M’Cheyne Bible Reading Plan
5 Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr Arglwydd; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; ac a osododd yn nhrysorau tŷ Dduw, yr arian, a’r aur, a’r holl lestri.
2 Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau-cenedl meibion Israel, i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno yw Seion. 3 Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis. 4 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r Lefiaid a godasant yr arch. 5 A hwy a ddygasant i fyny yr arch, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cysegr, y rhai oedd yn y babell, yr offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny. 6 Hefyd y brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch, a aberthasant o ddefaid, a gwartheg, fwy nag a ellid eu rhifo na’u cyfrif gan luosowgrwydd. 7 A’r offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiolaf, hyd dan adenydd y ceriwbiaid. 8 A’r ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch: a’r ceriwbiaid a gysgodent yr arch a’i throsolion, oddi arnodd. 9 A thynasant allan y trosolion, fel y gwelid pennau y trosolion o’r arch o flaen y gafell, ac ni welid hwynt oddi allan. Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn. 10 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a roddasai Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaethai yr Arglwydd gyfamod â meibion Israel, pan ddaethant hwy allan o’r Aifft.
11 A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad: 12 Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â’u meibion hwynt, ac â’u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn. 13 Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr Arglwydd; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr Arglwydd, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr Arglwydd; 14 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ Dduw.
6 Yna y llefarodd Solomon, Yr Arglwydd a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch; 2 A minnau a adeiledais dŷ yn drigfa i ti, a lle i’th breswylfod yn dragywydd. 3 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel: a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll. 4 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â’i ddwylo, gan ddywedyd, 5 Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, i fod fy enw ynddo; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel: 6 Ond mi a etholais Jerwsalem, i fod fy enw yno; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel. 7 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 8 Ond dywedodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: 9 Er hynny nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaeth allan o’th lwynau, efe a adeilada y tŷ i’m henw i. 10 Am hynny yr Arglwydd a gwblhaodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 11 Ac yno y gosodais yr arch; yn yr hon y mae cyfamod yr Arglwydd, yr hwn a amododd efe â meibion Israel.
4 Anwylyd, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i’r byd. 2 Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw: Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae. 3 A phob ysbryd a’r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a’r awron y mae efe yn y byd eisoes. 4 Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a’u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r hwn sydd yn y byd. 5 Hwynt-hwy, o’r byd y maent: am hynny y llefarant am y byd, a’r byd a wrendy arnynt. 6 Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni. 7 Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a’r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw. 8 Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw. 9 Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef. 10 Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau. 11 Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd. 12 Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom. 13 Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd. 14 A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd. 15 Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw. 16 A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a’r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau. 17 Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn. 18 Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A’r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad. 19 Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni. 20 Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd? 21 A’r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i’r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.
3 Gwae ddinas y gwaed! llawn celwydd ac ysbail ydyw i gyd, a’r ysglyfaeth heb ymado. 2 Bydd sŵn y ffrewyll, a sŵn cynnwrf olwynion, a’r march yn prancio, a’r cerbyd yn neidio. 3 Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw, a’i ddisglair waywffon; lliaws o laddedigion, ac aneirif o gelanedd; a heb ddiwedd ar y cyrff: tripiant wrth eu cyrff hwynt: 4 Oherwydd aml buteindra y butain deg, meistres swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra, a theuluoedd trwy ei swynion. 5 Wele fi i’th erbyn, medd Arglwydd y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth. 6 A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych. 7 A bydd i bawb a’th welo ffoi oddi wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefe, pwy a gwyna iddi? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti? 8 Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i’r hon y mae y môr yn rhagfur, a’i mur o’r môr? 9 Ethiopia oedd ei chadernid, a’r Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti. 10 Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a’i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a’i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau. 11 Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn. 12 Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a’u blaenffrwyth arnynt: os ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwytawr. 13 Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i’th elynion; tân a ysodd dy farrau. 14 Tyn i ti ddwfr i’r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i’r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen. 15 Yno y tân a’th ddifa, y cleddyf a’th dyr ymaith, efe a’th ysa di fel pryf y rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn. 16 Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith. 17 Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a’th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent. 18 Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a’th bendefigion a orweddant; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a’u casglo. 19 Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy weli; pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat; oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?
19 A’r Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho. 2 Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus, ac efe oedd ben‐publican, a hwn oedd gyfoethog. 3 Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. 4 Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno. 5 A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di. 6 Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a’i derbyniodd ef yn llawen. 7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus. 8 A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd. 9 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham. 10 Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.
11 Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerwsalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan. 12 Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo’i hun, ac i ddychwelyd. 13 Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnatewch hyd oni ddelwyf. 14 Eithr ei ddinaswyr a’i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom. 15 A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw’r gweision hyn ato, i’r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata. 16 A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt. 17 Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas. 18 A’r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt. 19 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas. 20 Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn: 21 Canys mi a’th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist. 22 Yntau a ddywedodd wrtho, O’th enau dy hun y’th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais: 23 A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog? 24 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo; 25 (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;) 26 Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 27 A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.
28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o’r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem. 29 Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i’r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, 30 Gan ddywedyd, Ewch i’r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma. 31 Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho. 32 A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt. 33 Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol? 34 A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef. 35 A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno. 36 Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd. 37 Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent; 38 Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf. 39 A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion. 40 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, y llefai’r cerrig yn y fan.
41 Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti, 42 Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid. 43 Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth, 44 Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad. 45 Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu; 46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 47 Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef; 48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.