M’Cheyne Bible Reading Plan
24 Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar. 2 A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant. 3 A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth. 4 A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth. 5 Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda’r llall; canys tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ Dduw, oedd o feibion Eleasar, ac o feibion Ithamar. 6 A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a’u hysgrifennodd hwynt gerbron y brenin, a’r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abiathar, a phencenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleasar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar. 7 A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a’r ail i Jedaia, 8 Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim, 9 Y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin, 10 Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia, 11 Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia, 12 Yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim, 13 Y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab, 14 Y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer, 15 Y ddeufed ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Affses, 16 Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel, 17 Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul, 18 Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia. 19 Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef.
20 A’r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeia. 21 Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia. 22 O’r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath. 23 A meibion Hebron oedd, Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd. 24 O feibion Ussiel; Micha: o feibion Micha; Samir. 25 Brawd Micha oedd Isia; o feibion Isia; Sechareia. 26 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi: meibion Jaasei; Beno.
27 Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a Soham, a Saccur, ac Ibri. 28 O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion. 29 Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel. 30 A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau. 31 A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau‐cenedl yr offeiriaid a’r Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuangaf.
25 A neilltuodd Dafydd, a thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asaff, a Heman, a Jedwthwn, y rhai a broffwydent â thelynau, ac â nablau, ac â symbalau; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd: 2 O feibion Asaff; Saccur, a Joseff, a Nethaneia, Asarela, meibion Asaff, dan law Asaff, yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin. 3 A Jedwthwn: meibion Jedwthwn; Gedaleia, a Seri, a Jesaia, a Hasabeia. Matitheia, chwech, dan law Jedwthwn eu tad, ar y delyn yn proffwydo, i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd. 4 O Heman: meibion Heman; Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, a Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, a Romamti‐ieser, Josbecasa, Malothi, Hothir, a Mahasioth: 5 Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau Duw, i ddyrchafu’r corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair o ferched. 6 Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, a nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ Dduw; yn ôl trefn y brenin i Asaff, a Jedwthwn, a Heman. 7 A’u nifer hwynt, ynghyd â’u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
8 A hwy a fwriasant goelbrennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a disgybl. 9 A’r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 10 Y trydydd i Saccur; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 11 Y pedwerydd i Isri; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 12 Y pumed i Nethaneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 13 Y chweched i Bucceia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 14 Y seithfed i Jesarela; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 15 Yr wythfed i Jesaia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 16 Y nawfed i Mataneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 17 Y degfed i Simei; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 18 Yr unfed ar ddeg i Asareel; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 19 Y deuddegfed i Hasabeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 20 Y trydydd ar ddeg i Subael; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 21 Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 22 Y pymthegfed i Jerimoth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 23 Yr unfed ar bymtheg i Hananeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 24 Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 25 Y deunawfed i Hanani; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 26 Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 27 Yr ugeinfed i Eliatha; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 28 Yr unfed ar hugain i Hothir; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 29 Y ddeufed ar hugain i Gidalti; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 30 Y trydydd ar hugain i Mahasioth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 31 Y pedwerydd ar hugain i Romamtieser; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.
5 Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir: 2 Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl; 3 Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i’r praidd. 4 A phan ymddangoso’r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant. 5 Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i’r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. 6 Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas: 7 Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. 8 Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. 9 Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd. 10 A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo. 11 Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 12 Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw’r hwn yr ydych yn sefyll ynddo. 13 Y mae’r eglwys sydd ym Mabilon, yn gydetholedig â chwi, yn eich annerch; a Marc, fy mab i. 14 Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yng Nghrist Iesu. Amen.
3 Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: Onid i chwi y perthyn gwybod barn? 2 Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi amdanynt, a’u cig oddi wrth eu hesgyrn; 3 Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a’u croen a flingant oddi amdanynt, a’u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i’r crochan, ac fel cig yn y badell. 4 Yna y llefant ar yr Arglwydd, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd.
5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â’u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a’r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn. 6 Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a’r dydd a ddua arnynt. 7 Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a’r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd Duw ateb.
8 Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a’i bechod i Israel. 9 Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb. 10 Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd. 11 Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr, a’i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a’r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr Arglwydd yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr Arglwydd i’n plith? ni ddaw drwg arnom. 12 Am hynny o’ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.
12 Yn y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. 2 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nis gwybyddir. 3 Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai. 4 Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur. 5 Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch. 6 Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw: 7 Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to. 8 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a’m haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau gerbron angylion Duw. 9 A’r hwn a’m gwado i gerbron dynion, a wedir gerbron angylion Duw. 10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir. 11 A phan y’ch dygant i’r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a’r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch: 12 Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.
13 A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth. 14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi? 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd‐dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.
16 Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda. 17 Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? 18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m da. 19 A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen. 20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist? 21 Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.
22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch. 23 Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth, a’r corff yn fwy na’r dillad. 24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i’r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar? 25 A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? 26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill? 27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 28 Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i’r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd? 29 Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus. 30 Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau’r pethau hyn.
31 Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg. 32 Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. 33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf. 34 Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd. 35 Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a’ch canhwyllau wedi eu golau: 36 A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd. 37 Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy. 38 Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny. 39 A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 40 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.
41 A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd? 42 A’r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw’r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd? 43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly. 44 Yn wir meddaf i chwi, Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo. 45 Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi: 46 Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r anffyddloniaid. 47 A’r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod. 48 Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda’r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.
49 Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes? 50 Eithr y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner! 51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i’w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael: 52 Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri. 53 Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a’r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.
54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae. 55 A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd. 56 O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a’r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall? 57 A phaham nad ydych, ie, ohonoch eich hunain, yn barnu’r hyn sydd gyfiawn?
58 Canys tra fyddech yn myned gyda’th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i’r swyddog dy daflu yng ngharchar: 59 Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad ei di ddim oddi yno, hyd oni thelych, ie, yr hatling eithaf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.