M’Cheyne Bible Reading Plan
22 Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jedida, merch Adaia o Boscath. 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn holl ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni throdd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.
3 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia, y brenin a anfonodd Saffan, mab Asaleia, mab Mesulam, yr ysgrifennydd, i dŷ yr Arglwydd, gan ddywedyd, 4 Dos i fyny at Hilceia yr archoffeiriad, fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr Arglwydd, y rhai a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl: 5 A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr Arglwydd, i gyweirio agennau y tŷ, 6 I’r seiri coed, ac i’r adeiladwyr, ac i’r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd, i atgyweirio’r tŷ. 7 Eto ni chyfrifwyd â hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.
8 A Hilceia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd: a Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan, ac efe a’i darllenodd ef. 9 A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i’r brenin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd. 10 A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd i’r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin. 11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad. 12 A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd, 13 Ewch, ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni. 14 Felly Hilceia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saffan, ac Asaheia, a aethant at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfa, mab Harhas, ceidwad y gwisgoedd: a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy; a hwy a ymddiddanasant â hi.
15 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi; 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddarllenodd brenin Jwda: 17 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i â holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef. 18 Ond wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori â’r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Am y geiriau a glywaist ti; 19 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr Arglwydd, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr Arglwydd. 20 Oherwydd hynny, wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.
4 Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl. 2 Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant. 3 Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i’r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd. 4 Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd. 5 Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i. 6 Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth; 7 Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau. 8 Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall. 9 Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw. 10 Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau. 11 Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth. 12 Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon. 13 Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn. 14 Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i’r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes. 15 Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda’n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod. 16 Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.
1 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel. 2 Gwrandewch hyn, chwi henuriaid; a rhoddwch glust, holl drigolion y wlad: a fu hyn yn eich dyddiau, neu yn nyddiau eich tadau? 3 Mynegwch hyn i’ch plant, a’ch plant i’w plant hwythau, a’u plant hwythau i genhedlaeth arall. 4 Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust. 5 Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min. 6 Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi. 7 Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a’m ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.
8 Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid. 9 Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd yr offrwm bwyd, a’r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, yn galaru. 10 Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew. 11 Cywilyddiwch, y llafurwyr; udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes. 12 Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a’r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion. 13 Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid; udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy Nuw, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain: canys atelir oddi wrth dŷ eich Duw yr offrwm bwyd, a’r offrwm diod.
14 Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr Arglwydd eich Duw, a gwaeddwch ar yr Arglwydd; 15 Och o’r diwrnod! canys dydd yr Arglwydd sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw. 16 Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw, y bwyd, y llawenydd, a’r digrifwch? 17 Pydrodd yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlannau a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd. 18 O o’r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd. 19 Arnat ti, Arglwydd, y llefaf; canys y tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes. 20 Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat; canys sychodd y ffrydiau dwfr, a’r tân a ysodd borfeydd yr anialwch.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
140 Gwared fi, O Arglwydd, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws: 2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel. 3 Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela. 4 Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed. 5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela. 6 Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti: clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau. 7 Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. 8 Na chaniatâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela. 9 Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio. 10 Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant. 11 Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw. 12 Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion. 13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.
Salm Dafydd.
141 Arglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat. 2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl‐darth, a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol. 3 Gosod, Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau. 4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o’u danteithion hwynt. 5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt. 6 Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau; canys melys ydynt. 7 Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear. 8 Eithr arnat ti, O Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd. 9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd. 10 Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.