M’Cheyne Bible Reading Plan
23 Dyma eiriau diwethaf Dafydd. Dywedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd ganiedydd Israel; 2 Ysbryd yr Arglwydd a lefarodd ynof fi, a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod. 3 Duw Israel a ddywedodd wrthyf fi, Craig Israel a ddywedodd, Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn ofn Duw: 4 Ac efe a fydd fel y bore‐oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o’r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw. 5 Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a’m holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.
6 A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt. 7 Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn, ac â phaladr gwaywffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.
8 Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith. 9 Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhlith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith. 10 Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf: a’r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio. 11 Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A’r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys: a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid. 12 Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a’i hachubodd, ac a laddodd y Philistiaid. Felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr. 13 A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim. 14 A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa: a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem. 15 A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a’m dioda i â dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth? 16 A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant hefyd, ac a’i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd; 17 Ac a ddywedodd, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny. 18 Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o’r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri. 19 Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf. 20 A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. 21 Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun. 22 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhlith y tri chadarn. 23 Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard. 24 Asahel brawd Joab oedd un o’r deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad, 25 Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad, 26 Heles y Paltiad, Ira mab Icces y Tecoiad, 27 Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad, 28 Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad, 29 Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, 30 Benaia y Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas, 31 Abi‐albon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad, 32 Eliahba y Saalboniad; o feibion Jasen, Jonathan, 33 Samma yr Harariad, Ahïam mab Sarar yr Harariad, 34 Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Elïam mab Ahitoffel y Giloniad, 35 Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad, 36 Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad, 37 Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia, 38 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 39 Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl.
3 O y Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith? 2 Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd? 3 A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd? 4 A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd. 5 Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae? 6 Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 7 Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham. 8 A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd. 9 Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon. 10 Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt. 11 Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. 12 A’r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna’r pethau hynny, a fydd byw ynddynt. 13 Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren: 14 Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd. 15 Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato. 16 I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i’w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i’th had di, yr hwn yw Crist. 17 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw’r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer. 18 Canys os o’r ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw haeach o’r addewid: ond Duw a’i rhad roddodd i Abraham trwy addewid. 19 Beth gan hynny yw’r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai’r had, i’r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr. 20 A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un. 21 A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder. 22 Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu. 23 Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. 24 Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. 25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. 26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. 27 Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. 28 Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. 29 Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.
30 A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2 Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Udwch, Och o’r diwrnod! 3 Canys agos dydd, ie, agos dydd yr Arglwydd, dydd cymylog; amser y cenhedloedd fydd efe. 4 A’r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau. 5 Ethiopia, a Libya, a Lydia, a’u gwerin oll, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfamod, a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf. 6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd, a balchder ei nerth hi a ddisgyn: syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene, medd yr Arglwydd Dduw. 7 A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol, a’i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig. 8 A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf dân yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi. 9 Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon. 11 Efe a’i bobl gydag ef, y rhai trawsion o’r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad â chelanedd. 12 Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a’i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr Arglwydd a’i dywedodd. 13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i’r eilunod ddarfod o Noff; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft. 14 Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân yn Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No. 15 A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No. 16 A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd. 17 Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy. 18 Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a’i cuddia hi, a’i merched a ânt i gaethiwed. 19 Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
20 Ac yn y mis cyntaf o’r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 21 Ha fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft; ac wele, nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osod rhwymyn i rwymo, i’w gryfhau i ddal y cleddyf. 22 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a’r hwn oedd ddrylliedig; ac a wnaf i’r cleddyf syrthio o’i law ef. 23 A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd. 24 A mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef: ond mi a dorraf freichiau Pharo, ac efe a ochain o’i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig. 25 Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, a breichiau Pharo a syrthiant; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft. 26 A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd
38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid. 39 Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd. 40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch? 41 Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel. 42 Ni chofiasant ei law ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn. 43 Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan: 44 Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed. 45 Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha. 46 Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust. 47 Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew. 48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt. 49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg. 50 Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint. 51 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham: 52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch. 53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt. 54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef. 55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt. 56 Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau: 57 Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus. 58 Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau. 59 Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr: 60 Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion; 61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn. 62 Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth. 63 Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd. 64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant. 65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin. 66 Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol. 67 Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim: 68 Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd. 69 Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd. 70 Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid: 71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth. 72 Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.