Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 15

15 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda. Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen ef: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw, fel calon Dafydd ei dad. Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Arglwydd ei Dduw iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem: Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad. A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes. A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam. Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda. 10 Ac un flynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. 11 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad. 12 Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau. 13 Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron. 14 Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd: eto calon Asa oedd berffaith gyda’r Arglwydd ei holl ddyddiau ef. 15 Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a’r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr Arglwydd, yn arian, yn aur, ac yn llestri.

16 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. 17 A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama; fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda. 18 Yna Asa a gymerodd yr holl arian a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision: a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd, 19 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a’th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi. 20 Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel‐beth‐maacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali. 21 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa. 22 Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a’i choed, â’r rhai yr adeiladasai Baasa; a’r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin, a Mispa. 23 A’r rhan arall o holl hanes Asa, a’i holl gadernid ef, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed. 24 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25 A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd. 26 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef â’r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

27 A Baasa mab Ahïa, o dŷ Issachar, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon. 28 A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef. 29 A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dŷ Jeroboam; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad: 30 Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel. 31 A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 32 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. 33 Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahïa ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain. 34 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

Colosiaid 2

Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ; Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel. Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist. Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. 10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod: 11 Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist: 12 Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw. 13 A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau; 14 Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; 15 Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi. 16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: 17 Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. 18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; 19 Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw. 20 Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau, 21 (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla; 22 Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion? 23 Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.

Eseciel 45

45 A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth, yr offrymwch i’r Arglwydd offrwm cysegredig o’r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch. O hyn y bydd i’r cysegr bum cant ar hyd, a phum cant ar led, yn bedeirongl oddi amgylch; a deg cufydd a deugain, yn faes pentrefol iddo o amgylch. Ac o’r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a’r lle sancteiddiolaf. Y rhan gysegredig o’r tir fydd i’r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cysegr, y rhai a nesânt i wasanaethu yr Arglwydd; ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gysegrfa i’r cysegr. A’r pum mil ar hugain o hyd, a’r dengmil o led, fydd hefyd i’r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd.

Rhoddwch hefyd bum mil o led, a phum mil ar hugain o hyd, yn berchenogaeth i’r ddinas, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig: i holl dŷ Israel y bydd hyn.

A rhan fydd i’r tywysog o’r tu yma ac o’r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas, o du y gorllewin tua’r gorllewin, ac o du y dwyrain tua’r dwyrain: a’r hyd fydd ar gyfer pob un o’r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain. Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a’r rhan arall o’r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd Dduw. 10 Bydded gennych gloriannau uniawn, ac effa uniawn, a bath uniawn. 11 Bydded yr effa a’r bath un fesur; gan gynnwys o’r bath ddegfed ran homer, a’r effa ddegfed ran homer: wrth yr homer y bydd eu mesur hwynt. 12 Y sicl fydd ugain gera: ugain sicl, a phum sicl ar hugain, a phymtheg sicl, fydd mane i chwi. 13 Dyma yr offrwm a offrymwch: chweched ran effa o homer o wenith; felly y rhoddwch chweched ran effa o homer o haidd. 14 Am ddeddf yr olew, bath o olew, degfed ran bath a roddwch o’r corus; yr hyn yw homer o ddeg bath: oherwydd deg bath yw homer. 15 Un milyn hefyd o’r praidd a offrymwch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd‐offrwm, ac yn boethoffrwm, ac yn aberthau hedd, i wneuthur cymod drostynt, medd yr Arglwydd Dduw. 16 Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i’r tywysog yn Israel. 17 Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd‐offrwm, a diod‐offrwm ar yr uchel wyliau, a’r newyddloerau, a’r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech‐aberth, a bwyd‐offrwm, a phoethoffrwm, ac aberthau hedd, i wneuthur cymod dros dŷ Israel. 18 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaith‐gwbl, ac y puri y cysegr. 19 Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech‐aberth, ac a’i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn. 20 Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o’r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch y tŷ. 21 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd i chwi y pasg; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch. 22 A’r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech‐aberth. 23 A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i’r Arglwydd, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaith‐gwbl, bob dydd o’r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech‐aberth bob dydd. 24 Bwyd‐offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda’r effa. 25 Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod; sef fel y pech‐aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd‐offrwm, ac fel yr olew.

Salmau 99-101

99 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear. Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd. Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw. A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob. Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw. Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt. Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt. Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion. Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.

Salm o foliant.

100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Salm Dafydd.

101 Canaf am drugaredd a barn: i ti, Arglwydd, y canaf. Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ. Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi. Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus. Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef. Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i. Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd. Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.