M’Cheyne Bible Reading Plan
9 A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.
2 Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid. 3 Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse: 4 Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda. 5 Ac o’r Siloniaid; Asaia y cyntaf‐anedig, a’i feibion. 6 Ac o feibion Sera; Jeuel, a’u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain. 7 Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua, 8 Ibneia hefyd mab Jeroham, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija; 9 A’u brodyr yn ôl eu cenedlaethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau‐cenedl ar dŷ eu tadau.
10 Ac o’r offeiriaid; Jedaia, a Jehoiarib, a Jachin, 11 Asareia hefyd mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ Dduw; 12 Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malceia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer. 13 A’u brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw. 14 Ac o’r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari, 15 Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff; 16 Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid. 17 Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a’u brodyr; Salum ydoedd bennaf; 18 A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion. 19 Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn. 20 Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r Arglwydd ydoedd gydag ef. 21 Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod. 22 Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd. 23 Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau. 24 Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau. 25 A’u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt. 26 Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.
27 Ac o amgylch tŷ Dduw y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore. 28 Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan. 29 A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a’r gwin, a’r olew, a’r thus, a’r aroglau peraidd. 30 Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd. 31 A Matitheia, un o’r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf‐anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell. 32 Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i’w ddarparu bob Saboth. 33 A dyma y cantorion, pennau‐cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos. 34 Dyma bennau‐cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.
35 Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha: 36 A’i fab cyntaf‐anedig ef oedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab, 37 A Gedor, ac Ahïo, a Sechareia a Micloth. 38 A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr. 39 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal. 40 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha. 41 A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas. 42 Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa: 43 A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. 44 Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.
10 A’r Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. 2 A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul. 3 A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen bwâu a’i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion. 4 Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwân fi ag ef, rhag dyfod y rhai dienwaededig hyn a’m gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnâi, canys ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno. 5 A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw. 6 Felly y bu farw Saul, a’i dri mab ef, a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd. 7 A phan welodd holl wŷr Israel, y rhai oedd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a’i feibion; hwy a ymadawsant o’u dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.
8 A thrannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa. 9 Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a’i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ddangos i’w delwau, ac i’r bobl. 10 A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau, a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.
11 A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul, 12 Pob gŵr nerthol a godasant, ac a gymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a’u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.
13 Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd, sef yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi; 14 Ac heb ymgynghori â’r Arglwydd: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.
12 Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni; 2 Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. 3 Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. 4 Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod. 5 A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo: 6 Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. 7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? 8 Eithr os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. 9 Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw? 10 Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef. 11 Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef. 12 Oherwydd paham cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant, a’r gliniau a ymollyngasant. 13 A gwnewch lwybrau union i’ch traed; fel na throer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach. 14 Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd: 15 Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer; 16 Na bo un puteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint. 17 Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu’r fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi. 18 Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl, 19 A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a’i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt: 20 (Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell. 21 Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.) 22 Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion, 23 I gymanfa a chynulleidfa’r rhai cyntaf‐anedig, y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, 24 Ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel. 25 Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear, mwy o lawer ni ddihangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef: 26 Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. 27 A’r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir. 28 Oherwydd paham, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi‐sigl, bydded gennym ras, trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn: 29 Oblegid ein Duw ni sydd dân ysol.
6 Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion, ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria, y rhai a enwir yn bennaf o’r cenhedloedd, y rhai y daeth tŷ Israel atynt! 2 Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi? 3 Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais; 4 Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o’r praidd, a’r lloi o ganol y cut; 5 Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd; 6 Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â’r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff.
7 Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a ddygir yn gaeth; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir. 8 Tyngodd yr Arglwydd Dduw iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwydd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi, medd Arglwydd Dduw y lluoedd. 9 A bydd, os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion, y byddant feirw. 10 Ei ewythr a’i cyfyd i fyny, a’r hwn a’i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi? ac efe a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau, Taw; am na wasanaetha cofio enw yr Arglwydd. 11 Oherwydd wele yr Arglwydd yn gorchymyn, ac efe a dery y tŷ mawr ag agennau, a’r tŷ bychan â holltau.
12 A red meirch ar y graig? a ardd neb hi ag ychen? canys troesoch farn yn fustl, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod. 13 O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim, yn dywedyd, Onid o’n nerth ein hun y cymerasom i ni gryfder? 14 Ond wele, mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi, tŷ Israel, medd Arglwydd Dduw y lluoedd, genedl; a hwy a’ch cystuddiant chwi, o’r ffordd yr ewch i Hamath, hyd afon y diffeithwch.
39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i’r mynydd‐dir ar frys, i ddinas o Jwda; 40 Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias, ac a gyfarchodd well i Elisabeth. 41 A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o’r Ysbryd Glân. 42 A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di. 43 Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi? 44 Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i’m clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth. 45 A bendigedig yw’r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.
46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, 47 A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. 48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. 49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. 50 A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. 51 Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. 52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. 53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. 54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd; 55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd. 56 A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.
57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab. 58 A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi. 59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad. 60 A’i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef. 61 Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn. 62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef. 63 Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. 64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. 65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. 66 A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.
67 A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, 68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72 I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn, 75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, 78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, 79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. 80 A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.