M’Cheyne Bible Reading Plan
1 Adda, Seth, Enos, 2 Cenan, Mahalaleel, Jered, 3 Enoch, Methusela, Lamech, 4 Noa, Sem, Cham, a Jaffeth.
5 Meibion Jaffeth; Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras. 6 A meibion Gomer; Aschenas, a Riffath, a Thogarma. 7 A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
8 Meibion Cham; Cus, a Misraim, Put, a Chanaan. 9 A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabtecha: a Seba, a Dedan, meibion Raama. 10 A Chus a genhedlodd Nimrod: hwn a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear. 11 A Misraim a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftuhim, 12 Pathrusim hefyd, a Chasluhim, (y rhai y daeth y Philistiaid allan ohonynt,) a Chafftorim. 13 A Chanaan a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth, 14 Y Jebusiad hefyd, a’r Amoriad, a’r Girgasiad, 15 A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad, 16 A’r Arfadiad, a’r Semariad, a’r Hamathiad.
17 Meibion Sem; Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram, ac Us, a Hul, a Gether, a Mesech. 18 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Eber. 19 Ac i Eber y ganwyd dau o feibion: enw y naill ydoedd Peleg; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear: ac enw ei frawd oedd Joctan. 20 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Seleff, a Hasarmafeth, a Jera, 21 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla, 22 Ac Ebal, ac Abimael, a Seba, 23 Offir hefyd, a Hafila, a Jobab. Y rhai hyn oll oedd feibion Joctan.
24 Sem, Arffacsad, Sela, 25 Eber, Peleg, Reu, 26 Serug, Nachor, Tera, 27 Abram, hwnnw yw Abraham. 28 Meibion Abraham; Isaac, ac Ismael.
29 Dyma eu cenedlaethau hwynt: cyntaf‐anedig Ismael oedd Nebaioth, yna Cedar, ac Adbeel, a Mibsam, 30 Misma, a Duma, Massa, Hadad, a Thema, 31 Jetur, Naffis, a Chedema. Dyma feibion Ismael.
32 A meibion Cetura, gordderchwraig Abraham: hi a ymddûg Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A meibion Jocsan; Seba, a Dedan. 33 A meibion Midian; Effa, ac Effer, a Henoch, ac Abida, ac Eldaa: y rhai hyn oll oedd feibion Cetura. 34 Ac Abraham a genhedlodd Isaac. Meibion Isaac; Esau, ac Israel.
35 Meibion Esau; Eliffas, Reuel, a Jëus, a Jaalam, a Chora. 36 Meibion Eliffas; Teman, ac Omar, Seffi, a Gatam, Cenas, a Thimna, ac Amalec. 37 Meibion Reuel; Nahath, Sera, Samma, a Missa. 38 A meibion Seir; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana, a Dison, ac Eser, a Disan. 39 A meibion Lotan; Hori, a Homam: a chwaer Lotan oedd Timna. 40 Meibion Sobal; Alïan, a Manahath, ac Ebal, Seffi, ac Onam. A meibion Sibeon; Aia, ac Ana. 41 Meibion Ana; Dison. A meibion Dison; Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran. 42 Meibion Eser; Bilhan, a Safan, a Jacan. Meibion Dison; Us, ac Aran.
43 Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom, cyn teyrnasu o frenin ar feibion Israel; Bela mab Beor: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba. 44 A phan fu farw Bela, y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra. 45 A phan fu farw Jobab, Husam o wlad y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef. 46 A phan fu farw Husam, yn ei le ef y teyrnasodd Hadad mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab: ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith. 47 A phan fu farw Hadad, y teyrnasodd yn ei le ef Samla o Masreca. 48 A phan fu farw Samla, Saul o Rehoboth wrth yr afon a deyrnasodd yn ei le ef. 49 A phan fu farw Saul, y teyrnasodd yn ei le ef Baalhanan mab Achbor. 50 A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd yn ei le ef Hadad: ac enw ei ddinas ef oedd Pai; ac enw ei wraig ef Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.
51 A bu farw Hadad. A dugiaid Edom oedd; dug Timna, dug Alia, dug Jetheth, 52 Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon, 53 Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar, 54 Dug Magdiel, dug Iram. Dyma ddugiaid Edom.
2 Dyma feibion Israel; Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, a Sabulon, 2 Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad, ac Aser.
3 Meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees. Ond Er, cyntaf‐anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd, ac efe a’i lladdodd ef. 4 A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera. Holl feibion Jwda oedd bump. 5 Meibion Phares; Hesron a Hamul. 6 A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump. 7 A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth. 8 A meibion Ethan; Asareia. 9 A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai. 10 A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda; 11 A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas; 12 A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;
13 A Jesse a genhedlodd ei gyntaf‐anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd, 14 Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed, 15 Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed: 16 A’u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a Joab, ac Asahel, tri. 17 Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.
