M’Cheyne Bible Reading Plan
22 A buant yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel. 2 Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel. 3 A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw Ramoth‐Gilead, a’n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria? 4 Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i Ramoth‐Gilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. 5 Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr Arglwydd. 6 Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn Ramoth‐Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin. 7 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r Arglwydd mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef? 8 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r Arglwydd: eithr cas yw gennyf fi ef; canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni; Michea mab Jimla yw efe. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly. 9 Yna brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura yma Michea mab Jimla. 10 A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd, mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt. 11 A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn; ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt. 12 A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth‐Gilead, a llwydda; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin. 13 A’r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele yn awr eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded, atolwg, dy air dithau fel gair un ohonynt, a dywed y gorau. 14 A dywedodd Michea, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hyn a ddywedo yr Arglwydd wrthyf, hynny a lefaraf fi.
15 Felly efe a ddaeth at y brenin. A’r brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth‐Gilead, ai peidio? Dywedodd yntau wrtho, Dos i fyny, a llwydda; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin. 16 A’r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr Arglwydd? 17 Ac efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr Arglwydd, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn heddwch. 18 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni? 19 Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr Arglwydd: Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll yn ei ymyl, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy. 20 A’r Arglwydd a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn Ramoth‐Gilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn. 21 Ac ysbryd a ddaeth allan, ac a safodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Myfi a’i twyllaf ef. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pa fodd? 22 Dywedodd yntau, Mi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. Ac efe a ddywedodd, Twylli a gorchfygi ef: dos ymaith, a gwna felly. 23 Ac yn awr wele, yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; a’r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti. 24 Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi? 25 A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio. 26 A brenin Israel a ddywedodd, Cymer Michea, a dwg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin; 27 A dywed, Fel hyn y dywed y brenin; Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod mewn heddwch. 28 A dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi. Dywedodd hefyd, Gwrandewch hyn yr holl bobl. 29 Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth‐Gilead. 30 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy hun. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i’r rhyfel. 31 A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig. 32 A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Diau brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: a Jehosaffat a waeddodd. 33 A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. 34 A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r fyddin; canys fe a’m clwyfwyd i. 35 A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a’r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda’r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd. 36 Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul, gan ddywedyd, Eled pob un i’w ddinas, a phob un i’w wlad ei hun.
37 Felly y bu farw y brenin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a gladdasant y brenin yn Samaria. 38 A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a’r cŵn a lyfasant ei waed ef: yr arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe. 39 A’r rhan arall o hanesion Ahab, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r tŷ ifori a adeiladodd efe, a’r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 40 Felly Ahab a hunodd gyda’i dadau; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
41 A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel. 42 Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin: a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Asuba, merch Silhi. 43 Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni ŵyrodd efe oddi wrthi hi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. 44 A Jehosaffat a heddychodd â brenin Israel. 45 A’r rhan arall o hanes Jehosaffat, a’i rymustra a wnaeth efe, a’r modd y rhyfelodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 46 A’r rhan arall o’r sodomiaid a’r a adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef, efe a’u dileodd o’r wlad. 47 Yna nid oedd brenin yn Edom: ond rhaglaw oedd yn lle brenin. 48 Jehosaffat a wnaeth longau môr i fyned i Offir am aur: ond nid aethant; canys y llongau a ddrylliodd yn Esion‐Gaber. 49 Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat, Eled fy ngweision i gyda’th weision di yn y llongau: ond ni fynnai Jehosaffat.
50 A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
51 Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd. 52 Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 53 Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo, ac a ddigiodd Arglwydd Dduw Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.
5 Eithr am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch. 2 Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos. 3 Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim. 4 Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo’r dydd hwnnw chwi megis lleidr. 5 Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o’r nos, nac o’r tywyllwch. 6 Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr. 7 Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant. 8 Eithr nyni, gan ein bod o’r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm. 9 Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist, 10 Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef. 11 Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur. 12 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio; 13 A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain. 14 Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. 15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb. 16 Byddwch lawen yn wastadol. 17 Gweddïwch yn ddi-baid. 18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi. 19 Na ddiffoddwch yr Ysbryd. 20 Na ddirmygwch broffwydoliaethau. 21 Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda. 22 Ymgedwch rhag pob rhith drygioni. 23 A gwir Dduw’r tangnefedd a’ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a’ch enaid, a’ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. 24 Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd, yr hwn hefyd a’i gwna. 25 O frodyr, gweddïwch drosom. 26 Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol. 27 Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i’r holl frodyr sanctaidd. 28 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.
