M’Cheyne Bible Reading Plan
16 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan ddywedyd, 2 Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch, a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio ohonot tithau yn ffordd Jeroboam, a pheri i’m pobl Israel bechu, gan fy nigio â’u pechodau; 3 Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa, a hiliogaeth ei dŷ ef: a mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat. 4 Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo Baasa yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo ef yn y maes. 5 A’r rhan arall o hanes Baasa, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid ef, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 6 A Baasa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Tirsa; ac Ela ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 7 Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr Arglwydd yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei dŷ ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr Arglwydd, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef.
8 Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Tirsa, ddwy flynedd. 9 A Simri ei was ef, tywysog ar hanner y cerbydau, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef, ac efe yn yfed yn feddw, yn Tirsa, yn nhŷ Arsa, yr hwn oedd benteulu yn Tirsa. 10 A Simri a aeth ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
11 A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrngadair, efe a laddodd holl dŷ Baasa: ni adawodd efe iddo ef un gwryw, na’i geraint, na’i gyfeillion. 12 Felly Simri a ddinistriodd holl dŷ Baasa, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd. 13 Oherwydd holl bechodau Baasa, a phechodau Ela ei fab ef, trwy y rhai y pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â’u gwagedd. 14 A’r rhan arall o hanes Ela, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
15 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith niwrnod yn Tirsa: a’r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo y Philistiaid. 16 A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriadodd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll. 17 Ac Omri a aeth i fyny, a holl Israel gydag ef, o Gibbethon; a hwy a warchaeasant ar Tirsa. 18 A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill, efe a aeth i balas tŷ y brenin, ac a losgodd dŷ y brenin am ei ben â thân, ac a fu farw; 19 Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd, gan rodio yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod a wnaeth efe i beri i Israel bechu. 20 A’r rhan arall o hanes Simri, a’i gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
21 Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o’r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath, i’w osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri. 22 A’r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd.
23 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd: yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd. 24 Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian; ac a adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ôl enw Semer, arglwydd y mynydd, Samaria.
25 Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr Arglwydd, ac a wnaeth yn waeth na’r holl rai a fuasai o’i flaen ef. 26 Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef, trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â’u gwagedd hwynt. 27 A’r rhan arall o hanes Omri, yr hyn a wnaeth efe, a’i rymuster a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 28 Ac Omri a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
29 Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain. 30 Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd y tu hwnt i bawb o’i flaen ef. 31 Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo. 32 Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria. 33 Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef.
34 Yn ei ddyddiau ef Hïel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf‐anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun.
3 Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. 2 Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. 3 Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. 4 Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant. 5 Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, yr hon sydd eilun‐addoliaeth: 6 O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod: 7 Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. 8 Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. 9 Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; 10 A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef: 11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth. 12 Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros; 13 Gan gyd‐ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. 14 Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. 15 A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar. 16 Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd. 17 A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef. 18 Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd. 19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt. 20 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda. 21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont. 22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw: 23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion; 24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu. 25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.
46 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Porth y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain, fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef, ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer. 2 A’r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan, ac a saif wrth orsing y porth; a’r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a’i aberthau hedd, ac efe a addola wrth riniog y porth: ac a â allan: a’r porth ni chaeir hyd yr hwyr. 3 Pobl y tir a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw, ar y Sabothau ac ar y newyddloerau, o flaen yr Arglwydd. 4 A’r offrwm poeth a offrymo y tywysog i’r Arglwydd ar y dydd Saboth, fydd chwech o ŵyn perffaith‐gwbl, a hwrdd perffaith‐gwbl: 5 A bwyd‐offrwm o effa gyda’r hwrdd, a rhodd ei law o fwyd‐offrwm gyda’r ŵyn, a hin o olew gyda’r effa. 6 Ac ar ddydd y newyddloer, bustach ieuanc perffaith‐gwbl, a chwech o ŵyn, a hwrdd; perffaith‐gwbl fyddant. 7 Ac efe a ddarpara effa gyda’r bustach, ac effa gyda’r hwrdd, yn fwyd‐offrwm; a chyda’r ŵyn fel y cyrhaeddo ei law ef, a hin o olew gyda phob effa. 8 A phan ddelo y tywysog i mewn, ar hyd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn, ac ar hyd y ffordd honno yr â allan.
