M’Cheyne Bible Reading Plan
5 A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, (canys efe oedd gyntaf‐anedig, ond am iddo halogi gwely ei dad, rhoddwyd ei enedigaeth‐fraint ef i feibion Joseff, mab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaeth‐fraint: 2 Canys Jwda a ragorodd ar ei frodyr, ac ohono ef y daeth blaenor: a’r enedigaeth‐fraint a roddwyd i Joseff.) 3 Meibion Reuben cyntaf‐anedig Israel oedd, Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi. 4 Meibion Joel; Semaia ei fab ef, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau, 5 Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau, 6 Beera ei fab yntau, yr hwn a gaethgludodd Tilgath‐pilneser brenin Asyria: hwn ydoedd dywysog i’r Reubeniaid. 7 A’i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau: y pennaf oedd Jeiel, a Sechareia, 8 A Bela mab Asas, fab Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer, a hyd at Nebo, a Baalmeon. 9 Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe, hyd y lle yr eler i’r anialwch, oddi wrth afon Ewffrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead. 10 Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt, trwy holl du dwyrain Gilead.
11 A meibion Gad a drigasant gyferbyn â hwynt yng ngwlad Basan, hyd at Salcha: 12 Joel y pennaf, a Saffam yr ail, a Jaanai, a Saffat, yn Basan. 13 A’u brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd, Michael, a Mesulam, a Seba, a Jorai, a Jacan, a Sïa, a Heber, saith. 14 Dyma feibion Abihail fab Huri, fab Jaroa, fab Gilead, fab Michael, fab Jesisai, fab Jahdo, fab Bus; 15 Ahi mab Abdiel, fab Guni, y pennaf o dŷ eu tadau. 16 A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan, ac yn ei threfydd, ac yn holl bentrefi Saron, wrth eu terfynau. 17 Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Jotham brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.
18 Meibion Reuben, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, o wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dysgu i ryfel, oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain, yn myned allan i ryfel. 19 A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab. 20 A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar Dduw yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd arnynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo. 21 A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt; o’u camelod hwynt ddengmil a deugain, ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd, ac o asynnod ddwy fil, ac o ddynion gan mil. 22 Canys llawer yn archolledig a fuant feirw, am fod y rhyfel oddi wrth Dduw; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.
23 A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir: o Basan hyd Baal‐hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml. 24 Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Effer, ac Isi, ac Eliel, ac Asriel, a Jeremeia, a Hodafia, a Jadiel, gwŷr cedyrn o nerth, gwŷr enwog, a phennau tŷ eu tadau.
25 A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau, ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad, y rhai a ddinistriasai Duw o’u blaen hwynt. 26 A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath‐pilneser brenin Asyria, ac a’u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a’u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.
6 Meibion Lefi; Gerson, Cohath, a Merari. 2 A meibion Cohath; Amram, Ishar, a Hebron, ac Ussiel. 3 A phlant Amram; Aaron, Moses, a Miriam: a meibion Aaron; Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.
4 Eleasar a genhedlodd Phinees, Phinees a genhedlodd Abisua, 5 Ac Abisua a genhedlodd Bucci, a Bucci a genhedlodd Ussi, 6 Ac Ussi a genhedlodd Seraheia, a Seraheia a genhedlodd Meraioth. 7 Meraioth a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub, 8 Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Ahimaas, 9 Ac Ahimaas a genhedlodd Asareia, ac Asareia a genhedlodd Johanan, 10 A Johanan a genhedlodd Asareia; (hwn oedd yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem:) 11 Ac Asareia a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub, 12 Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Salum, 13 A Salum a genhedlodd Hilceia, a Hilceia a genhedlodd Asareia, 14 Ac Asareia a genhedlodd Seraia, a Seraia a genhedlodd Jehosadac: 15 A Jehosadac a ymadawodd, pan gaethgludodd yr Arglwydd Jwda a Jerwsalem trwy law Nebuchodonosor.
