M’Cheyne Bible Reading Plan
17 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda, y teyrnasodd Hosea mab Ela yn Samaria ar Israel; naw mlynedd y teyrnasodd efe. 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, eto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasai o’i flaen ef.
3 A Salmaneser brenin Asyria a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, a Hosea a aeth yn was iddo ef, ac a ddug iddo anrhegion. 4 A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea: canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft, ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria, fel y byddai efe arferol bob blwyddyn: am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef, ac a’i rhwymodd ef mewn carchardy.
5 Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy’r holl wlad, ac a aeth i fyny i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd.
6 Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. 7 Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr, 8 A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel. 9 A meibion Israel a wnaethant yn ddirgel bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, ac a adeiladasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog. 10 Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irlas: 11 Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr Arglwydd o’u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r Arglwydd. 12 A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt, Na wnewch y peth hyn. 13 Er i’r Arglwydd dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau, a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi. 14 Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr Arglwydd eu Duw. 15 A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â’u tadau hwynt, a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o’u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr Arglwydd iddynt, na wnelent fel hwynt. 16 A hwy a adawsant holl orchmynion yr Arglwydd eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau lo: gwnaethant hefyd lwyn, ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal. 17 A hwy a dynasant eu meibion a’u merched trwy’r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerthasant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef. 18 Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a’u bwriodd hwynt allan o’i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig. 19 Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr Arglwydd eu Duw, eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy. 20 A’r Arglwydd a ddiystyrodd holl had Israel, ac a’u cystuddiodd hwynt, ac a’u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr, nes iddo eu bwrw allan o’i olwg. 21 Canys efe a rwygodd Israel oddi wrth dŷ Dafydd; a hwy a wnaethant Jeroboam mab Nebat yn frenin: a Jeroboam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr. 22 Canys meibion Israel a rodiasant yn holl bechodau Jeroboam, y rhai a wnaeth efe, heb gilio oddi wrthynt: 23 Nes i’r Arglwydd fwrw Israel allan o’i olwg, fel y llefarasai trwy law ei holl weision y proffwydi: ac Israel a gaethgludwyd allan o’i wlad ei hun i Asyria, hyd y dydd hwn.
24 A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi. 25 Ac yn nechrau eu trigias hwy yno, nid ofnasant hwy yr Arglwydd; am hynny yr Arglwydd a anfonodd lewod yn eu plith hwynt, y rhai a laddasant rai ohonynt. 26 Am hynny y mynegasant i frenin Asyria, gan ddywedyd, Y cenhedloedd y rhai a fudaist ti, ac a gyfleaist yn ninasoedd Samaria, nid adwaenant ddefod Duw y wlad: am hynny efe a anfonodd lewod yn eu mysg hwynt, ac wele, lladdasant hwynt, am na wyddent ddefod Duw y wlad. 27 Yna brenin Asyria a orchmynnodd, gan ddywedyd, Dygwch yno un o’r offeiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned ac i drigo yno, ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad. 28 Felly un o’r offeiriaid a ddygasent hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr Arglwydd. 29 Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt. 30 A gwŷr Babilon a wnaethant Succoth‐Benoth, a gwŷr Cuth a wnaethant Nergal, a gwŷr Hamath a wnaethant Asima, 31 A’r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac, a’r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tân i Adrammelech ac i Anammelech, duwiau Seffarfaim. 32 Felly hwy a ofnasant yr Arglwydd, ac a wnaethant iddynt rai o’u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd, y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd. 33 Yr Arglwydd yr oeddynt hwy yn ei ofni, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno. 34 Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ydynt yn ofni yr Arglwydd, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na’r gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel. 35 A’r Arglwydd a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasanaethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt: 36 Ond yr Arglwydd yr hwn a’ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft â nerth mawr, ac â braich estynedig, ef a ofnwch chwi, ac iddo ef yr ymgrymwch, ac iddo ef yr aberthwch. 37 Y deddfau hefyd, a’r barnedigaethau, a’r gyfraith, a’r gorchymyn, a ysgrifennodd efe i chwi, a gedwch chwi i’w gwneuthur byth; ac nac ofnwch dduwiau dieithr. 38 Ac nac anghofiwch y cyfamod a amodais â chwi, ac nac ofnwch dduwiau dieithr: 39 Eithr ofnwch yr Arglwydd eich Duw; ac efe a’ch gwared chwi o law eich holl elynion. 40 Ond ni wrandawsant hwy, eithr yn ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy. 41 Felly y cenhedloedd hyn oedd yn ofni’r Arglwydd, ac yn gwasanaethu eu delwau cerfiedig; eu plant a’u hwyrion: fel y gwnaeth eu tadau, y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn.
3 Dwg ar gof iddynt fod yn ddarostyngedig i’r tywysogaethau a’r awdurdodau, fod yn ufudd, fod yn barod i bob gweithred dda, 2 Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn. 3 Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casáu ein gilydd. 4 Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn, 5 Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; 6 Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr: 7 Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol. 8 Gwir yw’r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion. 9 Eithr gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer. 10 Gochel y dyn a fyddo heretic, wedi un ac ail rybudd: 11 Gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyrdroi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddamnio ei hunan. 12 Pan ddanfonwyf Artemas atat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod ataf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aeafu. 13 Hebrwng Senas y cyfreithiwr, ac Apolos yn ddiwyd; fel na byddo arnynt eisiau dim. 14 A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth. 15 Y mae’r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
At Titus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys y Cretiaid, yr ysgrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.
10 Gwinwydden wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg. 2 Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a ddistrywia eu delwau. 3 Canys yr awr hon y dywedant, Nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr Arglwydd; a pheth a wnâi brenin i ni? 4 Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd. 5 Preswylwyr Samaria a ofnant oherwydd lloeau Beth‐afen; canys ei bobl a alara drosto, a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef. 6 Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb: Effraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a fydd cywilydd ganddo ei gyngor ei hun. 7 Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr. 8 A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau: a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom. 9 O Israel, ti a bechaist er dyddiau Gibea: yno y safasant; a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt. 10 Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt: a phobl a gesglir yn eu herbyn, pan ymrwymont yn eu dwy gŵys. 11 Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo. 12 Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr Arglwydd, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch. 13 Arddasoch i chwi ddrygioni, medasoch anwiredd, bwytasoch ffrwyth celwydd; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun, yn lluosowgrwydd dy gedyrn. 14 Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl, a’th holl amddiffynfeydd a ddinistrir, fel y darfu i Salman ddinistrio Beth‐arbel yn amser rhyfel; lle y drylliwyd y fam ar y plant. 15 Fel hynny y gwna Bethel i chwi, am eich mawrddrwg: gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith.
Caniad y graddau.
129 Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr: 2 Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant. 3 Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion. 4 Yr Arglwydd sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol. 5 Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion. 6 Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith: 7 A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes. 8 Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd.
Caniad y graddau.
130 O’r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd. 2 Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau. 3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif? 4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner. 5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf. 6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore. 7 Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef. 8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
131 O Arglwydd, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi. 2 Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu. 3 Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.