9 A phan ddelo pobl y tir o flaen yr Arglwydd ar y gwyliau gosodedig, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, a â allan i ffordd porth y deau; a’r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau, a â allan ar hyd ffordd porth y gogledd: na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer. 10 A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysg hwy; a phan elont allan, yr â yntau allan. 11 Ac ar y gwyliau a’r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd‐offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda’r ŵyn, a hin o olew gyda’r effa. 12 A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i’r Arglwydd, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain, ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a’i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a â allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan. 13 Oen blwydd perffaith‐gwbl hefyd a ddarperi yn boethoffrwm i’r Arglwydd beunydd: o fore i fore y darperi ef. 14 Darperi hefyd yn fwyd‐offrwm gydag ef o fore i fore, chweched ran effa, a thrydedd ran hin o olew, i gymysgu y peilliaid, yn fwyd‐offrwm i’r Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol byth. 15 Fel hyn y darparant yr oen, a’r bwyd‐offrwm, a’r olew, o fore i fore, yn boethoffrwm gwastadol.
16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Os rhydd y tywysog rodd i neb o’i feibion o’i etifeddiaeth, eiddo ei feibion fydd hynny, eu perchenogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth. 17 Ond pan roddo efe rodd o’i etifeddiaeth i un o’i weision, bydded hefyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y rhyddid; yna y dychwel i’r tywysog: eto ei etifeddiaeth fydd eiddo ei feibion, iddynt hwy. 18 Ac na chymered y tywysog o etifeddiaeth y bobl, i’w gorthrymu hwynt allan o’u perchenogaeth; eithr rhodded etifeddiaeth i’w feibion o’i berchenogaeth ei hun: fel na wasgarer fy mhobl bob un allan o’i berchenogaeth.
19 Ac efe a’m dug trwy y ddyfodfa oedd ar ystlys y porth, i ystafelloedd cysegredig yr offeiriaid, y rhai oedd yn edrych tua’r gogledd: ac wele yno le ar y ddau ystlys tua’r gorllewin. 20 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y fan lle y beirw yr offeiriaid yr aberth dros gamwedd a’r pech‐aberth, a lle y pobant y bwyd‐offrwm; fel na ddygont hwynt i’r cyntedd nesaf allan, i sancteiddio y bobl. 21 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, ac a’m tywysodd heibio i bedair congl y cyntedd; ac wele gyntedd ym mhob congl i’r cyntedd. 22 Ym mhedair congl y cyntedd yr ydoedd cynteddau cysylltiedig o ddeugain cufydd o hyd, a deg ar hugain o led: un fesur oedd y conglau ill pedair. 23 Ac yr ydoedd adail newydd o amgylch ogylch iddynt ill pedair, a cheginau wedi eu gwneuthur oddi tan y muriau oddi amgylch. 24 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma dŷ y cogau, lle y beirw gweinidogion y tŷ aberth y bobl.
Gweddi’r cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr Arglwydd
102 Arglwydd, clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat. 2 Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi. 3 Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd. 4 Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fwyta fy mara. 5 Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd. 6 Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch. 7 Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ. 8 Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn. 9 Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain; 10 Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr. 11 Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais. 12 Tithau, Arglwydd, a barhei yn dragwyddol, a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. 13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth. 14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi. 15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant. 16 Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant. 17 Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad. 18 Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr Arglwydd. 19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr Arglwydd a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear; 20 I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau; 21 I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem: 22 Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd. 23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau. 24 Dywedais, Fy Nuw, na chymer fi ymaith yng nghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd. 25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo. 26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir. 27 Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant. 28 Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.