Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 7-8

A meibion Issachar oedd, Tola, a Phua, Jasub, a Simron, pedwar. A meibion Tola; Ussi, a Reffaia, a Jeriel, a Jahmai, a Jibsam, a Semuel, penaethiaid ar dŷ eu tadau: o Tola yr ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn eu cenedlaethau; eu rhif yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain a chwe chant. A meibion Ussi; Israhïa: a meibion Israhïa; Michael, ac Obadeia, a Joel, Isia, pump: yn benaethiaid oll. A chyda hwynt yn eu cenedlaethau, ac yn ôl tŷ eu tadau, yr ydoedd byddinoedd milwyr i ryfel, un fil ar bymtheg ar hugain: canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion. A’u brodyr cedyrn o nerth, o holl deuluoedd Issachar, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn saith mil a phedwar ugain mil oll.

A meibion Benjamin oedd, Bela, a Becher, a Jediael, tri. A meibion Bela; Esbon, ac Ussi, ac Ussiel, a Jerimoth, ac Iri; pump o bennau tŷ eu tadau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain. A meibion Becher oedd, Semira, a Joas, ac Elieser, ac Elioenai, ac Omri, a Jerimoth, ac Abeia, ac Anathoth, ac Alemeth: y rhai hyn oll oedd feibion Becher. A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn ugain mil a dau cant. 10 A meibion Jediael; Bilhan: a meibion Bilhan; Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a Chenaana, a Sethan, a Tharsis, ac Ahisahar. 11 Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael, yn bennau eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn ddwy fil ar bymtheg a deucant. 12 Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, meibion Aher.

13 Meibion Nafftali; Jasiel, a Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha.

14 Meibion Manasse; Asriel, yr hwn a ymddûg ei wraig: (ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead: 15 A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim, ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha:) ac enw yr ail fab Salffaad: ac i Salffaad yr oedd merched. 16 A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef Seres, a’i feibion ef oedd Ulam a Racem. 17 A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse. 18 A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala. 19 A meibion Semida oedd, Ahïan, a Sechem, a Lichi, ac Aniham.

20 A meibion Effraim; Suthela, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntau, ac Elada ei fab yntau, a Thahath ei fab yntau,

21 A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a’u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt. 22 Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a’i frodyr a ddaethant i’w gysuro ef.

23 A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia, am fod drygfyd yn ei dŷ ef. 24 (Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adeiladodd Beth‐horon yr isaf, a’r uchaf hefyd, ac Ussen‐sera.) 25 A Reffa oedd ei fab ef, a Reseff, a Thela ei fab yntau, a Thahan ei fab yntau, 26 Laadan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau, 27 Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.

28 A’u meddiant a’u cyfanheddau oedd, Bethel a’i phentrefi, ac o du y dwyrain Naaran, ac o du y gorllewin Geser a’i phentrefi; a Sichem a’i phentrefi, hyd Gasa a’i phentrefi: 29 Ac ar derfynau meibion Manasse, Beth‐sean, a’i phentrefi, Taanach a’i phentrefi, Megido a’i phentrefi, Dor a’i phentrefi. Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.

30 Meibion Aser; Imna, ac Isua, ac Isuai, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. 31 A meibion Bereia; Heber, a Malchiel, hwn yw tad Birsafith. 32 A Heber a genhedlodd Jafflet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt. 33 A meibion Jafflet; Pasach, a Bimhal, ac Asuath. Dyma feibion Jafflet. 34 A meibion Samer; Ahi, a Roga, Jehubba, ac Aram. 35 A meibion ei frawd ef Helem; Soffa, ac Imna, a Seles, ac Amal. 36 Meibion Soffa; Sua, a Harneffer, a Sual, a Beri, ac Imra, 37 Beser, a Hod, a Samma, a Silsa, ac Ithran, a Beera. 38 A meibion Jether; Jeffunne, Pispa hefyd, ac Ara. 39 A meibion Ula; Ara, a Haniel, a Resia. 40 Y rhai hyn oll oedd feibion Aser, pennau eu cenedl, yn ddewis wŷr o nerth, yn bennau‐capteiniaid. A’r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel, oedd chwe mil ar hugain o wŷr.

