Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 26-27

26 Am ddosbarthiad y porthorion: O’r Corhiaid yr oedd Meselemia mab Core, o feibion Asaff. A meibion Meselemia oedd, Sechareia y cyntaf‐anedig, Jediael yr ail, Sebadeia y trydydd, Jathniel y pedwerydd, Elam y pumed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed. A meibion Obed‐edom; Semaia y cyntaf‐anedig, Jehosabad yr ail, Joa y trydydd, a Sachar y pedwerydd, a Nethaneel y pumed, Ammiel y chweched, Issachar y seithfed, Peulthai yr wythfed: canys Duw a’i bendithiodd ef. Ac i Semaia ei fab ef y ganwyd meibion, y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tad: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy. Meibion Semaia; Othni, a Reffael, ac Obed, Elsabad; ei frodyr ef oedd wŷr nerthol, sef Elihu, a Semacheia. Y rhai hyn oll o feibion Obed‐edom: hwynt‐hwy, a’u meibion, a’u brodyr, yn wŷr nerthol mewn cryfder, tuag at y weinidogaeth, oedd drigain a dau o Obed‐edom. Ac i Meselemia, yn feibion ac yn frodyr, yr oedd tri ar bymtheg o wŷr nerthol. 10 O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf‐anedig, eto ei dad a’i gosododd ef yn ben;) 11 Hilceia yr ail, Tebaleia y trydydd, Sechareia y pedwerydd: holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg. 12 Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion, sef ymhlith y penaethiaid, ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ yr Arglwydd.

13 A hwy a fwriasant goelbrennau, fychan a mawr, yn ôl tŷ eu tadau, am bob porth. 14 A choelbren Selemeia a syrthiodd tua’r dwyrain: a thros Sechareia ei fab, cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a’i goelbren ef a ddaeth tua’r gogledd. 15 I Obed‐edom tua’r deau, ac i’w feibion, y daeth tŷ Asuppim. 16 I Suppim, a Hosa, tua’r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw, yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall. 17 Tua’r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid, tua’r gogledd pedwar beunydd, tua’r deau pedwar beunydd, a thuag Asuppim dau a dau. 18 A Pharbar tua’r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau yn Parbar. 19 Dyma ddosbarthiadau y porthorion, o feibion Core, ac o feibion Merari.

20 Ac o’r Lefiaid, Ahïa oedd ar drysorau tŷ Dduw, ac ar drysorau y pethau cysegredig. 21 Am feibion Laadan: meibion y Gersoniad Laadan, pennau tylwyth Laadan y Gersoniad, oedd Jehieli. 22 Meibion Jehieli; Setham, a Joel ei frawd, oedd ar drysorau tŷ yr Arglwydd. 23 O’r Amramiaid, a’r Ishariaid, o’r Hebroniaid, a’r Ussieliaid: 24 A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y trysorau. 25 A’i frodyr ef o Eleasar; Rehabia ei fab ef, a Jesaia ei fab yntau, a Joram ei fab yntau, a Sichri ei fab yntau, a Selomith ei fab yntau. 26 Y Selomith hwnnw a’i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin, a’r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a thywysogion y llu. 27 O’r rhyfeloedd ac o’r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr Arglwydd. 28 A’r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd, a Saul mab Cis, ac Abner mab Ner, a Joab mab Serfia, a phwy bynnag a gysegrasai ddim, yr oedd efe dan law Selomith a’i frodyr.

29 O’r Ishariaid, Chenaneia a’i feibion oedd yn Israel yn swyddogion, ac yn farnwyr, ar y gwaith oddi allan. 30 O’r Hebroniaid, Hasabeia a’i frodyr, meibion nerthol, mil a saith gant, oedd mewn swydd yn Israel, o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, yn holl waith yr Arglwydd, ac yng ngwasanaeth y brenin. 31 O’r Hebroniaid, Jereia oedd ben o’r Hebroniaid, yn ôl cenedlaethau ei dadau: yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt, a chafwyd yn eu mysg hwy wŷr cryfion nerthol, yn Jaser Gilead. 32 A’i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o bennau‐cenedl: a Dafydd y brenin a’u gosododd hwynt ar y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ym mhob gorchwyl Duw, a gorchwyl y brenin.

