M’Cheyne Bible Reading Plan
8 Yna Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddywedyd, Cyfod, a dos, ti a’th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr Arglwydd a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd. 2 A’r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw: a hi a aeth, hi a’i thylwyth, ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd. 3 Ac ymhen y saith mlynedd, y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid: a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir. 4 A’r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr Duw, gan ddywedyd, Adrodd i mi, atolwg, yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus. 5 Ac fel yr oedd efe yn mynegi i’r brenin y modd y bywhasai efe y marw, yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir. A Gehasi a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, dyma’r wraig, a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau. 6 A’r brenin a ofynnodd i’r wraig; a hithau a fynegodd iddo ef. A’r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd, gan ddywedyd, Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnwd y maes, o’r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn.
7 A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr Duw yma. 8 A’r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn â’r Arglwydd trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn? 9 Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a’r a oedd dda o Damascus, sef llwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o’i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn? 10 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, Dos, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr Arglwydd a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau. 11 Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywilyddio ohono ef: a gŵr Duw a wylodd. 12 A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau, Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ieuainc a leddi â’r cleddyf, a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi. 13 A Hasael a ddywedodd, Pa beth! ai ci yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddangosodd i mi y byddi di yn frenin ar Syria. 14 Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a atebodd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau. 15 A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a’i gwlychodd mewn dwfr, ac a’i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef.
16 Ac yn y bumed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu. 17 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 18 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. 19 Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i’w feibion yn dragywydd.
20 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain. 21 A Joram a aeth trosodd i Sair, a’r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a’r bobl a ffodd i’w pebyll. 22 Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw. 23 A’r rhan arall o hanes Joram, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 24 A Joram a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
25 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin. 26 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel. 27 Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab, ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys daw tŷ Ahab ydoedd efe.
28 Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth‐Gilead; a’r Syriaid a drawsant Joram. 29 A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.
5 Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a’r rhai ieuainc, megis brodyr; 2 Yr hen wragedd, megis mamau; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb. 3 Anrhydedda’r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon. 4 Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu ŵyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu’r pwyth i’w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw. 5 Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd. 6 Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw. 7 A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd. 8 Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na’r di‐ffydd. 9 Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr, 10 Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da. 11 Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant; 12 Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf. 13 A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys. 14 Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi. 15 Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan. 16 Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon. 17 Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth. 18 Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu’r ŷd: ac, Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. 19 Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion. 20 Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngŵydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill. 21 Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, a’r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth. 22 Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur. 23 Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a’th fynych wendid. 24 Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o’r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd. 25 Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o’r blaen; a’r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.
12 Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr. 2 A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol. 3 A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd. 4 Tithau, Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: llawer a gyniweirant, a gwybodaeth a amlheir.
5 Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, un o’r tu yma ar fin yr afon, ac un arall o’r tu arall ar fin yr afon. 6 Ac un a ddywedodd wrth yr hwn a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, Pa hyd fydd hyd ddiwedd y rhyfeddodau hyn? 7 Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll. 8 Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn? 9 Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd. 10 Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant. 11 Ac o’r amser y tynner ymaith y gwastadol aberth, ac y gosoder i fyny y ffieidd‐dra anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau. 12 Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau. 13 Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.
49 Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio. 50 Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i. 51 Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di. 52 Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais. 53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di. 54 Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod. 55 Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith. 56 Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.CHETH
57 O Arglwydd, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau. 58 Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air. 59 Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di. 60 Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion. 61 Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di. 62 Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder. 63 Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion. 64 Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O Arglwydd: dysg i mi dy ddeddfau.TETH
65 Gwnaethost yn dda â’th was, O Arglwydd, yn ôl dy air. 66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais. 67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di. 68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau. 69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon. 70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di. 71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau. 72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.IOD
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.