M’Cheyne Bible Reading Plan
18 A darfu wedi hyn, i Dafydd daro’r Philistiaid, a’u darostwng hwynt, a dwyn Gath a’i phentrefi o law y Philistiaid. 2 Hefyd efe a drawodd Moab; a’r Moabiaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth.
3 Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates. 4 A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch, ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd. 5 A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr. 6 A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r Arglwydd a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth. 7 A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem. 8 Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, â’r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a’r colofnau, a’r llestri pres.
9 A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba; 10 Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i’w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a’i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou.
11 Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd, gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec. 12 Ac Abisai mab Serfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymtheg.
13 Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a’r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe.
14 A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl. 15 A Joab mab Serfia oedd ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; 16 A Sadoc mab Ahitub, ac Abimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn ysgrifennydd; 17 Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.
5 Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch. 2 Eich cyfoeth a bydrodd, a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed. 3 Eich aur a’ch arian a rydodd; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf. 4 Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd. 5 Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth. 6 Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i’ch erbyn. 7 Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar. 8 Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd. 9 Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na’ch condemnier: wele, y mae’r Barnwr yn sefyll wrth y drws. 10 Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros. 11 Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd, a thrugarog. 12 Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i’r nef, nac i’r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a’ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth. 13 A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn esmwyth arno? caned salmau. 14 A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy drosto, gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd: 15 A gweddi’r ffydd a iachâ’r claf, a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo. 16 Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn. 17 Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis. 18 Ac efe a weddïodd drachefn; a’r nef a roddes law, a’r ddaear a ddug ei ffrwyth. 19 Fy mrodyr, od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef; 20 Gwybydded, y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lliaws o bechodau.
2 A Jona a weddïodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn, 2 Ac a ddywedodd, O’m hing y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef. 3 Ti a’m bwriaist i’r dyfnder, i ganol y môr; a’r llanw a’m hamgylchodd: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof. 4 A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua’th deml sanctaidd. 5 Y dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o’m hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen. 6 Disgynnais i odre’r mynyddoedd; y ddaear a’i throsolion oedd o’m hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes o’r ffos, O Arglwydd fy Nuw. 7 Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr Arglwydd; a’m gweddi a ddaeth i mewn atat i’th deml sanctaidd. 8 Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun. 9 A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd.
10 A llefarodd yr Arglwydd wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych.
7 Ac wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai’r bobl, efe a aeth i mewn i Gapernaum. 2 A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd annwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymron marw. 3 A phan glybu efe sôn am yr Iesu, efe a ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon, gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef. 4 Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo; 5 Canys y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni synagog. 6 A’r Iesu a aeth gyda hwynt. Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion ato, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: 7 Oherwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas. 8 Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 9 Pan glybu’r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 10 A’r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.
11 A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion, a thyrfa fawr. 12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi. 13 A’r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla. 14 A phan ddaeth atynt, efe a gyffyrddodd â’r elor: a’r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod. 15 A’r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a’i rhoddes i’w fam. 16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â’i bobl. 17 A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea, a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch. 18 A’i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.
19 Ac Ioan, wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 20 A’r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 21 A’r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phlâu, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl. 23 A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.
24 Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt? 25 Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent. 26 Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy na phroffwyd. 27 Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 28 Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef. 29 A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan. 30 Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31 A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg? 32 Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch. 33 Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo. 34 Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. 35 A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o’i phlant.
36 Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dŷ’r Pharisead, ac a eisteddodd i fwyta. 37 Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead, a ddug flwch o ennaint: 38 A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd â’r ennaint. 39 A phan welodd y Pharisead, yr hwn a’i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn broffwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi. 40 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athro, dywed. 41 Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. 42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf? 43 A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist. 44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di’r wraig hon? mi a ddeuthum i’th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen. 45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed. 46 Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint. 47 Oherwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig. 48 Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau. 49 A’r rhai oedd yn cydeistedd i fwyta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddau pechodau hefyd? 50 Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.