M’Cheyne Bible Reading Plan
18 Ac ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr Arglwydd at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, Dos, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar wyneb y ddaear. 2 Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria. 3 Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr: 4 Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt â bara ac â dwfr.) 5 Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, Dos i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli. 6 Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan.
7 Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias? 8 Yntau a ddywedodd wrtho, Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. 9 Dywedodd yntau, Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd? 10 Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi. 11 Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, Dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. 12 A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr Arglwydd a’th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a’m lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o’m mebyd. 13 Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn a wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr Arglwydd, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt â bara ac â dwfr? 14 Ac yn awr ti a ddywedi, Dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m lladd i. 15 A dywedodd Eleias, Fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef. 16 Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias. 17 A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? 18 Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr Arglwydd, ac i ti rodio ar ôl Baalim. 19 Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jesebel. 20 Felly Ahab a anfonodd at holl feibion Israel, ac a gasglodd y proffwydi ynghyd i fynydd Carmel. 21 Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air. 22 Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr Arglwydd; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain. 23 Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dân dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a’i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dân dano. 24 A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr Arglwydd: a’r Duw a atebo trwy dân, bydded efe Dduw. A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth. 25 Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano. 26 A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a’i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid. 27 A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef. 28 A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i’r gwaed ffrydio arnynt. 29 Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried. 30 A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid. 31 Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di. 32 Ac efe a adeiladodd â’r meini allor yn enw yr Arglwydd; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor. 33 Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a’i gosododd ar y coed; 34 Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith. 35 A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr. 36 A phan offrymid yr hwyr‐offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn. 37 Gwrando fi, O Arglwydd, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn. 38 Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos. 39 A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr Arglwydd, efe sydd Dduw, yr Arglwydd, efe sydd Dduw. 40 Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno.
41 Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, Dos i fyny, bwyta ac yf; canys wele drwst llawer o law. 42 Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau; 43 Ac a ddywedodd wrth ei lanc, Dos i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, Dos eto saith waith. 44 A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, Dos i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw. 45 Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel. 46 A llaw yr Arglwydd oedd ar Eleias; ac efe a wregysodd ei lwynau, ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel.
1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 2 Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau, 3 Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a’n Tad; 4 Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw. 5 Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi. 6 A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân: 7 Hyd onid aethoch yn siamplau i’r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia. 8 Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim. 9 Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu’r bywiol a’r gwir Dduw; 10 Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o’r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.
48 A dyma enwau y llwythau. O gwr y gogledd ar duedd ffordd Hethlon, ffordd yr eir i Hamath, Hasar‐enan, terfyn Damascus tua’r gogledd, i duedd Hamath, (canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorllewin,) rhan i Dan. 2 Ac ar derfyn Dan, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Aser. 3 Ac ar derfyn Aser, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Nafftali ran. 4 Ac ar derfyn Nafftali, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Manasse ran. 5 Ac ar derfyn Manasse, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Effraim ran. 6 Ac ar derfyn Effraim, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Reuben ran. 7 Ac ar derfyn Reuben, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Jwda ran.
8 Ac ar derfyn Jwda, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd yr offrwm a offrymoch yn bum mil ar hugain o gorsennau o led, ac o hyd fel un o’r rhannau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin; a’r cysegr fydd yn ei ganol. 9 Yr offrwm a offrymoch i’r Arglwydd fydd bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led. 10 Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig, sef eiddo yr offeiriaid, fydd pum mil ar hugain tua’r gogledd o hyd, a dengmil tua’r gorllewin o led; felly dengmil tua’r dwyrain o led, a phum mil ar hugain tua’r deau o hyd: a chysegr yr Arglwydd fydd yn ei ganol. 11 I’r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd, y rhai a gadwasant fy nghadwraeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid. 12 A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir, yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid. 13 A’r Lefiaid a gânt, ar gyfer terfyn yr offeiriaid, bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led: pob hyd fydd bum mil ar hugain, a’r lled yn ddengmil. 14 Hefyd ni werthant ddim ohono, ac ni chyfnewidiant, ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir; oherwydd cysegredig yw i’r Arglwydd.
15 A’r pum mil gweddill o’r lled, ar gyfer y pum mil ar hugain, fydd digysegredig, yn drigfa ac yn faes pentrefol i’r ddinas; a’r ddinas fydd yn ei ganol. 16 A dyma ei fesurau ef; Ystlys y gogledd fydd bum cant a phedair mil, ac ystlys y deau yn bum cant a phedair mil, felly o du y dwyrain yn bum cant a phedair mil, a thua’r gorllewin yn bum cant a phedair mil. 17 A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua’r gogledd yn ddeucant a deg a deugain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r deau, ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r dwyrain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r gorllewin. 18 A’r gweddill o’r hyd, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig, fydd yn ddengmil tua’r dwyrain, ac yn ddengmil tua’r gorllewin: ac ar gyfer offrwm y rhan gysegredig y bydd; a’i gnwd fydd yn ymborth i weinidogion y ddinas. 19 A gweinidogion y ddinas a’i gwasanaethant o holl lwythau Israel. 20 Yr holl offrwm fydd bum mil ar hugain, wrth bum mil ar hugain: yn bedeirongl yr offrymwch yr offrwm cysegredig, gyda pherchenogaeth y ddinas.
21 A’r hyn a adewir fydd i’r tywysog, oddeutu yr offrwm cysegredig, ac o berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain o’r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua’r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin, gyferbyn â rhannau y tywysog: a’r offrwm cysegredig fydd; a chysegrfa y tŷ fydd yng nghanol hynny. 22 Felly o berchenogaeth y Lefiaid, ac o berchenogaeth y ddinas, yng nghanol yr hyn sydd i’r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin, eiddo y tywysog fydd. 23 Ac am y rhan arall o’r llwythau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Benjamin. 24 Ac ar derfyn Benjamin, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Simeon. 25 Ac ar derfyn Simeon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Issachar. 26 Ac ar derfyn Issachar, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Sabulon. 27 Ac ar derfyn Sabulon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Gad. 28 Ac ar derfyn Gad, ar y tu deau tua’r deau, y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, a hyd yr afon tua’r môr mawr. 29 Dyma y tir a rennwch wrth goelbren yn etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma eu rhannau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.
30 Dyma hefyd fynediad allan y ddinas, o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau. 31 A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel: tri phorth tua’r gogledd; porth Reuben yn un, porth Jwda yn un, porth Lefi yn un. 32 Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseff yn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un. 33 A thua’r deau pum cant a phedair mil o fesurau: a thri phorth; porth Simeon yn un, a phorth Issachar yn un, a phorth Sabulon yn un. 34 Tua’r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil, a’u tri phorth; porth Gad yn un, porth Aser yn un, a phorth Nafftali yn un. 35 Deunaw mil o fesurau oedd hi o amgylch: ac enw y ddinas o’r dydd hwnnw allan fydd, Yr Arglwydd sydd yno.
104 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch. 2 Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen. 3 Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. 4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd. 5 Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd. 6 Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd. 7 Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith. 8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt. 9 Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear. 10 Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau. 11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched. 12 Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau. 13 Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd. 14 Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear; 15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn. 16 Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe; 17 Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia. 18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod. 19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad. 20 Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed. 21 Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw. 22 Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau. 23 Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr. 24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. 25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. 26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. 27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. 28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. 29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. 30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. 31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd. 32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. 33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd. 35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.