16 Meibion Lefi; Gersom, Cohath, a Merari. 17 A dyma enwau meibion Gersom; Libni, a Simei. 18 A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, a Hebron, ac Ussiel. 19 Meibion Merari; Mahli, a Musi. A dyma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu tadau. 20 I Gersom; Libni ei fab, Jahath ei fab yntau, Simma ei fab yntau, 21 Joa ei fab yntau, Ido ei fab yntau, Sera ei fab yntau, a Jeaterai ei fab yntau. 22 Meibion Cohath; Aminadab ei fab ef, Cora ei fab yntau, Assir ei fab yntau, 23 Elcana ei fab yntau, ac Ebiasaff ei fab yntau, ac Assir ei fab yntau, 24 Tahath ei fab yntau, Uriel ei fab yntau, Usseia ei fab yntau, a Saul ei fab yntau. 25 A meibion Elcana; Amasai, ac Ahimoth. 26 Elcana: meibion Elcana; Soffai ei fab ef, a Nahath ei fab yntau. 27 Eliab ei fab yntau, Jeroham ei fab yntau, Elcana ei fab yntau. 28 A meibion Samuel; y cyntaf‐anedig, Fasni, yna Abeia. 29 Meibion Merari; Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau, 30 Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau. 31 Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd, ar ôl gorffwys o’r arch. 32 A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod, nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth. 33 A dyma y rhai a weiniasant, a’u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel, 34 Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa, 35 Fab Suff, fab Elcana, fab Mahath, fab Amasai, 36 Fab Elcana, fab Joel, fab Asareia, fab Seffaneia, 37 Fab Tahath, fab Assir, fab Ebiasaff, fab Cora, 38 Fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, fab Israel. 39 A’i frawd Asaff, yr hwn oedd yn sefyll ar ei law ddeau, sef Asaff mab Beracheia, fab Simea, 40 Fab Michael, fab Baaseia, fab Malcheia, 41 Fab Ethni, fab Sera, fab Adaia, 42 Fab Ethan, fab Simma, fab Simei, 43 Fab Jahath, fab Gersom, fab Lefi. 44 A’u brodyr hwynt, meibion Merari, oedd ar y llaw aswy: Ethan mab Cisi, fab Abdi, fab Maluc, 45 Fab Hasabeia, fab Amaseia, fab Hilceia, 46 Fab Amsi, fab Bani, fab Samer, 47 Fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi. 48 A’u brodyr hwynt y Lefiaid oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw.
49 Ond Aaron a’i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm, ac ar allor yr arogl‐darth, i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf, ac i wneuthur cymod dros Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses gwas Duw. 50 Dyma hefyd feibion Aaron; Eleasar ei fab ef, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau, 51 Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau, 52 Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau, 53 Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.
54 A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon. 55 A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a’i meysydd pentrefol o’i hamgylch. 56 Ond meysydd y ddinas, a’i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne. 57 Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a’i meysydd pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a’u meysydd pentrefol, 58 A Hilen a’i meysydd pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol, 59 Ac Asan a’i meysydd pentrefol, a Bethsemes a’i meysydd pentrefol: 60 Ac o lwyth Benjamin; Geba a’i meysydd pentrefol, ac Alemeth a’i meysydd pentrefol, ac Anathoth a’i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg. 61 Ac i’r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o’r hanner llwyth, sef hanner Manasse, ddeg dinas wrth goelbren. 62 Rhoddasant hefyd i feibion Gersom trwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o lwyth Manasse yn Basan, dair ar ddeg o ddinasoedd. 63 I feibion Merari trwy eu teuluoedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd. 64 A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol. 65 A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt. 66 I’r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim. 67 A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a’i meysydd pentrefol, 68 Jocmeam hefyd a’i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a’i meysydd pentrefol, 69 Ac Ajalon a’i meysydd pentrefol, a Gath‐rimmon a’i meysydd pentrefol. 70 Ac o hanner llwyth Manasse; Aner a’i meysydd pentrefol, a Bileam a’i meysydd pentrefol, i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath. 71 I feibion Gersom o deulu hanner llwyth Manasse y rhoddwyd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, Astaroth hefyd a’i meysydd pentrefol. 72 Ac o lwyth Issachar; Cedes a’i meysydd pentrefol, Daberath a’i meysydd pentrefol, 73 Ramoth hefyd a’i meysydd pentrefol, ac Anem a’i meysydd pentrefol. 74 Ac o lwyth Aser; Masal a’i meysydd pentrefol, ac Abdon a’i meysydd pentrefol, 75 Hucoc hefyd a’i meysydd pentrefol, a Rehob a’i meysydd pentrefol. 76 Ac o lwyth Nafftali; Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, Hammon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Chiriathaim a’i meysydd pentrefol. 77 I’r rhan arall o feibion Merari y rhoddwyd o lwyth Sabulon, Rimmon a’i meysydd pentrefol, a Thabor a’i meysydd pentrefol. 78 Ac am yr Iorddonen a Jericho, sef o du dwyrain yr Iorddonen, y rhoddwyd o lwyth Reuben, Beser yn yr anialwch a’i meysydd pentrefol, Jasa hefyd a’i meysydd pentrefol, 79 Cedemoth hefyd a’i meysydd pentrefol, a Meffaath a’i meysydd pentrefol. 80 Ac o lwyth Gad, Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol, Mahanaim hefyd a’i meysydd pentrefol, 81 Hesbon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Jaser a’i meysydd pentrefol.
