M’Cheyne Bible Reading Plan
6 A meibion y proffwydi a ddywedasant wrth Eliseus, Wele yn awr, y lle yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di, sydd ry gyfyng i ni. 2 Awn yn awr hyd yr Iorddonen, fel y cymerom oddi yno bawb ei drawst, ac y gwnelom i ni yno le i gyfanheddu ynddo. Dywedodd yntau, Ewch. 3 Ac un a ddywedodd, Bydd fodlon, atolwg, a thyred gyda’th weision. Dywedodd yntau, Mi a ddeuaf. 4 Felly efe a aeth gyda hwynt. A hwy a ddaethant at yr Iorddonen, ac a dorasant goed. 5 A phan oedd un yn bwrw i lawr drawst, ei fwyell ef a syrthiodd i’r dwfr. Ac efe a waeddodd, ac a ddywedodd, Och fi, fy meistr! canys benthyg oedd. 6 A gŵr Duw a ddywedodd, Pa le y syrthiodd? Yntau a ddangosodd iddo y fan. Ac efe a dorrodd bren, ac a’i taflodd yno; a’r haearn a nofiodd. 7 Ac efe a ddywedodd, Cymer i fyny i ti. Ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd.
8 A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel; ac efe a ymgynghorodd â’i weision, gan ddywedyd, Yn y lle a’r lle y bydd fy ngwersyllfa. 9 A gŵr Duw a anfonodd at frenin Israel, gan ddywedyd, Ymgadw rhag myned i’r lle a’r lle: canys yno y disgynnodd y Syriaid. 10 A brenin Israel a anfonodd i’r lle am yr hwn y dywedasai gŵr Duw wrtho, ac y rhybuddiasai ef, ac a ymgadwodd yno, nid unwaith, ac nid dwywaith. 11 A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn; ac efe a alwodd ar ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, Oni fynegwch i mi pwy ohonom ni sydd gyda brenin Israel? 12 Ac un o’i weision ef a ddywedodd, Nid oes neb, fy arglwydd frenin: ond Eliseus y proffwyd, yr hwn sydd yn Israel, a fynega i frenin Israel y geiriau a leferi di yng nghanol dy ystafell wely.
13 Ac efe a ddywedodd, Ewch, ac edrychwch pa le y mae efe, fel yr anfonwyf i’w gyrchu ef. A mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele, yn Dothan y mae efe. 14 Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau, a llu mawr: a hwy a ddaethant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas. 15 A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A’i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn? 16 Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt. 17 Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A’r Arglwydd a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus. 18 A phan ddaethant i waered ato ef, Eliseus a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Taro, atolwg, y genedl hon â dallineb. Ac efe a’u trawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Eliseus.
19 Ac Eliseus a ddywedodd wrthynt, Nid hon yw y ffordd, ac nid hon yw y ddinas: deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio. Ond efe a’u harweiniodd hwynt i Samaria. 20 A phan ddaethant hwy i Samaria, Eliseus a ddywedodd, O Arglwydd, agor lygaid y rhai hyn, fel y gwelont. A’r Arglwydd a agorodd eu llygaid hwynt; a hwy a welsant: ac wele, yng nghanol Samaria yr oeddynt. 21 A brenin Israel a ddywedodd wrth Eliseus, pan welodd efe hwynt, Gan daro a drawaf hwynt, fy nhad? 22 Dywedodd yntau, Na tharo: a drewit ti y rhai a gaethiwaist â’th gleddyf ac â’th fwa dy hun? gosod fara a dwfr ger eu bron hwynt, fel y bwytaont ac yr yfont, ac yr elont at eu harglwydd. 23 Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr: a hwy a fwytasant ac a yfasant; ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant at eu harglwydd. Felly byddinoedd Syria ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlad Israel.
24 Ac wedi hyn Benhadad brenin Syria a gynullodd ei holl lu, ac a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria. 25 Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria: ac wele, yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi, nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian, a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian. 26 Ac fel yr oedd brenin Israel yn myned heibio ar y mur, gwraig a lefodd arno ef, gan ddywedyd, Achub, fy arglwydd frenin. 27 Dywedodd yntau, Oni achub yr Arglwydd dydi, pa fodd yr achubaf fi di? Ai o’r ysgubor, neu o’r gwinwryf? 28 A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? Hithau a ddywedodd, Y wraig hon a ddywedodd wrthyf, Dyro dy fab, fel y bwytaom ef heddiw; a’m mab innau a fwytawn ni yfory. 29 Felly ni a ferwasom fy mab i, ac a’i bwytasom ef: a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall, Dyro dithau dy fab, fel y bwytaom ef: ond hi a guddiodd ei mab.
