Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Brenhinoedd 19

19 A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd â sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr Arglwydd. Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos. A hwy a ddywedasant wrtho ef, Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyngdra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor. Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael. Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi. Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis. A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela â thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddywedyd, 10 Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria. 11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di? 12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar? 13 Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?

14 A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a’u darllenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, ac a’u lledodd hwynt gerbron yr Arglwydd. 15 A Heseceia a weddïodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd Dduw, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear. 16 Gogwydda, Arglwydd, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, Arglwydd, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw. 17 Gwir yw, O Arglwydd, i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir, 18 A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt. 19 Yn awr gan hynny, O Arglwydd ein Duw ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, tydi yn unig.

20 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria. 21 Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef, Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di. 22 Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef, ac y codaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel. 23 Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr Arglwydd, ac y dywedaist, Â lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a’i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i’w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef. 24 Myfi a gloddiais, ac a yfais ddyfroedd dieithr, ac â gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchaeëdig. 25 Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol. 26 Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu. 27 Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabûm i, a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn. 28 Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost. 29 A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 30 A’r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny. 31 Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a’r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn. 32 Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno; hefyd ni ddaw efe o’i blaen hi â tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn hi. 33 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr Arglwydd. 34 Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

35 A’r noson honno yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon. 36 Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe. 37 A bu, fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â’r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia: ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Hebreaid 1

Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab; Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd; Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy. Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab? A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf‐anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef. Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn fflam dân. Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di. Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion. 10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd: 11 Hwynt‐hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant; 12 Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant. 13 Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed? 14 Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?

Hosea 12

12 Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft. Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Jwda; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.

Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw. Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni; Sef Arglwydd Dduw y lluoedd: yr Arglwydd yw ei goffadwriaeth. Tro dithau at dy Dduw; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.

Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu. A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod. A mi, yr hwn yw yr Arglwydd dy Dduw a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl. 10 Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi. 11 A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd. 12 Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid. 13 A thrwy broffwyd y dug yr Arglwydd Israel o’r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef. 14 Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.

Salmau 135-136

135 Molwch yr Arglwydd. Molwch enw yr Arglwydd; gweision yr Arglwydd, molwch ef. Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd, yng nghynteddoedd tŷ ein Duw ni, Molwch yr Arglwydd; canys da yw yr Arglwydd: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw. Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo. Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau. Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau. Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau. Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail. Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision. 10 Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion; 11 Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan: 12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl. 13 Dy enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth. 14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision. 15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn. 16 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant. 17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau. 18 Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt. 19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron. 20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd. 21 Bendithier yr Arglwydd o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.

136 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Clodforwch Dduw y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd. Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd: Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd: Y lleuad a’r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd. 10 Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd; 11 Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 12 A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 13 Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 15 Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 16 Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 17 Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 19 Sehon brenin yr Amoriaid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 20 Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 21 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 22 Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 23 Yr hwn yn ein hiselradd a’n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: 24 Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd. 26 Clodforwch Dduw y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.