Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Brenhinoedd 7

Yna Eliseus a ddywedodd, Gwrandewch air yr Arglwydd: Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Ynghylch y pryd hwn yfory y gwerthir sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, ym mhorth Samaria. Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr Duw, ac a ddywedodd, Wele, pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono.

Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus wrth ddrws y porth, a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Paham yr ydym ni yn aros yma nes ein meirw? Os dywedwn ni, Awn i mewn i’r ddinas, newyn sydd yn y ddinas, a ni a fyddwn feirw yno; ac os trigwn yma, ni a fyddwn feirw hefyd. Am hynny deuwch yn awr, ac awn i wersyll y Syriaid: o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn; ac os lladdant ni, byddwn feirw. A hwy a gyfodasant ar doriad dydd i fyned i wersyll y Syriaid. A phan ddaethant at gwr eithaf gwersyll y Syriaid, wele, nid oedd neb yno. Canys yr Arglwydd a barasai i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau, a thrwst meirch, trwst llu mawr: a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Wele, brenin Israel a gyflogodd i’n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid, a brenhinoedd yr Aifft, i ddyfod arnom ni. Am hynny hwy a gyfodasant, ac a ffoesant, ar lasiad dydd, ac a adawsant eu pebyll, a’u meirch, a’u hasynnod, sef y gwersyll fel yr ydoedd, ac a ffoesant am eu heinioes. A phan ddaeth y rhai gwahanglwyfus hyn hyd gwr eithaf y gwersyll, hwy a aethant i un babell, ac a fwytasant, ac a yfasant, ac a gymerasant oddi yno arian, ac aur, a gwisgoedd, ac a aethant, ac a’i cuddiasant, ac a ddychwelasant; ac a aethant i babell arall, ac a gymerasant oddi yno, ac a aethant, ac a’i cuddiasant. Yna y dywedodd y naill wrth y llall, Nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn; y dydd hwn sydd ddydd llawen‐chwedl, ac yr ydym ni yn tewi â sôn; os arhoswn ni hyd oleuni y bore, rhyw ddrwg a ddigwydd i ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin. 10 Felly hwy a ddaethant, ac a waeddasant ar borthor y ddinas; a hwy a fynegasant iddynt, gan ddywedyd, Daethom i wersyll y Syriaid, ac wele, nid oedd yno neb, na llais dyn, ond y meirch yn rhwym, a’r asynnod yn rhwym, a’r pebyll megis yr oeddynt o’r blaen. 11 Ac efe a alwodd ar y porthorion; a hwy a’i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn.

12 A’r brenin a gyfododd liw nos, ac a ddywedodd wrth ei weision, Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni. Gwyddent mai newynog oeddem ni; am hynny yr aethant ymaith o’r gwersyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd, Pan ddelont hwy allan o’r ddinas, ni a’u daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i’r ddinas. 13 Ac un o’r gweision a atebodd ac a ddywedodd, Cymer yn awr bump o’r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas, (wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a arosasant ynddi; wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a ddarfuant;) ac anfonwn, ac edrychwn. 14 Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd: a’r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid, gan ddywedyd, Ewch ac edrychwch. 15 A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele, yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri, y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio: a’r cenhadau a ddychwelasant ac a fynegasant i’r brenin. 16 A’r bobl a aethant allan, ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid: a bu sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, yn ôl gair yr Arglwydd.

17 A’r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a’r bobl a’i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasai gŵr Duw, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef. 18 A bu megis y llefarasai gŵr Duw wrth y brenin, gan ddywedyd, Dau sat o haidd er sicl, a sat o beilliaid er sicl, fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria. 19 A’r tywysog a atebasai ŵr Duw, ac a ddywedasai, Wele, pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono. 20 Ac felly y bu iddo ef: canys y bobl a’i sathrasant ef yn y porth, ac efe a fu farw.

1 Timotheus 4

Ac y mae’r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid; Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a’u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth; Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i’w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd. Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i’w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch. Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi. Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau’r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist. Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb. Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron, ac o’r hwn a fydd. Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad. 10 Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid. 11 Y pethau hyn gorchymyn a dysg. 12 Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i’r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb. 13 Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. 14 Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth. 15 Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. 16 Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat.

