M’Cheyne Bible Reading Plan
23 A’r brenin a anfonodd, a holl henuriaid Jwda a Jerwsalem a ymgynullasant ato ef. 2 A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, a holl wŷr Jwda, a holl drigolion Jerwsalem gydag ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a’r holl bobl o fychan hyd fawr: ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd.
3 A’r brenin a safodd wrth y golofn, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd, ar fyned ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, â’i holl galon, ac â’i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A’r holl bobl a safodd wrth y cyfamod. 4 A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr archoffeiriad, ac i’r offeiriaid o’r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allan o deml yr Arglwydd yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i’r llwyn, ac i holl lu’r nefoedd: ac efe a’u llosgodd hwynt o’r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron, ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel. 5 Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a’r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i’r haul, ac i’r lleuad, ac i’r planedau, ac i holl lu’r nefoedd. 6 Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr Arglwydd, i’r tu allan i Jerwsalem, hyd afon Cidron, ac a’i llosgodd ef wrth afon Cidron, ac a’i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl. 7 Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaid, y rhai oedd wrth dŷ yr Arglwydd, lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i’r llwyn. 8 Ac efe a ddug yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda, ac a halogodd yr uchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt, o Geba hyd Beerseba, ac a ddistrywiodd uchelfeydd y pyrth, y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas, y rhai oedd ar y llaw aswy i bawb a ddelai i borth y ddinas. 9 Eto offeiriaid yr uchelfeydd ni ddaethant i fyny at allor yr Arglwydd i Jerwsalem, ond hwy a fwytasant fara croyw ymysg eu brodyr. 10 Ac efe a halogodd Toffeth, yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom, fel na thynnai neb ei fab na’i ferch trwy dân i Moloch. 11 Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhinoedd Jwda i’r haul, wrth ddyfodfa tŷ yr Arglwydd, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd, yr hwn oedd yn y pentref, ac a losgodd gerbydau yr haul yn tân. 12 Yr allorau hefyd, y rhai oedd ar nen ystafell Ahas, y rhai a wnaethai brenhinoedd Jwda, a’r allorau a wnaethai Manasse yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd, a ddistrywiodd y brenin, ac a’u bwriodd hwynt i lawr oddi yno, ac a daflodd eu llwch hwynt i afon Cidron. 13 Y brenin hefyd a ddifwynodd yr uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem, y rhai oedd o’r tu deau i fynydd y llygredigaeth, y rhai a adeiladasai Solomon brenin Israel i Astoreth ffieidd‐dra’r Sidoniaid, ac i Cemos ffieidd‐dra’r Moabiaid, ac i Milcom ffieidd‐dra meibion Ammon. 14 Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion.
15 Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a’r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a’r uchelfa a ddistrywiodd efe, ac a losgodd yr uchelfa, ac a’i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn. 16 A Joseia a edrychodd, ac a ganfu feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o’r beddau, ac a’u llosgodd ar yr allor, ac a’i halogodd hi, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn. 17 Yna efe a ddywedodd, Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr Duw, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw. 18 Ac efe a ddywedodd, Gadewch ef yn llonydd: nac ymyrred neb â’i esgyrn ef. Felly yr achubasant ei esgyrn ef, gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria. 19 Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninasoedd Samaria, y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel. 20 Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, ar yr allorau, ac a losgodd esgyrn dynion arnynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.
21 A’r brenin a orchmynnodd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Gwnewch Basg i’r Arglwydd eich Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn. 22 Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn, er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel, nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel, na brenhinoedd Jwda. 23 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i’r Arglwydd yn Jerwsalem.
24 Y swynyddion hefyd, a’r dewiniaid, a’r delwau, a’r eilunod, a’r holl ffieidd‐dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr Arglwydd. 25 Ac ni bu o’i flaen frenin o’i fath ef, yr hwn a drodd at yr Arglwydd â’i holl galon, ac â’i holl enaid, ac â’i holl egni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef.
26 Er hynny ni throdd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint mawr, trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda, oherwydd yr holl ddicter trwy yr hwn y digiasai Manasse ef. 27 A dywedodd yr Arglwydd, Jwda hefyd a fwriaf ymaith o’m golwg, fel y bwriais ymaith Israel, ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem, yr hon a ddetholais, a’r tŷ am yr hwn y dywedais, Fy enw a fydd yno. 28 A’r rhan arall o hanes Joseia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
29 Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharo‐Necho brenin yr Aifft i fyny yn erbyn brenin Asyria, hyd afon Ewffrates: a’r brenin Joseia a aeth i’w gyfarfod ef, a Pharo a’i lladdodd ef ym Megido, pan ei gwelodd ef. 30 A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido, ac a’i dygasant ef i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod ei hun. A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a’i heneiniasant ef, ac a’i hurddasant yn frenin yn lle ei dad.