30 A phan glybu y brenin eiriau y wraig, efe a rwygodd ei ddillad, ac a aeth heibio ar y mur; a’r bobl a edrychodd, ac wele, sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn. 31 Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw. 32 Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid yn eistedd gydag ef. A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef? 33 Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef: ac efe a ddywedodd, Wele, y drwg hyn sydd oddi wrth yr Arglwydd; paham y disgwyliaf wrth yr Arglwydd mwy?
3 Gwir yw’r gair, Od yw neb yn chwennych swydd esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych. 2 Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, yn athrawaidd; 3 Nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar; 4 Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd; 5 (Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?) 6 Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol. 7 Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol. 8 Rhaid i’r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa; 9 Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur. 10 A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd. 11 Y mae’n rhaid i’w gwragedd yr un modd fod yn onest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth. 12 Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a’u tai eu hunain yn dda. 13 Canys y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder: 15 Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae’n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd. 16 Ac yn ddi‐ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.
10 Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia, y datguddiwyd peth i Daniel, yr hwn y gelwid ei enw Beltesassar; a’r peth oedd wir, ond yr amser nodedig oedd hir; ac efe a ddeallodd y peth, ac a gafodd wybod y weledigaeth. 2 Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair wythnos o ddyddiau. 3 Ni fwyteais fara blasus, ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau; gan ymiro hefyd nid ymirais, nes cyflawni tair wythnos o ddyddiau. 4 Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis cyntaf, fel yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr, honno yw Hidecel; 5 Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac wele ryw ŵr wedi ei wisgo â lliain, a’i lwynau wedi eu gwregysu ag aur coeth o Uffas: 6 A’i gorff oedd fel maen beryl, a’i wyneb fel gwelediad mellten, a’i lygaid fel lampau tân, a’i freichiau a’i draed fel lliw pres gloyw, a sain ei eiriau fel sain tyrfa. 7 A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio. 8 A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof: canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth. 9 Eto mi a glywais sain ei eiriau ef: a phan glywais sain ei eiriau ef, yna yr oeddwn mewn trymgwsg ar fy wyneb, a’m hwyneb tua’r ddaear.
10 Ac wele, llaw a gyffyrddodd â mi, ac a’m gosododd ar fy ngliniau, ac ar gledr fy nwylo. 11 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, ŵr annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti y’m hanfonwyd yr awr hon. Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu. 12 Yna efe a ddywedodd wrthyf, Nac ofna, Daniel: oherwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio gerbron dy Dduw, y gwrandawyd dy eiriau; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i. 13 Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o’r tywysogion pennaf, a ddaeth i’m cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia. 14 A mi a ddeuthum i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer. 15 Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn, gosodais fy wyneb tua’r ddaear, ac a euthum yn fud. 16 Ac wele, tebyg i ddyn a gyffyrddodd â’m gwefusau: yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, O fy arglwydd, fy ngofidiau a droesant arnaf gan y weledigaeth, ac nid ateliais nerth. 17 A pha fodd y dichon gwasanaethwr fy arglwydd yma lefaru wrth fy arglwydd yma? a minnau yna ni safodd nerth ynof, ac nid arhodd ffun ynof. 18 Yna y cyffyrddodd eilwaith â mi fel dull dyn, ac a’m cryfhaodd i, 19 Ac a ddywedodd, Nac ofna, ŵr annwyl; heddwch i ti, ymnertha, ie, ymnertha. A phan lefarasai efe wrthyf, ymnerthais, a dywedais, Llefared fy arglwydd; oherwydd cryfheaist fi. 20 Ac efe a ddywedodd, a wyddost ti paham y deuthum atat? ac yn awr dychwelaf i ryfela â thywysog Persia: ac wedi i mi fyned allan, wele, tywysog tir Groeg a ddaw. 21 Eithr mynegaf i ti yr hyn a hysbyswyd yn ysgrythur y gwirionedd; ac nid oes un yn ymegnïo gyda mi yn hyn, ond Michael eich tywysog chwi.
ALEFF
119 Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr Arglwydd. 2 Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon. 3 Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef. 4 Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal. 5 O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau! 6 Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion. 7 Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder. 8 Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.BETH
9 Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. 10 A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. 11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. 12 Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. 13 A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. 14 Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. 15 Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. 16 Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.GIMEL
17 Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air. 18 Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di. 19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion. 20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser. 21 Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion. 22 Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais. 23 Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau. 24 A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.DALETH
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.