M’Cheyne Bible Reading Plan
3 Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron; y cyntaf‐anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles: 2 Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd, Adoneia mab Haggith: 3 Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig. 4 Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 5 A’r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel: 6 Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet, 7 A Noga, a Neffeg, a Jaffia, 8 Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw. 9 Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.
10 A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau; 11 Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau; 12 Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau; 13 Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau; 14 Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau. 15 A meibion Joseia; y cyntaf‐anedig oedd Johanan, yr ail Joacim, y trydydd Sedeceia, y pedwerydd Salum. 16 A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.
17 A meibion Jechoneia; Assir, Salathiel ei fab yntau, 18 Malciram hefyd, a Phedaia, a Senasar, Jecameia, a Hosama, a Nedabeia. 19 A meibion Pedaia; Sorobabel, a Simei a meibion Sorobabel; Mesulam, a Hananeia, a Selomith eu chwaer hwynt: 20 A Hasuba, ac Ohel, a Berecheia, a Hasadeia, Jusab‐hesed, pump. 21 A meibion Hananeia; Pelatia a Jesaia: meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, meibion Sechaneia. 22 A meibion Sechaneia; Semaia: a meibion Semaia; Hattus, ac Igeal, a Bareia, a Nearia, a Saffat, chwech. 23 A meibion Nearia; Elioenai, a Heseceia, ac Asricam, tri. 24 A meibion Elioenai oedd, Hodaia, ac Eliasib, a Phelaia, ac Accub, a Johanan, a Dalaia, ac Anani, saith.
4 Meibion Jwda; Phares, Hesron, a Charmi, a Hur, a Sobal. 2 A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath; a Jahath a genhedlodd Ahumai, a Lahad. Dyma deuluoedd y Sorathiaid. 3 A’r rhai hyn oedd o dad Etam; Jesreel, ac Isma, ac Idbas: ac enw eu chwaer hwynt oedd Haselelponi. 4 A Phenuel tad Gedor, ac Eser tad Husa. Dyma feibion Hur cyntaf‐anedig Effrata, tad Bethlehem.
5 Ac i Asur tad Tecoa yr oedd dwy wraig, Hela a Naara. 6 A Naara a ddug iddo Ahusam, a Heffer, a Themeni, ac Hahastari. Dyma feibion Naara. 7 A meibion Hela oedd, Sereth, a Jesoar, ac Ethnan. 8 A Chos a genhedlodd Anub, a Sobeba, a theuluoedd Aharhel mab Harum.
9 Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid. 10 A Jabes a alwodd ar Dduw Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a’m cadw oddi wrth ddrwg, fel na’m gofidier! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.
11 A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir, yr hwn oedd dad Eston. 12 Ac Eston a genhedlodd Bethraffa, a Phasea, a Thehinna tad dinas Nahas. Dyma ddynion Recha. 13 A meibion Cenas; Othniel, a Seraia: a meibion Othniel; Hathath. 14 A Meonothai a genhedlodd Offra: a Seraia a genhedlodd Joab, tad glyn y crefftwyr; canys crefftwyr oeddynt hwy. 15 A meibion Caleb mab Jeffunne; Iru, Ela, a Naam: a meibion Ela oedd, Cenas. 16 A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel. 17 A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa. 18 A’i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth Mered. 19 A meibion ei wraig Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad. 20 A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd, Soheth, a Bensoheth.
21 A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea, 22 A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Saraff, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab, a Jasubilehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen. 23 Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau; gyda’r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.
24 Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul: 25 Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau. 26 A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau. 27 Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i’w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda. 28 A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar‐sual, 29 Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad, 30 Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn Siclag, 31 Ac yn Beth‐marcaboth, ac yn Hasarsusim, ac yn Beth‐birei, ac yn Saaraim. Dyma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Dafydd. 32 A’u trefydd hwynt oedd, Etam, ac Ain, Rimmon, a Thochen, ac Asan; pump o ddinasoedd. 33 A’u holl bentrefi hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal. Dyma eu trigfannau hwynt, a’u hachau. 34 A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amaseia, 35 A Joel, a Jehu mab Josibia, fab Seraia, fab Asiel, 36 Ac Elioenai, a Jaacoba, a Jesohaia, ac Asaia, ac Adiel, a Jesimiel, a Benaia, 37 A Sisa mab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia. 38 Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd, ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.
39 A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa i’w praidd. 40 A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen oedd o Cham. 41 A’r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a’r anheddau a gafwyd yno, ac a’u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i’w praidd hwynt yno. 42 Ac ohonynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir, a Phelatia, a Nearia, a Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi, yn ben arnynt. 43 Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec, ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn.
9 Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i’r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chysegr bydol. 2 Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a’r bara gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr. 3 Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf; 4 Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a’r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau’r cyfamod: 5 Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi’r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. 6 A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i’r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw: 7 Ac i’r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi’r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto’i hun, a thros anwybodaeth y bobl. 8 A’r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, nad oedd y ffordd i’r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai’r tabernacl cyntaf yn sefyll: 9 Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio’r addolydd; 10 Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad. 11 Eithr Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o’r adeiladaeth yma; 12 Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i’r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad. 13 Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd; 14 Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu’r Duw byw? 15 Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi’r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol. 16 Oblegid lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr. 17 Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym: oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo’r testamentwr yn fyw. 18 O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed. 19 Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a’i taenellodd ar y llyfr a’r bobl oll, 20 Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi. 21 Y tabernacl hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd. 22 A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant. 23 Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau’r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â’r pethau hyn; a’r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn. 24 Canys nid i’r cysegr o waith llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni: 25 Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn, â gwaed arall: 26 (Oblegid yna rhaid fuasai iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun. 27 Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn: 28 Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.
3 Gwrandewch y gair a lefarodd yr Arglwydd i’ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd, 2 Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau. 3 A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn? 4 A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o’i ffau, heb ddal dim? 5 A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim? 6 A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o’r bobl? a fydd niwed yn y ddinas, heb i’r Arglwydd ei wneuthur? 7 Canys ni wna yr Arglwydd ddim, a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi. 8 Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd Iôr a lefarodd, pwy ni phroffwyda?
9 Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn, a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi. 10 Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr Arglwydd: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau. 11 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a’th balasoedd a ysbeilir. 12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes, neu ddarn o glust; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle. 13 Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr Arglwydd Dduw, Duw y lluoedd, 14 Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i’r llawr. 15 A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr Arglwydd.
146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. 2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. 4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
147 Molwch yr Arglwydd: canys da yw canu i’n Duw ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl. 2 Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel. 3 Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau. 4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau. 5 Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall. 6 Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr. 7 Cydgenwch i’r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i’n Duw â’r delyn; 8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd. 9 Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant. 10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr. 11 Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef. 12 Jerwsalem, mola di yr Arglwydd: Seion, molianna dy Dduw. 13 Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn. 14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith. 15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan. 16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw. 17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef? 18 Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, a’r dyfroedd a lifant. 19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel. 20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.