Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Brenhinoedd 20

20 Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw: ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw. Yna efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, Atolwg, Arglwydd, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac â chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr. A chyn myned o Eseia allan i’r cyntedd canol, daeth gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Dychwel, a dywed wrth Heseceia blaenor fy mhobl i, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele fi yn dy iacháu di; y trydydd dydd yr ei di i fyny i dŷ yr Arglwydd. A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd, ac a’th waredaf di a’r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas. A dywedodd Eseia, Cymerwch swp o ffigys. A hwy a gymerasant, ac a’i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach.

A Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Pa arwydd fydd yr iachâ yr Arglwydd fi, ac yr af fi i fyny i dŷ yr Arglwydd y trydydd dydd? Ac Eseia a ddywedodd, Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr Arglwydd, y gwna yr Arglwydd y gair a lefarodd efe: A â y cysgod ddeg o raddau ymlaen, neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl? 10 A Heseceia a ddywedodd, Hawdd yw i’r cysgod ogwyddo ddeg o raddau: nid felly, ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau. 11 Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr Arglwydd: ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau, ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas, ddeg o raddau yn ei ôl.

12 Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach‐Baladan, mab Baladan brenin Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf. 13 A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dŷ ei drysor, yr arian, a’r aur, a’r peraroglau, a’r olew gorau, a holl dŷ ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.

14 Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon. 15 Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy. 16 Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air yr Arglwydd. 17 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd. 18 Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a genhedli di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon. 19 Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?

20 A’r rhan arall o hanes Heseceia, a’i holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y llyn, a’r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i’r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 21 A Heseceia a hunodd gyda’i dadau: a Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Hebreaid 2

Am hynny y mae’n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli. Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd‐dod gyfiawn daledigaeth; Pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy’r Arglwydd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a’i clywsant ef: A Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun? Canys nid i’r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru. Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef? Ti a’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo: Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo. Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn. 10 Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau. 11 Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai a sancteiddir, o’r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr; 12 Gan ddywedyd, Myfi a fynegaf dy enw di i’m brodyr; yng nghanol yr eglwys y’th folaf di. 13 A thrachefn, Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo. A thrachefn, Wele fi a’r plant a roddes Duw i mi. 14 Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, diafol; 15 Ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed. 16 Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion; eithr had Abraham a gymerodd efe. 17 Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i’w frodyr; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau y bobl. 18 Canys yn gymaint â dioddef ohono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo’r rhai a demtir.

Hosea 13

13 Pan lefarodd Effraim â dychryn, ymddyrchafodd efe yn Israel; ond pan bechodd gyda Baal, y bu farw. Ac yr awr hon ychwanegasant bechu, ac o’u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eilunod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dywedyd, Y rhai a aberthant, cusanant y lloi. Am hynny y byddant fel y bore-gwmwl, ac megis y gwlith yr ymedy yn fore, fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o’r llawr dyrnu, ac fel mwg o’r ffumer. Eto myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, a’th ddug di o dir yr Aifft; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi: ac nid oes Iachawdwr ond myfi.

Mi a’th adnabûm yn y diffeithwch, yn nhir sychder mawr. Fel yr oedd eu porfa, y cawsant eu gwala: cawsant eu gwala, a chodasant eu calonnau; ac anghofiasant fi. Ond mi a fyddaf fel llew iddynt; megis llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt. Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difâf hwynt: bwystfil y maes a’u llarpia hwynt.

O Israel, tydi a’th ddinistriaist dy hun; ond ynof fi y mae dy gymorth. 10 Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a’th frawdwyr, am y rhai y dywedaist, Dyro i mi frenin a thywysogion? 11 Rhoddais i ti frenin yn fy nig, a dygais ef ymaith yn fy llid. 12 Rhwymwyd anwiredd Effraim; cuddiwyd ei bechod ef. 13 Gofid un yn esgor a ddaw arno: mab angall yw efe; canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant. 14 O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt: byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.

15 Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr Arglwydd o’r anialwch a ddyrchafa, a’i ffynhonnell a sych, a’i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol. 16 Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i’w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a’u gwragedd beichiogion a rwygir.

Salmau 137-138

137 Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau. Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion. Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr? Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu. Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf. Cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen. O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau. Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.

Salm Dafydd.

138 Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti. Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll. Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid. Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau. Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd. Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell. Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai. Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.