Benjamin hefyd a genhedlodd Bela ei gyntaf‐anedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd, Noha y pedwerydd, a Raffa y pumed. A meibion Bela oedd, Adar, a Gera, ac Abihud, Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa, A Gera, a Seffuffan, a Huram. Dyma hefyd feibion Ehud; dyma hwynt pennau‐cenedl preswylwyr Geba, a hwy a’u mudasant hwynt i Manahath: Naaman hefyd, ac Ahïa, a Gera, efe a’u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa, ac Ahihud. Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith: Husim a Baara oedd ei wragedd. Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jobab, a Sibia, a Mesa, a Malcham, 10 A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau‐cenedl. 11 Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal. 12 A meibion Elpaal oedd, Eber, a Misam, a Samed, yr hwn a adeiladodd Ono, a Lod a’i phentrefi. 13 Bereia hefyd, a Sema oedd bennau‐cenedl preswylwyr Ajalon; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath. 14 Ahïo hefyd, Sasac, a Jeremoth, 15 Sebadeia hefyd, ac Arad, ac Ader, 16 Michael hefyd, ac Ispa, a Joha, meibion Bereia; 17 Sebadeia hefyd, a Mesulam, a Heseci, a Heber, 18 Ismerai hefyd, a Jeslïa, a Jobab, meibion Elpaal; 19 Jacim hefyd, a Sichri, a Sabdi, 20 Elienai hefyd, a Silthai, ac Eliel, 21 Adaia hefyd, a Beraia, a Simrath, meibion Simhi; 22 Ispan hefyd, a Heber, ac Eliel, 23 Abdon hefyd, a Sichri, a Hanan, 24 Hananeia hefyd, ac Elam, ac Antotheia, 25 Iffedeia hefyd, a Phenuel, meibion Sasac; 26 Samserai hefyd, a Sehareia, ac Athaleia, 27 Jareseia hefyd, ac Eleia, a Sichri, meibion Jeroham. 28 Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl, sef penaethiaid ar eu cenedlaethau. Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem. 29 Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maacha. 30 Ac Abdon ei fab cyntaf‐anedig ef, Sur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadab, 31 Gedor hefyd, ac Ahïo, a Sacher. 32 Micloth hefyd a genhedlodd Simea: y rhai hyn hefyd, ar gyfer eu brodyr, a breswyliasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr.

33 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal. 34 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha. 35 A meibion Micha; Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas. 36 Ac Ahas a genhedlodd Jehoada, a Jehoada a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri: a Simri a genhedlodd Mosa, 37 A Mosa a genhedlodd Binea: Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. 38 Ac i Asel y bu chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt, Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Y rhai hyn oll oedd feibion Asel. 39 A meibion Esec ei frawd ef oedd, Ulam ei gyntaf‐anedig ef, Jehus yr ail, ac Eliffelet y trydydd. 40 A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth, yn saethyddion, ac yn aml eu meibion a’u hwyrion, sef cant a deg a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin.

