M’Cheyne Bible Reading Plan
19 Ac Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn oll a wnaethai Eleias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf. 2 Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy. 3 A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ac a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Jwda, ac a adawodd ei lanc yno.
4 Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr, Arglwydd, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na’m tadau. 5 Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta. 6 Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn. 7 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd. 8 Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd Duw.
9 Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr Arglwydd ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias? 10 Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. 11 Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr Arglwydd. Ac wele yr Arglwydd yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr Arglwydd; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn: 12 Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain. 13 A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias? 14 Dywedodd yntau, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith. 15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria; 16 A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel‐mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun. 17 A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu. 18 A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef.
19 Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, â deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef. 20 Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel; canys beth a wneuthum i ti? 21 Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerth gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef.
2 Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad ni i mewn atoch, nad ofer fu: 2 Eithr wedi i ni ddioddef o’r blaen, a chael amarch, fel y gwyddoch chwi, yn Philipi, ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi efengyl Duw trwy fawr ymdrech. 3 Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll: 4 Eithr megis y’n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni. 5 Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst: 6 Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist. 7 Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant. 8 Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym. 9 Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a’n lludded ni: canys gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i chwi efengyl Duw. 10 Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu: 11 Megis y gwyddoch y modd y buom yn eich cynghori, ac yn eich cysuro, bob un ohonoch, fel tad ei blant ei hun, 12 Ac yn ymbil, ar rodio ohonoch yn deilwng i Dduw, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w deyrnas a’i ogoniant. 13 Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu. 14 Canys chwychwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw, y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl, megis hwythau gan yr Iddewon: 15 Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, a’u proffwydi eu hunain, ac a’n herlidiasant ninnau ymaith; ac ydynt heb ryngu bodd Duw, ac yn erbyn pob dyn; 16 Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, fel yr iacheid hwy, i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf. 17 A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch dros ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr. 18 Am hynny yr ewyllysiasom ddyfod atoch (myfi Paul, yn ddiau,) unwaith a dwywaith hefyd; eithr Satan a’n lluddiodd ni. 19 Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein gorfoledd? onid chwychwi, gerbron ein Harglwydd Iesu Grist yn ei ddyfodiad ef? 20 Canys chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd ni.
1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni. 2 A’r Arglwydd a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ Dduw; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.
3 A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben‐ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o’r had brenhinol, ac o’r tywysogion, 4 Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid. 5 A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o’r gwin a yfai efe; felly i’w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin. 6 Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: 7 A’r pen‐ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.
8 A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi. 9 A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda’r pen‐ystafellydd. 10 A’r pen‐ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin. 11 Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia, 12 Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i’w bwyta, a dwfr i’w yfed. 13 Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â’th weision. 14 Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd hwynt ddeg o ddyddiau. 15 Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin. 16 Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
17 A’r bechgyn hynny ill pedwar, Duw a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion. 18 Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen‐ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor. 19 A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin. 20 Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt, efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef. 21 A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus.
105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. 4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. 5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; 6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. 7 Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. 8 Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: 9 Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac; 10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; 11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. 12 Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi: 13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall: 14 Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid; 15 Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi. 16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara. 17 Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was. 18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn: 19 Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr Arglwydd a’i profodd ef. 20 Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a’i rhyddhaodd ef. 21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth: 22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef. 23 Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham. 24 Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr. 25 Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision. 26 Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai. 27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham. 28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef. 29 Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod. 30 Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd. 31 Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt. 32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir. 33 Trawodd hefyd eu gwinwydd, a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt. 34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a’r lindys, yn aneirif; 35 Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt. 36 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt. 37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau. 38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy. 39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos. 40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a’u diwallodd â bara nefol. 41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd. 42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was. 43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd. 44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd. 45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.