10 Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, nis gall trwy’r aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio’r rhai a ddêl ati. 2 Oblegid yna hwy a beidiasent â’u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith. 3 Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn. 4 Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. 5 Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i’r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a gymhwysaist i mi: 6 Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt. 7 Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. 8 Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir; 9 Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail. 10 Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith. 11 Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: 12 Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; 13 O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef. 14 Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio. 15 Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen, 16 Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau; 17 A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach. 18 A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod. 19 Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu, 20 Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef; 21 A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: 22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân. 23 Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;) 24 A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: 25 Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu. 26 Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; 27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. 28 Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: 29 Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? 30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. 31 Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw. 32 Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon: 33 Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. 34 Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. 35 Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. 36 Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. 37 Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. 38 A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo. 39 Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.
4 Gwrandewch y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn. 2 Tyngodd yr Arglwydd Dduw i’w sancteiddrwydd, y daw, wele, y dyddiau arnoch, y dwg efe chwi ymaith â drain, a’ch hiliogaeth â bachau pysgota. 3 A chwi a ewch allan i’r adwyau, bob un ar ei chyfer; a chwi a’u teflwch hwynt i’r palas, medd yr Arglwydd.
4 Deuwch i Bethel, a throseddwch; i Gilgal, a throseddwch fwyfwy: dygwch bob bore eich aberthau, a’ch degymau wedi tair blynedd o ddyddiau; 5 Ac offrymwch o surdoes aberth diolch, cyhoeddwch a hysbyswch aberthau gwirfodd: canys hyn a hoffwch, meibion Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
6 A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara yn eich holl leoedd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 7 Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf: glawiais hefyd ar un ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall: un rhan a gafodd law; a’r rhan ni chafodd law a wywodd. 8 Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas, i yfed dwfr; ond nis diwallwyd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 9 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter: pan amlhaodd eich gerddi, a’ch gwinllannoedd, a’ch ffigyswydd, a’ch olewydd, y lindys a’u hysodd: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 10 Anfonais yr haint yn eich mysg, megis yn ffordd yr Aifft: eich gwŷr ieuainc a leddais â’r cleddyf, gyda chaethgludo eich meirch; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i’ch ffroenau: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 11 Mi a ddymchwelais rai ohonoch, fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra; ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o’r gynnau dân: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 12 Oherwydd hynny yn y modd yma y gwnaf i ti, Israel: ac oherwydd mai hyn a wnaf i ti, bydd barod, Israel, i gyfarfod â’th Dduw. 13 Canys wele, Lluniwr y mynyddoedd, a Chreawdwr y gwynt, yr hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl, ac a wna y bore yn dywyllwch, ac a gerdd ar uchelderau y ddaear, yr Arglwydd, Duw y lluoedd, yw ei enw.
148 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau. 2 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd. 3 Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni. 4 Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd. 5 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd. 6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi. 7 Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau: 8 Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef: 9 Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd: 10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog: 11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd: 12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau: 13 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd. 14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.
149 Molwch yr Arglwydd. Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint. 2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin. 3 Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn. 4 Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth. 5 Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau. 6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo; 7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd; 8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn; 9 I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.
150 Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth. 2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd. 3 Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn. 4 Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ. 5 Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar. 6 Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.