Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 1

A’r brenin Dafydd oedd hen, ac a aethai mewn oedran; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad, eto ni chynhesai efe. Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho, Ceisier i’m harglwydd frenin lances o forwyn; a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo, a gorwedded yn dy fynwes, fel y gwresogo fy arglwydd frenin. A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel; ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a’i dygasant hi at y brenin. A’r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu’r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i’r brenin a wnaeth â hi.

Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen. A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi Absalom. Ac o’i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad: a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia. Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a Simei, a Rei, a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag Adoneia. Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen Soheleth, yr hwn sydd wrth En‐rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin. 10 Ond Nathan y proffwyd, a Benaia, a’r gwŷr cedyrn, a Solomon ei frawd, ni wahoddodd efe.

11 Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddywedyd, Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a’n harglwydd Dafydd heb wybod hynny? 12 Tyred gan hynny yn awr, atolwg, rhoddaf i ti gyngor, fel yr achubych dy einioes dy hun, ac einioes Solomon dy fab. 13 Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu? 14 Wele, tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin, minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di, ac a sicrhaf dy eiriau di.

15 A Bathseba a aeth i mewn at y brenin, i’r ystafell. A’r brenin oedd hen iawn; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin. 16 A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Beth a fynni di? 17 Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i’r Arglwydd dy Dduw wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i: 18 Ac yn awr, wele, Adoneia sydd frenin; ac yr awr hon, fy arglwydd frenin, nis gwyddost ti hyn. 19 Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe. 20 Tithau, fy arglwydd frenin, y mae llygaid holl Israel arnat ti, am fynegi iddynt pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef. 21 Os amgen, pan orweddo fy arglwydd frenin gyda’i dadau, yna y cyfrifir fi a’m mab Solomon yn bechaduriaid.

22 Ac wele, tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â’r brenin, y daeth Nathan y proffwyd hefyd i mewn. 23 A hwy a fynegasant i’r brenin, gan ddywedyd, Wele Nathan y proffwyd. Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac a ymgrymodd i’r brenin â’i wyneb hyd lawr. 24 A dywedodd Nathan, Fy arglwydd frenin, a ddywedaist ti, Adoneia a deyrnasa ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc? 25 Canys efe a aeth i waered heddiw, ac a laddodd ychen, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o’i flaen ef, ac y maent yn dywedyd, Bydded fyw y brenin Adoneia. 26 Ond myfi dy was, a Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a’th was Solomon, ni wahoddodd efe. 27 Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos ohonot i’th was, pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef?

28 A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd, Gelwch Bathseba ataf fi. A hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd gerbron y brenin. 29 A’r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder, 30 Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i yn fy lle i; felly y gwnaf y dydd hwn. 31 Yna Bathseba a ostyngodd ei phen a’i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i’r brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.

32 A’r brenin Dafydd a ddywedodd, Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada. A hwy a ddaethant o flaen y brenin. 33 A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi’a pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy nun, a dygwch ef i waered i Gihon. 34 Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel: ac utgenwch mewn utgorn, a dywedwch, Bydded fyw y brenin Solomon. 35 Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef, a deued efe i fyny, ac eistedded ar fy ngorseddfa i; ac efe a deyrnasa yn fy lle i: canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda. 36 A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Amen: yr un modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin. 37 Megis y bu yr Arglwydd gyda’m harglwydd y brenin, felly bydded gyda Solomon, a gwnaed yn fwy ei orseddfainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd. 38 Felly Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid, a aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon. 39 A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a’r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon. 40 A’r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.

41 A chlybu Adoneia, a’i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef, pan ddarfuasai iddynt fwyta. Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn; ac a ddywedodd, Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol? 42 Ac efe eto yn llefaru, wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di. 43 A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia, Yn ddiau ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin. 44 A’r brenin a anfonodd gydag ef Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin. 45 A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a’i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a’r ddinas a derfysgodd. Dyna’r twrf a glywsoch chwi. 46 Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth. 47 A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy Dduw a wnelo enw Solomon yn well na’th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na’th orseddfainc di. A’r brenin a ymgrymodd ar y gwely. 48 Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a’m llygaid innau yn gweled hynny. 49 A’r holl wahoddedigion, y rhai oedd gydag Adoneia, a ddychrynasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob un ei ffordd.