Daniel 11

11 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad, y sefais i i’w gryfhau ac i’w nerthu ef. Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti; Wele, tri brenin eto a safant o fewn Persia, a’r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg. A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha â llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno. A phan safo efe, dryllir ei deyrnas, ac a’i rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd; ac nid i’w hiliogaeth ef, nac fel ei lywodraeth a lywodraethodd efe: oherwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heblaw y rhai hynny.

Yna y cryfha brenin y deau, ac un o’i dywysogion: ac efe a gryfha uwch ei law ef, ac a lywodraetha: llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef. Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod; ond ni cheidw hi nerth y braich; ac ni saif yntau, na’i fraich: eithr rhoddir hi i fyny, a’r rhai a’i dygasant hi, a’r hwn a’i cenhedlodd hi, a’i chymhorthwr, yn yr amseroedd hyn. Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga; Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i’r Aifft, eu duwiau hwynt, a’u tywysogion, a’u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd. A brenin y deau a ddaw i’w deyrnas, ac a ddychwel i’w dir ei hun. 10 A’i feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef. 11 Yna y cyffry brenin y deau, ac yr â allan, ac a ymladd ag ef, sef â brenin y gogledd: ac efe a gyfyd dyrfa fawr; ond y dyrfa a roddir i’w law ef. 12 Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf. 13 Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na’r gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr. 14 Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a’r ysbeilwyr o’th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant. 15 Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na’i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll. 16 A’r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o’i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi. 17 Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef. 18 Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i’w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a’i detry arno ef. 19 Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwydda, ac a syrth, ac nis ceir ef. 20 Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel. 21 Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith. 22 Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o’i flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfamod hefyd. 23 Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll: canys efe a ddaw i fyny, ac a ymgryfha ag ychydig bobl. 24 I’r dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser. 25 Ac efe a gyfyd ei nerth a’i galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr: a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn; ond ni saif efe: canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef. 26 Y rhai a fwytânt ran o’i fwyd ef a’i difethant ef, a’i lu ef a lifeiria; a llawer a syrth yn lladdedig. 27 A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig. 28 Ac efe a ddychwel i’w dir ei hun â chyfoeth mawr; a’i galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel i’w wlad. 29 Ar amser nodedig y dychwel, ac y daw tua’r deau; ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.

30 Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef; am hynny yr ymofidia, ac y dychwel, ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel; ac efe a ymgynghora â’r rhai a adawant y cyfamod sanctaidd. 31 Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gysegr yr amddiffynfa, ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth, ac a osodant yno y ffieidd‐dra anrheithiol. 32 A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu Duw, a fyddant gryfion, ac a ffynnant. 33 A’r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer; eto syrthiant trwy y cleddyf, a thrwy dân, trwy gaethiwed, a thrwy ysbail, ddyddiau lawer. 34 A phan syrthiant, â chymorth bychan y cymhorthir hwynt: eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith. 35 A rhai o’r deallgar a syrthiant i’w puro, ac i’w glanhau, ac i’w cannu, hyd amser y diwedd: canys y mae eto dros amser nodedig. 36 A’r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddyrcha, ac a ymfawryga uwchlaw pob duw; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y dicter; canys yr hyn a ordeiniwyd, a fydd. 37 Nid ystyria efe Dduw ei dadau, na serch ar wragedd, ie, nid ystyria un duw: canys goruwch pawb yr ymfawryga. 38 Ac efe a anrhydedda Dduw y nerthoedd yn ei le ef: ie, duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian, ac â meini gwerthfawr, ac â phethau dymunol. 39 Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr, yr hwn a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth. 40 Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer; ac efe a ddaw i’r tiroedd, ac a lifa, ac a â trosodd. 41 Ac efe a ddaw i’r hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant o’i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Ammon. 42 Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol. 43 Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aifft: y Libyaid hefyd a’r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef. 44 Eithr chwedlau o’r dwyrain ac o’r gogledd a’i trallodant ef: ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer. 45 Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng y moroedd, ar yr hyfryd fynydd sanctaidd: eto efe a ddaw hyd ei derfyn, ac ni bydd cynorthwywr iddo.

Salmau 119:25-48

25 Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air. 26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau. 27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau. 28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air. 29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith. 30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen. 31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na’m gwaradwydda. 32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.

HE

33 Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. 34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. 35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. 36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra. 37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd. 38 Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di. 39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda. 40 Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

FAU

41 Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. 42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. 43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. 44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. 45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. 46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. 47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. 48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.

SAIN

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.