Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Brenhinoedd 16

16 Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Peca mab Remaleia y dechreuodd Ahas mab Jotham brenin Jwda deyrnasu. Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw, fel Dafydd ei dad: Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy’r tân, yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel. Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.

Yna y daeth Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia brenin Israel, i fyny i Jerwsalem i ryfel; a hwy a warchaeasant ar Ahas; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef. Yn yr amser hwnnw Resin brenin Syria a ddug drachefn Elath at Syria, ac a yrrodd yr Iddewon o Elath: a’r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn. Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglath‐pileser brenin Asyria, gan ddywedyd, Dy was di a’th fab di ydwyf fi: tyred i fyny, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i. Ac Ahas a gymerth yr arian a’r aur a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, ac a’u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria. A brenin Asyria a wrandawodd arno ef; a brenin Asyria a ddaeth i fyny i Damascus, ac a’i henillodd hi, ac a gaethgludodd ei thrigolion i Cir, ac a laddodd Resin.

10 A’r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglath‐pileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a’r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a’i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad. 11 Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus. 12 A phan ddaeth y brenin o Damascus, y brenin a ganfu yr allor: a’r brenin a nesaodd at yr allor, ac a offrymodd arni hi. 13 Ac efe a losgodd ei boethoffrwm, a’i fwyd‐offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod‐offrwm, ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor. 14 A’r allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, a dynnodd efe ymaith o dalcen y tŷ, oddi rhwng yr allor a thŷ yr Arglwydd, ac a’i rhoddes hi o du gogledd yr allor. 15 A’r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a’r bwyd‐offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a’i fwyd‐offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a’u bwyd‐offrwm hwynt, a’u diodydd‐offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a daenelli di arni hi: a bydded yr allor bres i mi i ymofyn. 16 Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas.

17 A’r brenin Ahas a dorrodd ddaliadau yr ystolion, ac a dynnodd ymaith y noe oddi arnynt hwy, ac a ddisgynnodd y môr oddi ar yr ychen pres oedd tano, ac a’i rhoddodd ar balmant cerrig. 18 A gorchudd y Saboth yr hwn a adeiladasant hwy yn tŷ, a dyfodfa’r brenin oddi allan, a drodd efe oddi wrth dŷ yr Arglwydd, o achos brenin Asyria.

19 A’r rhan arall o hanes Ahas, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 20 Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Titus 2

Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus: Bod o’r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd: Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni: Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant, Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw. Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr: Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd‐dra, purdeb, Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi. Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd; 10 Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth. 11 Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn; 12 Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; 13 Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist; 14 Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da. 15 Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.

Hosea 9

Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dy Dduw, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd. Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi. Ni thrigant yng ngwlad yr Arglwydd; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan. Nid offrymant win i’r Arglwydd, a’u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd. Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr Arglwydd? Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll. Dyddiau i ymweled a ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a’r cas mawr. Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei Dduw. Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â’u pechod. 10 Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal‐peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd‐dra fel y carasant. 11 Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o’r enedigaeth, o’r groth, ac o’r beichiogi. 12 Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt! 13 Effraim, fel y gwelais Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad. 14 Dyro iddynt, Arglwydd: beth a roddi? dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion. 15 Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar. 16 Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf annwyl blant eu crothau. 17 Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y byddant grwydraid ymhlith y cenhedloedd.

Salmau 126-128

Caniad y graddau.

126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.

Caniad y graddau, i Solomon.

127 Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd. Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd: ei wobr ef yw ffrwyth y groth. Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid. Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.

Caniad y graddau.

128 Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef. Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti. Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford. Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd. Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes. A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.