M’Cheyne Bible Reading Plan
29 Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r Arglwydd Dduw. 2 Ac â’m holl gryfder y paratoais i dŷ fy Nuw, aur i’r gwaith aur, ac arian i’r arian, a phres i’r pres, a haearn i’r haearn, a choed i’r gwaith coed; meini onics, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml. 3 Ac eto am fod fy ewyllys tua thŷ fy Nuw, y mae gennyf o’m heiddo fy hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tuag at dŷ fy Nuw; heblaw yr hyn oll a baratoais tua’r tŷ sanctaidd: 4 Tair mil o dalentau aur, o aur Offir; a saith mil o dalentau arian puredig, i oreuro parwydydd y tai: 5 Yr aur i’r gwaith aur, a’r arian i’r arian; a thuag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i’r Arglwydd?
6 Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin, a offrymasant yn ewyllysgar, 7 Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ Dduw, bum mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chan mil o dalentau haearn. 8 A chyda’r hwn y ceid meini, hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr Arglwydd, trwy law Jehiel y Gersoniad. 9 A’r bobl a lawenhasant pan offryment o’u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i’r Arglwydd: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.
10 Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yng ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. 11 I ti, Arglwydd, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, Arglwydd, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth. 12 Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim. 13 Ac yn awr, ein Duw ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus. 14 Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o’th law dy hun y rhoesom i ti. 15 Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadau: fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros. 16 O Arglwydd ein Duw, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i’th enw sanctaidd, o’th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll. 17 Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd. 18 Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti. 19 A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a’th ddeddfau, ac i’w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo.
20 Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr Arglwydd eich Duw. A’r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i’r Arglwydd, ac i’r brenin. 21 Aberthasant hefyd ebyrth i’r Arglwydd, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymmau i’r Arglwydd, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o ŵyn, a’u diod‐offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel: 22 Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i’r Arglwydd yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad. 23 Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr Arglwydd yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno. 24 Yr holl dywysogion hefyd a’r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin. 25 A’r Arglwydd a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef yn Israel.
26 Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel. 27 A’r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 28 Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 29 Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweledydd, 30 Gyda’i holl frenhiniaeth ef, a’i gadernid, a’r amserau a aethant drosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.
3 Yr ail epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch; yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gof i chwi: 2 Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a’n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a’r Iachawdwr: 3 Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain. 4 Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth. 5 Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a’r ddaear yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr. 6 Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd. 7 Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion. 8 Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd. 9 Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch. 10 Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant, a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir. 11 A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, 12 Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant? 13 Eithr nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. 14 Oherwydd paham, anwylyd, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd. 15 A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef; 16 Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall, y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gŵyrdroi, megis yr ysgrythurau eraill, i’w dinistr eu hunain. 17 Chwychwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun. 18 Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol. Amen.
6 Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr Arglwydd; Cyfod, ymddadlau â’r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais. 2 Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr Arglwydd; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel. 3 Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y’th flinais? tystiolaetha i’m herbyn. 4 Canys mi a’th ddygais o dir yr Aifft, ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o’th flaen Moses, Aaron, a Miriam. 5 Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd.
6 Â pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid? 7 A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid? 8 Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw? 9 Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a’i hordeiniodd.
10 A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a’r mesur prin, peth sydd ffiaidd? 11 A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus? 12 Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a’i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a’u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau. 13 A minnau hefyd a’th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau. 14 Ti a fwytei, ac ni’th ddigonir; a’th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a’r hyn a achubych, a roddaf i’r cleddyf. 15 Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.
16 Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y’th wnawn yn anghyfannedd, a’i thrigolion i’w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.
15 Ac yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesáu ato ef, i wrando arno. 2 A’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt.
3 Ac efe a adroddodd wrthynt y ddameg hon, gan ddywedyd, 4 Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw’n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? 5 Ac wedi iddo ei chael, efe a’i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen. 6 A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a’i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid. 7 Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.
8 Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni olau gannwyll, ac ysgubo’r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef? 9 Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a’i chymdogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhewch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn. 10 Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.
11 Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab: 12 A’r ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd. 13 Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlon. 14 Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, y cododd newyn mawr trwy’r wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau. 15 Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a’i hanfonodd ef i’w feysydd i borthi moch. 16 Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â’r cibau a fwytâi’r moch; ac ni roddodd neb iddo. 17 A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a’u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn? 18 Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; 19 Ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti: gwna fi fel un o’th weision cyflog. 20 Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a’i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd. 21 A’r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i’m galw yn fab i ti. 22 A’r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg orau, a gwisgwch amdano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed: 23 A dygwch y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwytawn, a byddwn lawen. 24 Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen. 25 Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio. 26 Ac wedi iddo alw un o’r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn. 27 Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a’th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach. 28 Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef. 29 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion: 30 Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyda phuteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig. 31 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a’r eiddof fi oll ydynt eiddot ti. 32 Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.