4 Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi. 2 Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf Dduw â mi. 3 Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol, a’i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth.
4 Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoyw yn fy llys. 5 Gwelais freuddwyd yr hwn a’m hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, a’m dychrynasant. 6 Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd. 7 Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o’u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.
8 Ond o’r diwedd daeth Daniel o’m blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn ôl enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) a’m breuddwyd a draethais o’i flaen ef, gan ddywedyd, 9 Beltesassar, pennaeth y dewiniaid, oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti, dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, a’i ddehongliad. 10 A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely; Edrych yr oeddwn, ac wele bren yng nghanol y ddaear, a’i uchder yn fawr. 11 Mawr oedd y pren a chadarn, a’i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd; yr ydoedd hefyd i’w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear. 12 Ei ganghennau oedd deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth: dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef, a phob cnawd a fwytâi ohono. 13 Edrych yr oeddwn yng ngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely, ac wele wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, 14 Yn llefain yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, a’r adar o’i ganghennau. 15 Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda’r bwystfilod yng ngwellt y ddaear. 16 Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno. 17 O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn, a’r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac a’i rhydd i’r neb y mynno efe, ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion. 18 Dyma y breuddwyd a welais i Nebuchodonosor y brenin. Tithau, Beltesassar, dywed ei ddehongliad ef, oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi: eithr ti a elli; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.
19 Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a’i feddyliau a’i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na’i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd i’th gaseion, a’i ddehongliad i’th elynion. 20 Y pren a welaist, yr hwn a dyfasai, ac a gryfhasai, ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd, ac oedd i’w weled ar hyd yr holl ddaear; 21 A’i ddail yn deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes, ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau: 22 Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear. 23 A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef: 24 Dyma y dehongliad, O frenin, a dyma ordinhad y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin. 25 Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd y’th borthant fel eidionau, ac a’th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb a fynno. 26 A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu. 27 Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.
28 Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin. 29 Ymhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon. 30 Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi? 31 A’r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt. 32 A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a’th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; â gwellt y’th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb y mynno. 33 Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionau, ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod, a’i ewinedd fel ewinedd adar. 34 Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua’r nefoedd, a’m gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol, a’i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. 35 A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio ei law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur? 36 Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi, a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch a’m hoywder a ddychwelodd ataf fi, a’m cynghoriaid a’m tywysogion a’m ceisiasant; felly y’m sicrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol. 37 Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd, a’i lwybrau yn farn, ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder.
Cân neu Salm Dafydd.
108 Parod yw fy nghalon, O Dduw: canaf a chanmolaf â’m gogoniant. 2 Deffro, y nabl a’r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore. 3 Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. 4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren. 5 Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear; 6 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. 7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. 8 Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr. 9 Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia. 10 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom? 11 Onid tydi, O Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O Dduw, gyda’n lluoedd? 12 Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn. 13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
109 Na thaw, O Dduw fy moliant. 2 Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn. 3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos. 4 Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi. 5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad. 6 Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef. 7 Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod. 8 Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef. 9 Bydded ei blant yn amddifaid, a’i wraig yn weddw. 10 Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd. 11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef. 12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef. 13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf. 14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd; ac na ddileer pechod ei fam ef. 15 Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir: 16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w ladd. 17 Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho. 18 Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn. 19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol. 20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr Arglwydd, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid. 21 Tithau, Arglwydd Dduw, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi. 22 Canys truan a thlawd ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn. 23 Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y’m hysgydwir. 24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster. 25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau. 26 Cynorthwya fi, O Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd: 27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, Arglwydd, a’i gwnaethost. 28 Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was. 29 Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl. 30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer. 31 Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.