Hebreaid 11

11 Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. Oblegid trwyddi hi y cafodd yr henuriaid air da. Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir. Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto. Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw. Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef. Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd. Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o’r un addewid: 10 Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. 11 Trwy ffydd Sara hithau yn amhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddŵyn had; ac wedi amser oedran, a esgorodd; oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsai. 12 Oherwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un, a hwnnw yn gystal â marw, cynifer â sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif. 13 Mewn ffydd y bu farw’r rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear. 14 Canys y mae’r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad. 15 Ac yn wir, pe buasent yn meddwl am y wlad honno, o’r hon y daethent allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd: 16 Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw, un nefol: o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt. 17 Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd: a’i unig‐anedig fab a offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasai’r addewidion: 18 Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwir i ti had: 19 Gan gyfrif bod Duw yn abl i’w gyfodi ef o feirw; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth. 20 Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent. 21 Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseff; ac a addolodd â’i bwys ar ben ei ffon. 22 Trwy ffydd, Joseff, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn. 23 Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin. 24 Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo; 25 Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; 26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau’r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy. 27 Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig. 28 Trwy ffydd y gwnaeth efe y pasg, a gollyngiad y gwaed, rhag i’r hwn ydoedd yn dinistrio’r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt. 29 Trwy ffydd yr aethant trwy’r môr coch, megis ar hyd tir sych: yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid, boddi a wnaethant. 30 Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod. 31 Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda’r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi’r ysbïwyr yn heddychol. 32 A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Jefftha, am Dafydd hefyd, a Samuel, a’r proffwydi; 33 Y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gaeasant safnau llewod, 34 A ddiffoddasant angerdd y tân, a ddianghasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio. 35 Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad: ac eraill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell. 36 Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar: 37 Hwynt‐hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â’r cleddyf; a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr; 38 (Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt,) yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear. 39 A’r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid: 40 Gan fod Duw yn rhagweled rhyw beth gwell amdanom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.

Amos 5

Gwrandewch y gair hwn a godaf i’ch erbyn, sef galarnad, O dŷ Israel. Y wyry Israel a syrthiodd; ni chyfyd mwy: gadawyd hi ar ei thir; nid oes a’i cyfyd. Canys y modd hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y ddinas a aeth allan â mil, a weddill gant; a’r hon a aeth allan ar ei chanfed, a weddill ddeg i dŷ Israel.

Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth dŷ Israel; Ceisiwch fi, a byw fyddwch. Ond nac ymgeisiwch â Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beerseba: oherwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal, a Bethel a fydd yn ddiddim. Ceisiwch yr Arglwydd, a byw fyddwch; rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân, a’i ddifa, ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel. Y rhai a drowch farn yn wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr, Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd, ac a dywylla y dydd yn nos; yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr Arglwydd yw ei enw: Yr hwn sydd yn nerthu yr anrheithiedig yn erbyn y cryf, fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa. 10 Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith. 11 Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd, ond ni thrigwch ynddynt; planasoch winllannoedd hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt. 12 Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth. 13 Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw. 14 Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr Arglwydd, Duw y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch. 15 Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allai y bydd Arglwydd Dduw y lluoedd yn raslon i weddill Joseff. 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, yr Arglwydd; Ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob priffordd y dywedant, O! O! a galwant yr arddwr i alaru; a’r neb a fedro alaru, i gwynfan. 17 Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan: canys tramwyaf trwy dy ganol di, medd yr Arglwydd. 18 Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd. 19 Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff. 20 Oni bydd dydd yr Arglwydd yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo?

21 Caseais a ffieiddiais eich gwyliau, ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd. 22 Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar hedd‐offrwm eich pasgedigion. 23 Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau. 24 Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref. 25 A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd‐offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel? 26 Ond dygasoch babell eich Moloch a Chïwn, eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch i chwi eich hunain. 27 Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus, medd yr Arglwydd; Duw y lluoedd yw ei enw.

Luc 1:1-38

Yn gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi‐amau yn ein plith, Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair: Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, O ardderchocaf Theoffilus, Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.

Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran. A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef, Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd. 10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl‐darthiad. 11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl‐darth. 12 A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. 13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. 14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. 15 Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam. 16 A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw. 17 Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod. 18 A dywedodd Sachareias wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran. 19 A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn. 20 Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser. 21 Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml. 22 A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud. 23 A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i’w dŷ ei hun. 24 Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, 25 Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.

26 Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yng Ngalilea a’i henw Nasareth, 27 At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Joseff, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair. 28 A’r angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd. 29 A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn. 30 A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyda Duw. 31 Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU. 32 Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd. 33 Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd. 34 A Mair a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr? 35 A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw. 36 Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw’r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn amhlantadwy. 37 Canys gyda Duw ni bydd dim yn amhosibl. 38 A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A’r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.