: y pelican a’r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau: canys efe a ddinoetha y cedrwaith. 15 Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon, Myfi sydd, ac nid oes ond myfi: pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid! pawb a’r a êl heibio iddi, a’i hwtia, ac a ysgwyd ei law arni.

Luc 24

24 A’r dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt. A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw? Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea, Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi. A hwy a gofiasant ei eiriau ef; Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. 10 A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. 11 A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. 12 Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.

13 Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem. 14 Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. 15 A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â’i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. 16 Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. 17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist? 18 Ac un ohonynt, a’i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn? 19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, yr hwn oedd ŵr o broffwyd, galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl; 20 A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croeshoeliasant ef. 21 Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. 22 A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd: 23 A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw. 24 A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai’r gwragedd: ond ef nis gwelsant. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proffwydi! 26 Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant? 27 A chan ddechrau ar Moses, a’r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun. 28 Ac yr oeddynt yn nesáu i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach. 29 A hwy a’i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt. 30 A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt. 31 A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt. 32 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau? 33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r sawl oedd gyda hwynt, 34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon. 35 A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.

36 Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 37 Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled ohonynt ysbryd. 38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau? 39 Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi. 40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed. 41 Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd? 42 A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl. 43 Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt. 44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi. 45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau. 46 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: 47 A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. 48 Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn.

49 Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.

50 Ac efe a’u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt. 51 Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef. 52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: 53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.