50 Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon; ac a gyfododd, ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor. 51 A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni’r brenin Solomon: canys wele, efe a ymaflodd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â’r cleddyf. 52 A dywedodd Solomon, Os bydd efe yn ŵr da, ni syrth un o’i wallt ef i lawr; ond os ceir drygioni ynddo ef, efe a fydd marw. 53 A’r brenin Solomon a anfonodd, a hwy a’i dygasant ef oddi wrth yr allor. Ac efe a ddaeth, ac a ymgrymodd i’r brenin Solomon. A dywedodd Solomon wrtho, Dos i’th dŷ.

Galatiaid 5

Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed. Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi. Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf. Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras. Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder. Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad. Chwi a redasoch yn dda; pwy a’ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd? Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi. Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does. 10 Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo. 11 A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y’m herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes. 12 Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch. 13 Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd. 14 Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun. 15 Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd. 16 Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd. 17 Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. 18 Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf. 19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, 20 Delw‐addoliaeth, swyn‐gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, 21 Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. 22 Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: 23 Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. 24 A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. 25 Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd. 26 Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.

Eseciel 32

32 Ac yn y deuddegfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda’th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd â’th draed, a methraist eu hafonydd hwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat â chynulleidfa pobloedd lawer; a hwy a’th godant yn fy rhwyd i. Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti; ie, ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear. Rhoddaf hefyd dy gig ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd â’th uchder di. Mwydaf hefyd â’th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot. Ie, cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf eu sêr hwynt: yr haul a guddiaf â chwmwl, a’r lleuad ni wna i’w goleuni oleuo. Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y nefoedd, a rhoddaf dywyllwch ar dy dir, medd yr Arglwydd Dduw. A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhedloedd i diroedd nid adnabuost. 10 A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a’u brenhinoedd a ofnant yn fawr o’th blegid, pan wnelwyf i’m cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.

11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti. 12 A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws, byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft, a’i holl liaws hi a ddinistrir. 13 Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy, ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt. 14 Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt, a gwnaf i’w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd Dduw. 15 Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith, ac anrheithio y wlad o’i llawnder, pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi, yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 16 Dyma y galar a alarant amdani hi: merched y cenhedloedd a alarant amdani hi; galarant amdani hi, sef am yr Aifft, ac am ei lliaws oll, medd yr Arglwydd Dduw.

17 Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn, ar y pymthegfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 18 Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i’r tir isaf, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 19 Tecach na phwy oeddit? disgyn a gorwedd gyda’r rhai dienwaededig. 20 Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd â’r cleddyf: i’r cleddyf y rhoddwyd hi; llusgwch hi a’i lliaws oll. 21 Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol uffern gyda’i chynorthwywyr: disgynasant, gorweddant yn ddienwaededig, wedi eu lladd â’r cleddyf. 22 Yno y mae Assur a’i holl gynulleidfa, a’i feddau o amgylch; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf. 23 Yr hon y rhoddwyd eu beddau yn ystlysau y pwll, a’i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a barasant arswyd yn nhir y rhai byw. 24 Yno y mae Elam a’i holl liaws o amgylch ei bedd, wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i’r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 25 Yng nghanol y rhai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd â’i holl liaws; a’i beddau o’i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, a laddwyd â’r cleddyf: er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw, eto dygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef. 26 Yno y mae Mesech, Tubal, a’i holl liaws; a’i beddau o amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, wedi eu lladd â’r cleddyf, er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw. 27 Ac ni orweddant gyda’r cedyrn a syrthiasant o’r rhai dienwaededig, y rhai a ddisgynasant i uffern â’u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy, er eu bod yn arswyd i’r cedyrn yn nhir y rhai byw. 28 A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig, ac a orweddi gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf. 29 Yno y mae Edom, a’i brenhinoedd, a’i holl dywysogion, y rhai a roddwyd â’u cadernid gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf: hwy a orweddant gyda’r rhai dienwaededig, a chyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 30 Yno y mae holl dywysogion y gogledd, a’r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda’r lladdedigion; gyda’u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 31 Pharo a’u gwêl hwynt, ac a ymgysura yn ei holl liaws, Pharo a’i holl lu wedi eu lladd â’r cleddyf, medd yr Arglwydd Dduw. 32 Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw; a gwneir iddo orwedd yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf, sef i Pharo ac i’w holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.

Salmau 80

I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.

80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun. 16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt. 17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.