Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 10

10 A phan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr Arglwydd, hi a ddaeth i’w brofi ef â chwestiynau caled. A hi a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr iawn, â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon. A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi. A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad hwynt, a’i drulliadau ef, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi. A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb. Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glywais i. Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb. Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr Arglwydd tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder. 10 A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amled â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon. 11 A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr. 12 A’r brenin a wnaeth o’r coed almugim anelau i dŷ yr Arglwydd, ac i dŷ y brenin, a thelynau a saltringau i gantorion. Ni ddaeth y fath goed almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn. 13 A’r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o’i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision.

14 A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur; 15 Heblaw yr hyn a gâi efe gan y marchnadwyr, ac o farsiandïaeth y llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad.

16 A’r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; chwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian: 17 A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A’r brenin a’u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus.

18 A’r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori, ac a’i gwisgodd hi ag aur o’r gorau. 19 Chwech o risiau oedd i’r orseddfainc; a phen crwn oedd i’r orseddfainc o’r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau. 20 A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o’r ddeutu. Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas.

21 A holl lestri yfed y brenin Solomon oedd o aur; a holl lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur: nid oedd arian ynddynt. Ni roddid dim bri arno yn nyddiau Solomon. 22 Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr, gyda llongau Hiram. Unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis, yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod. 23 A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear, mewn cyfoeth a doethineb.

24 A’r holl fyd oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i glywed ei ddoethineb ef, a roddasai Duw yn ei galon ef. 25 A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, ac arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.

26 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion: ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o farchogion; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem. 27 A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra.

28 A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris. 29 A cherbyd a ddeuai i fyny ac a âi allan o’r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.

Philipiaid 1

Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist: Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â’ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras. Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist. A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; 10 Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; 11 Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw. 12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; 13 Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall; 14 Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi‐ofn. 15 Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da. 16 Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: 17 A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. 18 Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf. 19 Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist, 20 Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith, na’m gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth. 21 Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. 22 Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. 23 Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw. 24 Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. 25 A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd; 26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch. 27 Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a’ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl; 28 Ac heb eich dychrynu mewn un dim, gan eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw. 29 Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef; 30 Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.

Eseciel 40

40 Yn y bumed flwyddyn ar hugain o’n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y degfed dydd o’r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi taro y ddinas, o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr Arglwydd arnaf, ac a’m dug yno. Yng ngweledigaethau Duw y dug efe fi i dir Israel, ac a’m gosododd ar fynydd uchel iawn, ac arno yr oedd megis adail dinas o du y deau. Ac efe a’m dug yno: ac wele ŵr a’i welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn llin, a chorsen fesur: ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth. A dywedodd y gŵr wrthyf, Ha fab dyn, gwêl â’th lygaid, gwrando hefyd â’th glustiau, a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i ti: oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y’th ddygwyd yma: mynega i dŷ Israel yr hyn oll a weli. Ac wele fur o’r tu allan i’r tŷ o amgylch ogylch: a chorsen fesur yn llaw y gŵr, yn chwe chufydd o hyd, wrth gufydd a dyrnfedd: ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen, a’r uchder yn un gorsen.

Ac efe a ddaeth i’r porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led, a’r rhiniog arall yn un gorsen o led. A phob ystafell oedd un gorsen o hyd, ac un gorsen o led: a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd: a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o’r tu mewn, oedd un gorsen. Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn, yn un gorsen. Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd, a’i byst yn ddau gufydd, a chyntedd y porth oedd o’r tu mewn. 10 Ac ystafelloedd y porth tua’r dwyrain oedd dair o’r tu yma, a thair o’r tu acw; un fesur oeddynt ill tair: ac un mesur oedd i’r pyst o’r tu yma ac o’r tu acw. 11 Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd, a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg. 12 A’r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o’r naill du, a’r terfyn o’r tu arall yn un cufydd; a’r ystafelloedd oedd chwe chufydd o’r tu yma, a chwe chufydd o’r tu acw. 13 Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall, yn bum cufydd ar hugain o led, drws ar gyfer drws. 14 Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd, a hynny hyd bost y cyntedd, o amgylch ogylch y porth. 15 Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn, hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn, yr oedd deg cufydd a deugain. 16 A ffenestri cyfyng oedd i’r ystafelloedd, ac i’w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i’r bwâu meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post. 17 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur i’r cyntedd o amgylch ogylch; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant. 18 A’r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd. 19 Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan tua’r dwyrain a’r gogledd.

