M’Cheyne Bible Reading Plan
2 A phan oedd yr Arglwydd ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd, aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal. 2 Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma: canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel. 3 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Dywedodd yntau, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn. 4 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho. 5 A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn. 6 Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i’r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt. 7 A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen. 8 Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych.
9 Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o’th ysbryd di arnaf fi. 10 Dywedodd yntau, Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd. 11 Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd.
12 Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd yn ddeuddarn. 13 Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen. 14 Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd, Pa le y mae Arglwydd Dduw Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd. 15 A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo.
16 A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr Arglwydd ei ddwyn ef, a’i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch. 17 Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a’i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant. 18 A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch?
19 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a’r tir yn ddiffaith. 20 Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a’i dygasant ato ef. 21 Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra. 22 Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe.
23 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas, ac a’i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn. 24 Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a’u melltithiodd yn enw yr Arglwydd. A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain. 25 Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.
2 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cydgynulliad ninnau ato ef, 2 Na’ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na’ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos. 3 Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio’r dyn pechod, mab y golledigaeth; 4 Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw. 5 Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi? 6 Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun. 7 Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith. 8 Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad: 9 Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau, 10 A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. 11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd: 12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder. 13 Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o’r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i’r gwirionedd: 14 I’r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. 15 Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni. 16 A’n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a’n Tad, yr hwn a’n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras, 17 A ddiddano eich calonnau chwi, ac a’ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.
6 Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas; 2 Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw, y rhai yr oedd Daniel yn bennaf ohonynt, i’r rhai y rhoddai y tywysogion gyfrif, fel na byddai y brenin mewn colled. 3 Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid a’r tywysogion, oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef: a’r brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas.
4 Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth: ond ni fedrent gael un achos na bai; oherwydd ffyddlon oedd efe, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai. 5 Yna y dywedodd y gwŷr hyn, Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei Dduw yn ei erbyn ef. 6 Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion hyn a aethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrtho fel hyn; Dareius frenin, bydd fyw byth. 7 Holl raglawiaid y deyrnas, y swyddogion, a’r tywysogion, y cynghoriaid, a’r dugiaid, a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol, a chadarnhau gorchymyn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un Duw na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin. 8 Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel nas newidier; yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir. 9 Oherwydd hyn y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a’r gorchymyn.
10 Yna Daniel, pan wybu selio yr ysgrifen, a aeth i’w dŷ, a’i ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau, ac y gweddïai, ac y cyffesai o flaen ei Dduw, megis y gwnâi efe cyn hynny. 11 Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd, ac a gawsant Daniel yn gweddïo ac yn ymbil o flaen ei Dduw. 12 Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un Duw na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae y peth yn wir, yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir. 13 Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o’r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddïo ei weddi. 14 Yna y brenin, pan glybu y gair hwn, a aeth yn ddrwg iawn ganddo, ac a roes ei fryd gyda Daniel ar ei waredu ef: ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef. 15 Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwybydd, frenin, mai cyfraith y Mediaid a’r Persiaid yw, na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin. 16 Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddygasant Daniel, ac a’i bwriasant i ffau y llewod. Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel, Dy Dduw, yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a’th achub di. 17 A dygwyd carreg ac a’i gosodwyd ar enau y ffau; a’r brenin a’i seliodd hi â’i sêl ei hun, ac â sêl ei dywysogion, fel na newidid yr ewyllys am Daniel.
18 Yna yr aeth y brenin i’w lys, ac a fu y noson honno heb fwyd: ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o’i flaen; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho. 19 Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod. 20 A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod? 21 Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth. 22 Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o’th flaen dithau, frenin. 23 Yna y brenin fu dda iawn ganddo o’i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o’r ffau. Yna y codwyd Daniel o’r ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei Dduw.
24 Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac a’u bwriasant i ffau y llewod, hwy, a’u plant, a’u gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.
25 Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd, at y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear; Heddwch a amlhaer i chwi. 26 Gennyf fi y gosodwyd cyfraith, ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, i bawb grynu ac ofni rhag Duw Daniel: oherwydd efe sydd Dduw byw, ac yn parhau byth; a’i frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir, a’i lywodraeth fydd hyd y diwedd. 27 Y mae yn gwaredu ac yn achub, ac yn gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; yr hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod. 28 A’r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Dareius, ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad.
112 Molwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr. 2 Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir. 3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe. 5 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion. 6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth. 7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi‐sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd. 8 Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion. 9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant. 10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
113 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd. 2 Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. 3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd. 4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd. 5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel, 6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? 7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, 8 I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl. 9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.