18 A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig, ac o Jerioth: a dyma ei meibion hi; Jeser, Sobab, ac Ardon. 19 A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur. 20 A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.
21 Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad Gilead, ac efe a’i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo Segub. 22 A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead. 23 Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath a’i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead. 24 Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.
25 A meibion Jerahmeel cyntaf‐anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac Oren, ac Osem, ac Ahïa. 26 A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a’i henw Atara: hon oedd fam Onam. 27 A meibion Ram cyntaf‐anedig Jerahmeel oedd, Maas, a Jamin, ac Ecer. 28 A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur. 29 Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid. 30 A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi‐blant. 31 A meibion Appaim; Isi. A meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai. 32 A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn ddi‐blant. 33 A meibion Jonathan; Peleth, a Sasa. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.
34 Ac nid oedd i Sesan feibion, ond merched: ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad, a’i enw Jarha. 35 A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was. A hi a ymddûg iddo Attai. 36 Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Nathan a genhedlodd Sabad. 37 A Sabad a genhedlodd Efflal, ac Efflal a genhedlodd Obed, 38 Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a genhedlodd Asareia, 39 Ac Asareia a genhedlodd Heles, a Heles a genhedlodd Eleasa, 40 Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai, a Sisamai a genhedlodd Salum, 41 A Salum a genhedlodd Jecameia, a Jecameia a genhedlodd Elisama.
42 Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd, Mesa ei gyntaf‐anedig, hwn oedd dad Siff: a meibion Maresa tad Hebron. 43 A meibion Hebron; Cora, a Thappua, a Recem, a Sema. 44 A Sema a genhedlodd Raham, tad Jorcoam: a Recem a genhedlodd Sammai. 45 A mab Sammai oedd Maon: a Maon oedd dad Bethsur. 46 Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran, a Mosa, a Gases: a Haran a genhedlodd Gases. 47 A meibion Jahdai; Regem, a Jotham, a Gesan, a Phelet, ac Effa, a Saaff. 48 Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, a ymddûg Seber a Thirhana. 49 Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena, a thad Gibea: a merch Caleb oedd Achsa.
50 Y rhai hyn oedd feibion Caleb mab Hur, cyntaf‐anedig Effrata; Sobal tad Ciriath‐jearim, 51 Salma tad Bethlehem, Hareff tad Beth‐gader. 52 A meibion oedd i Sobal, tad Ciriath‐jearim: Haroe, a hanner y Manahethiaid, 53 A theuluoedd Ciriath‐jearim oedd yr Ithriaid, a’r Puhiaid, a’r Sumathiaid, a’r Misraiaid: o’r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a’r Esthauliaid. 54 Meibion Salma; Bethlehem, a’r Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, a hanner y Manahethiaid, y Soriaid. 55 A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethant o Hemath, tad tylwyth Rechab.
8 A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn: Y mae gennym y fath Archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd; 2 Yn Weinidog y gysegrfa, a’r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn. 3 Canys pob archoffeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau: oherwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai. 4 Canys yn wir pe bai efe ar y ddaear, ni byddai yn offeiriad chwaith; gan fod offeiriaid y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ôl y ddeddf: 5 Y rhai sydd yn gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorffen y babell: canys, Gwêl, medd efe, ar wneuthur ohonot bob peth yn ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd. 6 Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell. 7 Oblegid yn wir pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i’r ail. 8 Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, Wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ac â thŷ Jwda gyfamod newydd: 9 Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt, yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn hwy o dir yr Aifft: oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i, minnau a’u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd. 10 Oblegid hwn yw’r cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt: a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl: 11 Ac ni ddysgant bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt‐hwy oll a’m hadnabyddant i, o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt. 12 Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a’u pechodau hwynt a’u hanwireddau ni chofiaf ddim ohonynt mwyach. 13 Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hen. Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus, sydd agos i ddiflannu.
2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch. 2 Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn. 3 A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi, a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr Arglwydd.
4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. 5 Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.
6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a’r tlawd er pâr o esgidiau: 7 Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a’i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd. 8 Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.
9 Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a’i wraidd oddi tanodd. 10 Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad. 11 A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o’ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr Arglwydd 12 Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed; ac a orchmynasoch i’ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch. 13 Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau. 14 A metha gan y buan ddianc, a’r cryf ni chadarnha ei rym, a’r cadarn ni wared ei enaid ei hun: 15 Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun. 16 A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr Arglwydd.
Salm Dafydd o foliant.
145 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd. 2 Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd. 3 Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy. 4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid. 5 Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf. 6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd. 7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant. 8 Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd. 9 Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd. 10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd; a’th saint a’th fendithiant. 11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid: 12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth. 13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd. 14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd. 15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; 16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da. 17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd. 19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt. 20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe. 21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.