M’Cheyne Bible Reading Plan
21 A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymofynnodd gerbron yr Arglwydd. A’r Arglwydd a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dŷ gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid. 2 A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a’r Gibeoniaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o’i serch i feibion Israel a Jwda.) 3 A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac â pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr Arglwydd? 4 A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dŷ ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi. 5 A hwy a ddywedasant wrth y brenin, Y gŵr a’n difethodd ni, ac a fwriadodd i’n herbyn ni, i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel, 6 Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r Arglwydd yn Gibea Saul, dewisedig yr Arglwydd. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf. 7 Ond y brenin a arbedodd Meffiboseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr Arglwydd yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul. 8 Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddûg hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad: 9 Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr Arglwydd: a’r saith hyn a gydgwympasant, ac a roddwyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd.
10 A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos. 11 A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul.
12 A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a’u lladratasent hwy o heol Beth‐sar yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa. 13 Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy a gasglasant esgyrn y rhai a grogasid. 14 A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu Duw fodlon i’r wlad ar ôl hyn.
15 A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel; a Dafydd a aeth i waered a’i weision gydag ef, ac a ymladdasant â’r Philistiaid. A diffygiodd Dafydd. 16 Ac Isbi‐benob, yr hwn oedd o feibion y cawr, (a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres,) ac wedi ei wregysu â chleddyf newydd, a feddyliodd ladd Dafydd. 17 Ond Abisai mab Serfia a’i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel. 18 Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Saff, yr hwn oedd o feibion y cawr. 19 A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab Jaareoregim, y Bethlehemiad, a drawodd frawd Goleiath y Gethiad; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd. 20 A bu eto ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr corffol, a chwech o fysedd ar bob llaw iddo, a chwech o fysedd ar bob troed iddo, pedwar ar hugain o rifedi; efe hefyd oedd fab i’r cawr. 21 Ac efe a amharchodd Israel; a Jonathan mab Simea, brawd Dafydd, a’i lladdodd ef. 22 Y pedwar hyn a aned i’r cawr yn Gath, ac a gwympasant trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.
1 Paul, apostol, (nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn a’i cyfododd ef o feirw;) 2 A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia: 3 Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist; 4 Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y’n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a’n Tad ni: 5 I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 6 Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall: 7 Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist. 8 Eithr pe byddai i ni, neu i angel o’r nef, efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema. 9 Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema. 10 Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist. 11 Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yw hi ddynol. 12 Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist. 13 Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw, a’i hanrheithio hi; 14 Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau. 15 Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam, ac a’m galwodd i trwy ei ras, 16 I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed: 17 Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus. 18 Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod. 19 Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd. 20 A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd. 21 Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia; 22 Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist: 23 Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu’r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai. 24 A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.
28 Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd, 2 Ha fab dyn, dywed wrth dywysog Tyrus, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am falchïo dy galon, a dywedyd ohonot, Duw ydwyf fi, eistedd yr ydwyf yn eisteddfa Duw yng nghanol y moroedd; a thi yn ddyn, ac nid yn Dduw, er gosod ohonot dy galon fel calon Duw: 3 Wele di yn ddoethach na Daniel; ni chuddir dim dirgelwch oddi wrthyt: 4 Trwy dy ddoethineb a’th ddeallgarwch y cefaist gyfoeth i ti, ie, y cefaist aur ac arian i’th drysorau: 5 Trwy dy fawr ddoethineb ac wrth dy farchnadaeth yr amlheaist dy gyfoeth, a’th galon a falchïodd oherwydd dy gyfoeth: 6 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am osod ohonot dy galon fel calon Duw, 7 Oherwydd hynny wele fi yn dwyn i’th erbyn ddieithriaid, y trawsaf o’r cenhedloedd; a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoethineb, a halogant dy loywder. 8 Disgynnant di i’r ffos, a byddi farw o farwolaeth yr archolledig yng nghanol y môr. 9 Gan ddywedyd a ddywedi di o flaen dy leiddiad, Duw ydwyf fi? a thi a fyddi yn ddyn, ac nid yn Dduw, yn llaw dy leiddiad. 10 Byddi farw o farwolaeth y dienwaededig, trwy law dieithriaid: canys myfi a’i dywedais, medd yr Arglwydd Dduw.
11 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd, 12 Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch, 13 Ti a fuost yn Eden, gardd Duw: pob maen gwerthfawr a’th orchuddiai, sardius, topas, ac adamant, beryl, onics, a iasbis, saffir, rubi, a smaragdus, ac aur: gwaith dy dympanau a’th bibellau a baratowyd ynot ar y dydd y’th grewyd. 14 Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio; ac felly y’th roddaswn; oeddit ar sanctaidd fynydd Duw: ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd. 15 Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y’th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd. 16 Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais, a thi a bechaist: am hynny y’th halogaf allan o fynydd Duw, ac y’th ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd. 17 Balchïodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder: bwriaf di i’r llawr; o flaen brenhinoedd y’th osodaf, fel yr edrychont arnat. 18 Trwy amlder dy anwiredd, ag anwiredd dy farchnadaeth, yr halogaist dy gysegroedd: am hynny y dygaf dân allan o’th ganol, hwnnw a’th ysa; a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a’th welant. 19 Y rhai a’th adwaenant oll ymysg y bobloedd, a synnant o’th achos: dychryn fyddi, ac ni byddi byth.
20 Yna gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 21 Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Sidon, a phroffwyda yn ei herbyn hi, 22 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, Sidon; fel y’m gogonedder yn dy ganol, ac y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf ynddi farnedigaethau, ac y’m sancteiddier ynddi. 23 Canys anfonaf iddi haint, a gwaed i’w heolydd; a bernir yr archolledig o’i mewn â’r cleddyf, yr hwn fydd arni oddi amgylch; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
24 Ac ni bydd mwy i dŷ Israel, o’r holl rai o’u hamgylch a’r a’u dirmygasant, ysbyddaden bigog, na draenen ofidus; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw. 25 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan gasglwyf dŷ Israel o fysg y bobloedd y rhai y gwasgarwyd hwy yn eu plith, ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng ngolwg y cenhedloedd; yna y trigant yn eu gwlad a roddais i’m gwas Jacob. 26 Ie, trigant ynddi yn ddiogel, ac adeiladant dai, a phlannant winllannoedd; a phreswyliant mewn diogelwch, pan wnelwyf farnedigaethau â’r rhai oll a’u dirmygant hwy o’u hamgylch; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw.
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.
77 A’m llef y gwaeddais ar Dduw, â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd. 2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu. 3 Cofiais Dduw, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela. 4 Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru. 5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd. 6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal. 7 Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy? 8 A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd? 9 A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela. 10 A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf. 11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt. 12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf. 13 Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n Duw ni? 14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd. 15 Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela. 16 Y dyfroedd a’th welsant, O Dduw, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd. 17 Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant. 18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear. 19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl. 20 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.