M’Cheyne Bible Reading Plan
4 A’r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel. 2 A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad; 3 Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oedd ysgrifenyddion; Jehosaffat mab Ahilud, yn gofiadur; 4 Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid; 5 Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben‐llywydd, ac yn gyfaill i’r brenin; 6 Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.
7 A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu. 8 Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim. 9 Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth‐semes, ac Elon‐bethanan. 10 Mab Hesed, yn Aruboth: iddo ef yr oedd Socho, a holl dir Heffer. 11 Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef. 12 Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel‐mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam. 13 Mab Geber oedd yn Ramoth‐Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres. 14 Ahinadab mab Ido oedd ym Mahanaim. 15 Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig. 16 Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth. 17 Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar. 18 Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin. 19 Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.
20 Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen. 21 A Solomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.
22 A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd; 23 Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision. 24 Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa hyd Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch. 25 Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer‐seba, holl ddyddiau Solomon.
26 Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch. 27 A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim. 28 Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch, ac i’r cyflym gamelod, i’r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.
29 A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr. 30 A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft. 31 Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch. 32 Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a phump. 33 Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod. 34 Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.
5 Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser. 2 A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd, 3 Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd ei Dduw, gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef, nes rhoddi o’r Arglwydd hwynt dan wadnau ei draed ef. 4 Eithr yn awr yr Arglwydd fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol. 5 Ac wele fi â’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw; megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i’m henw i. 6 Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.
7 A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr Arglwydd heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma. 8 A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd. 9 Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a’u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i’m teulu i. 10 Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad. 11 A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn. 12 A’r Arglwydd a roddes ddoethineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.
13 A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a’r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr. 14 Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth. 15 Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd; 16 Heb law pen‐swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith. 17 A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ. 18 Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a’r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ.
2 A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau; 2 Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd‐dod; 3 Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill. 4 Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, 5 Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a’n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;) 6 Ac a’n cydgyfododd, ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu: 7 Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu. 8 Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw: 9 Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. 10 Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt. 11 Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd; 12 Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd: 13 Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist. 14 Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: 15 Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch; 16 Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi. 17 Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac i’r rhai agos. 18 Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad. 19 Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd‐ddinasyddion â’r saint, ac yn deulu Duw; 20 Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen; 21 Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd: 22 Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd.
35 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Gosod dy wyneb, fab dyn, tuag at fynydd Seir, a phroffwyda yn ei erbyn, 3 A dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn di, mynydd Seir; estynnaf hefyd fy llaw i’th erbyn, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch. 4 Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd. 5 Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt: 6 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, mi a’th wnaf di yn waed, a gwaed a’th ymlid di: gan na chasei waed, gwaed a’th ddilyn. 7 Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a’r hwn a ddychwelo. 8 Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â’i laddedigion: yn dy fryniau, a’th ddyffrynnoedd, a’th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd â’r cleddyf. 9 Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a’th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 10 Am ddywedyd ohonot, Y ddwy genedl a’r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi, a nyni a’i meddiannwn; er bod yr Arglwydd yno: 11 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ôl dy genfigen, y rhai o’th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost; fel y’m hadwaener yn eu mysg hwynt, pan y’th farnwyf di. 12 A chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i’w difa. 13 Ymfawrygasoch hefyd â’ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i’m herbyn: mi a’u clywais. 14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan lawenycho yr holl wlad, mi a’th wnaf di yn anghyfannedd. 15 Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel, oherwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
I’r Pencerdd, Salm meibion Cora.
85 Graslon fuost, O Arglwydd, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob. 2 Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela. 3 Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter. 4 Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym. 5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth? 6 Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti? 7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth. 8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. 9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.