31 Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan aeth efe yn frenin, a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna. 32 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau ef. 33 A Pharo‐Necho a’i rhwymodd ef yn Ribla yng ngwlad Hamath, fel na theyrnasai efe yn Jerwsalem: ac a osododd dreth ar y wlad o gan talent o arian, a thalent o aur. 34 A Pharo‐Necho a osododd Eliacim mab Joseia yn frenin yn lle Joseia ei dad, ac a drodd ei enw ef Joacim: ac efe a ddug ymaith Joahas, ac efe a ddaeth i’r Aifft, ac yno y bu efe farw. 35 A Joacim a roddodd i Pharo yr arian, a’r aur; ond efe a drethodd y wlad i roddi yr arian wrth orchymyn Pharo: efe a gododd yr arian a’r aur ar bobl y wlad, ar bob un yn ôl ei dreth, i’w rhoddi i Pharo‐Necho.
36 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sebuda, merch Pedaia o Ruma. 37 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau.
5 Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau: 2 Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. 3 Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau. 4 Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron. 5 Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a’th genhedlais di. 6 Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 7 Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd; 8 Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd‐dod trwy’r pethau a ddioddefodd: 9 Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhant iddo; 10 Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec. 11 Am yr hwn y mae i ni lawer i’w dywedyd, ac anodd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau. 12 Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf. 13 Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys maban yw. 14 Eithr bwyd cryf a berthyn i’r rhai perffaith, y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da.
2 Cenwch yr utgorn yn Seion, a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl breswylwyr y wlad; canys daeth dydd yr Arglwydd, canys y mae yn agos. 2 Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd: pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith ar eu hôl, hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth. 3 O’u blaen y difa y tân, ac ar eu hôl y fflam; mae y wlad o’u blaen fel gardd baradwys, ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig; a hefyd ni ddianc dim ganddynt. 4 Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch; ac fel marchogion, felly y rhedant. 5 Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant, fel sŵn tân ysol yn difa y sofl, ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel. 6 O’u blaen yr ofna y bobl; pob wyneb a gasgl barddu. 7 Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau. 8 Ni wthiant y naill y llall; cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf, nid archollir hwynt. 9 Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i’r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr. 10 O’u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; yr haul a’r lleuad a dywyllir, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. 11 A’r Arglwydd a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd mawr yw dydd yr Arglwydd, ac ofnadwy iawn; a phwy a’i herys?
12 Ond yr awr hon, medd yr Arglwydd, Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar. 13 A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. 14 Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i’r Arglwydd eich Duw?
15 Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa: 16 Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a’r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o’i ystafell, a’r briodferch allan o ystafell ei gwely. 17 Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a’r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o’r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?
18 Yna yr Arglwydd a eiddigedda am ei dir, ac a arbed ei bobl. 19 A’r Arglwydd a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd. 20 Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu, a gyrraf ef i dir sych diffaith, a’i wyneb tua môr y dwyrain, a’i ben ôl tua’r môr eithaf: a’i ddrewi a gyfyd, a’i ddrycsawr a â i fyny, am iddo wneuthur mawrhydri.
21 Nac ofna di, ddaear; gorfoledda a llawenycha: canys yr Arglwydd a wna fawredd. 22 Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a’r winwydden a roddant eu cnwd. 23 Chwithau, plant Seion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw: canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol, ac a wna i’r cynnar law a’r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf. 24 A’r ysguboriau a lenwir o ŷd, a’r gwin newydd a’r olew a â dros y llestri. 25 A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a’r locust, a’r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith. 26 Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth. 27 A chewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, ac nid neb arall: a’m pobl nis gwaradwyddir byth.
28 A bydd ar ôl hynny, y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd; a’ch meibion a’ch merched a broffwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau: 29 Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny. 30 A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd; ac yn y ddaear, gwaed, a thân, a cholofnau mwg. 31 Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lleuad yn waed, o flaen dyfod mawr ac ofnadwy ddydd yr Arglwydd. 32 A bydd, yr achubir pob un a alwo ar enw yr Arglwydd: canys bydd ymwared, fel y dywedodd yr Arglwydd, ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, ac yn y gweddillion a alwo yr Arglwydd.
Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof.
142 Gwaeddais â’m llef ar yr Arglwydd; â’m llef yr ymbiliais â’r Arglwydd. 2 Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef. 3 Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl. 4 Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid. 5 Llefais arnat, O Arglwydd; a dywedais, Ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw. 6 Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi. 7 Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.