Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 11-12

11 Yna holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn a’th gnawd di ydym ni. Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel i mewn ac allan: a dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrthyt, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel. A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Samuel.

A Dafydd a holl Israel a aeth i Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yno y Jebusiaid oedd drigolion y tir. A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion, yr hwn yw dinas Dafydd. A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr esgynnodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf. A thrigodd Dafydd yn y tŵr: oherwydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd. Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas. A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef.

10 Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i’w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd. 11 A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo. 12 Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o’r tri chadarn. 13 Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd, a’r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid. 14 A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a’i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr.

15 A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i’r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim. 16 A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem. 17 A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth? 18 A’r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant ac a’i dygasant i Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd: 19 Ac efe a ddywedodd, Na ato fy Nuw i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.

20 Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o’r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri. 21 O’r tri, anrhydeddusach na’r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf. 22 Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. 23 Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun. 24 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn. 25 Wele, anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard.

26 A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, Elhanan mab Dodo o Bethlehem, 27 Sammoth yr Harodiad, Heles y Peloniad, 28 Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad, 29 Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad, 30 Maharai y Netoffathiad, Heled mab Baana y Netoffathiad, 31 Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, Benaia y Pirathoniad, 32 Hurai o afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad, 33 Asmafeth y Baharumiad, Eliahba y Saalboniad, 34 Meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad, 35 Ahïam mab Sachar yr Harariad, Eliffal mab Ur, 36 Heffer y Mecherathiad, Ahïa y Peloniad, 37 Hesro y Carmeliad, Naarai mab Esbai, 38 Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri, 39 Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia, 40 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 41 Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai, 42 Adina mab Sisa y Reubeniad, pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain, 43 Hanan mab Maacha, a Josaffat y Mithniad, 44 Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hothan yr Aroeriad, 45 Jediael mab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad, 46 Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad, 47 Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

12 A dyma y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag, ac efe eto yn cadw arno rhag Saul mab Cis: a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn, cynorthwywyr y rhyfel, Yn arfogion â bwâu, yn medru o ddeau ac o aswy daflu â cherrig, a saethu mewn bwâu: o frodyr Saul, o Benjamin. Y pennaf oedd Ahieser, yna Joas, meibion Semaa y Gibeathiad, a Jesiel a Phelet meibion Asmafeth, a Beracha, a Jehu yr Anthothiad, Ac Ismaia y Gibeoniad, grymus oedd efe ymhlith y deg ar hugain, a goruwch y deg ar hugain; Jeremeia hefyd, a Jehasiel, a Johanan, a Josabad y Gederathiad, Elusai, a Jerimoth, a Bealeia, a Semareia, Seffatia yr Haruffiad. Elcana, a Jeseia, ac Asareel, a Joeser, a Jasobeam, y Corhiaid, A Joela, a Sebadeia, meibion Jeroham o Gedor. A rhai o’r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i’r amddiffynfa i’r anialwch, yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac megis iyrchod ar y mynyddoedd o fuander oeddynt hwy. Eser y cyntaf, Obadeia yr ail, Eliab y trydydd, 10 Mismanna y pedwerydd, Jeremeia y pumed, 11 Attai y chweched, Eliel y seithfed, 12 Johanan yr wythfed, Elsabad y nawfed, 13 Jeremeia y degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg. 14 Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a’r mwyaf ar fil. 15 Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua’r dwyrain, a thua’r gorllewin. 16 A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i’r amddiffynfa at Dafydd. 17 A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un â chwi: ond os i’m bradychu i’m gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo. 18 A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i’th gynorthwywyr; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt, ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin. 19 A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda’r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, wrth gyngor, a’i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni. 20 Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a Michael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse. 21 A’r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu. 22 Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i’w gynorthwyo ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.

23 A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr Arglwydd. 24 O feibion Jwda, yn dwyn tarian a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yn arfog i ryfel. 25 O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant. 26 O feibion Lefi, pedair mil a chwe chant. 27 A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant. 28 Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gapteiniaid. 29 Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul. 30 Ac o feibion Effraim, ugain mil ac wyth cant, yn rymus nerthol, yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau. 31 Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysbysasid erbyn eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin. 32 Ac o feibion Issachar, y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur, eu penaethiaid hwynt oedd ddeucant, a’u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt. 33 O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon. 34 Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, â tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain. 35 Ac o’r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela. 36 Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela. 37 Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o’r Reubeniaid, ac o’r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel. 38 Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a’r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin. 39 A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys eu brodyr a arlwyasant iddynt hwy. 40 A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.

Hebreaid 13

13 Parhaed brawdgarwch. Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod. Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff. Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith: Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd. Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd. 10 Y mae gennym ni allor, o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta. 11 Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i’r gwersyll. 12 Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i’r porth. 13 Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef. 14 Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl. 15 Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef. 16 Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. 17 Ufuddhewch i’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di‐fudd i chwi yw hynny. 18 Gweddïwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth. 19 Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt. 20 A Duw’r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, 21 A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 22 Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch. 23 Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda’r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi. 24 Anerchwch eich holl flaenoriaid, a’r holl saint. Y mae’r rhai o’r Ital yn eich annerch. 25 Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.

At yr Hebreaid yr ysgrifennwyd o’r Ital, gyda Thimotheus.

Amos 7

Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd. A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, Arglwydd, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn, eb yr Arglwydd.

Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Dduw i mi: ac wele yr Arglwydd Dduw yn galw i farn trwy dân; a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth. Yna y dywedais, Arglwydd Dduw, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr Arglwydd Dduw.

Fel hyn y dangosodd efe i mi: ac wele yr Arglwydd yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn, ac yn ei law linyn. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r Arglwydd a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach. Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.

10 Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef. 11 Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad. 12 Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda; a bwyta fara yno, a phroffwyda yno: 13 Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw.

14 Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion: 15 A’r Arglwydd a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd; a’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i’m pobl Israel.

16 Yr awr hon gan hynny gwrando air yr Arglwydd; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac. 17 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a’th dir a rennir wrth linyn; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad.

Luc 2

Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu’r holl fyd. (Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.) A phawb a aethant i’w trethu, bob un i’w ddinas ei hun. A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd), I’w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog. A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni. A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a’i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety.

Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant. 10 A’r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl: 11 Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd. 12 A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a’i ddodi yn y preseb. 13 Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd, 14 Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da. 15 A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni. 16 A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb. 17 A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn. 18 A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt. 19 Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon. 20 A’r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.

21 A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddŵyn ef yn y groth. 22 Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd; 23 (Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd;) 24 Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colomen. 25 Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerwsalem, a’i enw Simeon; a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a’r Ysbryd Glân oedd arno. 26 Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd. 27 Ac efe a ddaeth trwy’r ysbryd i’r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith; 28 Yna efe a’i cymerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd, 29 Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air: 30 Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, 31 Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd; 32 Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel. 33 Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef. 34 A Simeon a’u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn; 35 (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau. 36 Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod; 37 Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o’r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos. 38 A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem. 39 Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i’w dinas eu hun Nasareth. 40 A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.

41 A’i rieni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg. 42 A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl. 43 Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem; ac ni wyddai Joseff a’i fam ef: 44 Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod. 45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef. 46 A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt. 47 A synnu a wnaeth ar bawb a’r a’i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a’i atebion. 48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di. 49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad? 50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt. 51 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon. 52 A’r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.