20 A’r porth yr hwn oedd â’i wyneb tua’r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe, ei hyd a’i led. 21 A’i ystafelloedd ef oedd dair o’r tu yma, a thair o’r tu acw; ac yr ydoedd ei byst, a’i fwâu meini, wrth fesur y porth cyntaf, yn ddeg cufydd a deugain eu hyd, a’r lled yn bum cufydd ar hugain. 22 Eu ffenestri hefyd, a’u bwâu meini, a’u palmwydd, oedd wrth fesur y porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo; a’i fwâu meini oedd o’u blaen hwynt. 23 A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua’r gogledd, a thua’r dwyrain: ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd.

24 Wedi hynny efe a’m dug i tua’r deau, ac wele borth tua’r deau, ac efe a fesurodd ei byst a’i fwâu meini wrth y mesurau hyn. 25 Ffenestri hefyd oedd iddo ac i’w fwâu meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddeg cufydd a deugain o hyd, ac yn bum cufydd ar hugain o led. 26 Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef, a’i fwâu meini o’u blaen hwynt: yr oedd hefyd iddo balmwydd, un o’r tu yma, ac un o’r tu acw, ar ei byst ef. 27 Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua’r deau: ac efe a fesurodd o borth i borth, tua’r deau, gan cufydd. 28 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn; 29 A’i ystafelloedd, a’i byst, a’i fwâu meini, wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled. 30 A’r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led. 31 A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.

32 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn tua’r dwyrain: ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn. 33 A’i ystafelloedd, a’i byst, a’i fwâu meini, oedd wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo ef, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a’r lled yn bum cufydd ar hugain. 34 A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst o’r tu yma, ac o’r tu acw; a’i esgynfa oedd wyth o risiau.

35 Ac efe a’m dug i borth y gogledd, ac a’i mesurodd wrth y mesurau hyn: 36 Ei ystafelloedd, ei byst, a’i fwâu meini, a’r ffenestri iddo o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a’r lled oedd bum cufydd ar hugain. 37 A’i byst oedd tua’r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd ar ei byst o’r tu yma, ac o’r tu acw; a’i esgynfa oedd wyth o risiau. 38 A’r celloedd a’u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.

39 Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o’r tu yma, a dau fwrdd o’r tu acw, i ladd y poethoffrwm, a’r pech‐aberth, a’r aberth dros gamwedd, arnynt. 40 Ac ar yr ystlys oddi allan, lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth. 41 Pedwar bwrdd oedd o’r tu yma, a phedwar bwrdd o’r tu acw, ar ystlys y porth; wyth bwrdd, ar y rhai y lladdent eu haberthau. 42 A’r pedwar bwrdd i’r poethoffrwm oedd o gerrig nadd, yn un cufydd a hanner o hyd, ac yn un cufydd a hanner o led, ac yn un cufydd o uchder: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a’r aberth â hwynt. 43 Hefyd yr oedd bachau, o un ddyrnfedd, wedi eu paratoi o fewn, o amgylch ogylch: a chig yr offrwm oedd ar y byrddau.

44 Ac o’r tu allan i’r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a’u hwynebau oedd tua’r deau: un oedd ar ystlys porth y dwyrain, â’i wyneb tua’r gogledd. 45 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ystafell hon, yr hon sydd â’i hwyneb tua’r deau, sydd i’r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth y tŷ. 46 A’r ystafell yr hon sydd â’i hwyneb tua’r gogledd, sydd i’r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth yr allor: y rhai hyn yw meibion Sadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi, yn nesáu at yr Arglwydd i weini iddo. 47 Felly efe a fesurodd y cyntedd, yn gan cufydd o hyd, ac yn gan cufydd o led, yn bedeirongl; a’r allor oedd o flaen y tŷ.

48 Ac efe a’m dug i borth y tŷ, ac a fesurodd bob post i’r porth, yn bum cufydd o’r naill du, ac yn bum cufydd o’r tu arall: a lled y porth oedd dri chufydd o’r naill du, a thri chufydd o’r tu arall. 49 Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd, ac un cufydd ar ddeg o led: ac efe a’m dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst, un o’r naill du, ac un o’r tu arall.

Salmau 91

91 Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf. Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon. A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti. Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd: Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd. Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti. Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol. Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti; 10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell. 11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd. 12 Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg. 13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri. 14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.