27 Pedair mil ar hugain oedd pob dosbarthiad o feibion Israel dan eu rhif, yn bennau‐cenedl, ac yn dywysogion miloedd a channoedd, a’u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, o fis i fis, trwy holl fisoedd y flwyddyn. Ar y dosbarthiad cyntaf, dros y mis cyntaf, yr oedd Jasobeam mab Sabdiel; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain. O feibion Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf. Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad, ac o’i ddosbarthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain, ac oddi ar y deg ar hugain; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef. Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab, a Sebadeia ei fab ar ei ôl ef; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog, Samhuth yr Israhiad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 10 Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Peloniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 11 Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 12 Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad, o’r Benjaminiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 13 Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 14 Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. 15 Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

16 Ac ar lwythau Israel: ar y Reubeniaid, Elieser mab Sichri oedd dywysog: ar y Simeoniaid, Seffatia mab Maacha: 17 Ar y Lefiaid, Hasabeia mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Sadoc: 18 Ar Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael: 19 Ar Sabulon, Ismaia mab Obadeia: ar Nafftali, Jerimoth mab Asriel: 20 Ar feibion Effraim, Hosea mab Asaseia: ar hanner llwyth Manasse, Joel mab Pedaia: 21 Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido mab Sechareia: ar Benjamin, Jaasiel mab Abner: 22 Ar Dan, Asarel mab Jeroham. Dyma dywysogion llwythau Israel.

23 Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys dywedasai yr Arglwydd yr amlhâi efe Israel megis sêr y nefoedd. 24 Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif, ond ni orffennodd efe, am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd.

25 Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi hefyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan mab Usseia. 26 Ac ar weithwyr y maes, y rhai oedd yn llafurio y ddaear, yr oedd Esri mab Celub. 27 Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn oedd yn dyfod o’r gwinllannoedd i’r selerau gwin, yr oedd Sabdi y Siffmiad. 28 Ac ar yr olewydd, a’r sycamorwydd, y rhai oedd yn y dyffrynnoedd, yr oedd Baalhanan y Gederiad: ac ar y selerau olew yr oedd Joas. 29 Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron, yr oedd Sitrai y Saroniad: ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd, yr oedd Saffat mab Adlai. 30 Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad: ac ar yr asynnod Jehdeia y Meronothiad. 31 Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywysogion y golud eiddo y brenin Dafydd. 32 A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr, gŵr doeth, ac ysgrifennydd: Jehiel hefyd mab Hachmom oedd gyda meibion y brenin. 33 Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y brenin. 34 Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia, ac Abiathar: a thywysog llu y brenin oedd Joab.

2 Pedr 1

Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a’n Hachubwr Iesu Grist: Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni, Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd: Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant. A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth; Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad. Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt. 10 Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: 11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist. 12 Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol. 13 Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi; 14 Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi. 15 Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn. 16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. 17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 18 A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd. 19 Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi: 20 Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. 21 Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.

Micha 4

A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr Arglwydd fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato. A chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd, ac i dŷ Dduw Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem.

Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i’w dychrynu; canys genau Arglwydd y lluoedd a’i llefarodd. Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd. Yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a’r hon a ddrygais: A gwnaf y gloff yn weddill, a’r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a’r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.

A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem. Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a’th gymerodd megis gwraig yn esgor. 10 Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y’th waredir; yno yr achub yr Arglwydd di o law dy elynion.

11 Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i’th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion. 12 Ond ni wyddant hwy feddyliau yr Arglwydd, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a’u casgl hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu. 13 Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a’th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i’r Arglwydd eu helw hwynt, a’u golud i Arglwydd yr holl ddaear.

Luc 13

13 Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai, y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â’u haberthau. A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau? Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a’u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem? Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.

Ac efe a ddywedodd y ddameg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd. Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: tor ef i lawr; paham y mae efe yn diffrwytho’r tir? Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch, a bwrw tail: Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid e, gwedi hynny tor ef i lawr. 10 Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth.

11 Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymunioni. 12 Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid. 13 Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw. 14 A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i’r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac nid ar y dydd Saboth. 15 Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb, a’i arwain i’r dwfr? 16 Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth? 17 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a’r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo.

18 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi? 19 Tebyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn, ac a’i heuodd yn ei ardd; ac efe a gynyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef. 20 A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? 21 Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll. 22 Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerwsalem.

23 A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt, 24 Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. 25 Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau’r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo’r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych: 26 Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni. 27 Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd. 28 Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan. 29 A daw rhai o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac o’r gogledd, ac o’r deau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw. 30 Ac wele, olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olaf.

31 Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i’r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd y’m perffeithir. 33 Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem. 34 O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 35 Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.