M’Cheyne Bible Reading Plan
20 Ac yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall, a’i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i’w babell, O Israel. 2 Felly holl wŷr Israel a aethant i fyny oddi ar ôl Dafydd, ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin, o’r Iorddonen hyd Jerwsalem.
3 A daeth Dafydd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem; a’r brenin a gymerth y deg gordderchwraig a adawsai efe i gadw y tŷ, ac a’u rhoddes hwynt mewn cadwraeth, ac a’u porthodd hwynt; ond nid aeth efe i mewn atynt hwy: eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw mewn gweddwdod.
4 Yna y dywedodd y brenin wrth Amasa, Cynnull i mi wŷr Jwda erbyn y trydydd dydd; a bydd dithau yma. 5 Felly Amasa a aeth i gynnull Jwda: ond efe a drigodd yn hwy na’r amser terfynedig a osodasai efe iddo. 6 A dywedodd Dafydd wrth Abisai, Seba mab Bichri a’n dryga ni yn waeth nag Absalom: cymer di weision dy arglwydd, ac erlid ar ei ôl ef, rhag iddo gael y dinasoedd caerog, ac ymachub o’n golwg ni. 7 A gwŷr Joab, a’r Cerethiaid, y Pelethiaid hefyd, a’r holl gedyrn, a aethant ar ei ôl ef; ac a aethant allan o Jerwsalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri. 8 Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr sydd yn Gibeon, Amasa a aeth o’u blaen hwynt. A Joab oedd wedi gwregysu ei gochl oedd amdano, ac arni yr oedd gwregys â chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain; a phan gerddai efe, y cleddyf a syrthiai. 9 A dywedodd Joab wrth Amasa, A wyt ti yn llawen, fy mrawd? A llaw ddeau Joab a ymaflodd ym marf Amasa i’w gusanu ef. 10 Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab: felly efe a’i trawodd ef ag ef dan y bumed ais, ac a ollyngodd ei berfedd ef i’r llawr, ac nid aildrawodd ef: ac efe a fu farw. Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab Bichri. 11 Ac un o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, Pwy bynnag a ewyllysio yn dda i Joab, a phwy bynnag sydd gyda Dafydd, eled ar ôl Joab. 12 Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu mewn gwaed yng nghanol y briffordd. A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll, efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i’r maes, ac a daflodd gadach arno, pan welodd efe bawb a’r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll. 13 Pan symudwyd ef oddi ar y briffordd, yr holl wŷr a aethant ar ôl Joab, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.
14 Ac efe a dramwyodd trwy holl lwythau Israel i Abel, ac i Beth‐maacha, ac i holl leoedd Berim: a hwy a ymgasglasant, ac a aethant ar ei ôl ef. 15 Felly y daethant hwy, ac a warchaeasant arno ef yn Abel Beth‐maacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon a safodd ar y rhagfur: a’r holl bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn curo’r mur, i’w fwrw i lawr.
16 Yna gwraig ddoeth o’r ddinas a lefodd, Clywch, clywch: dywedwch, atolwg, wrth Joab, Nesâ hyd yma, fel yr ymddiddanwyf â thi. 17 Pan nesaodd efe ati hi, y wraig a ddywedodd, Ai ti yw Joab? Dywedodd yntau, Ie, myfi. A hi a ddywedodd wrtho ef, Gwrando eiriau dy lawforwyn. Dywedodd yntau, Yr ydwyf yn gwrando. 18 Yna hi a ddywedodd, Hwy a lefarent gynt, gan ddywedyd, Diau yr ymofynnant ag Abel: ac felly y dibennent. 19 Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel: yr wyt ti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel: paham y difethi di etifeddiaeth yr Arglwydd? 20 A Joab a atebodd ac a ddywedodd, Na ato Duw, na ato Duw, i mi na difetha na dinistrio! 21 Nid felly y mae y peth: eithr gŵr o fynydd Effraim, Seba mab Bichri dan ei enw, a ddyrchafodd ei law yn erbyn y brenin, yn erbyn Dafydd. Rhoddwch ef yn unig, a mi a af ymaith oddi wrth y ddinas. A dywedodd y wraig wrth Joab, Wele, ei ben ef a fwrir atat ti dros y mur. 22 Yna y wraig o’i doethineb a aeth at yr holl bobl. A hwy a dorasant ben Seba mab Bichri, ac a’i taflasant allan i Joab. Ac efe a utganodd mewn utgorn; a hwy a wasgarwyd oddi wrth y ddinas, bob un i’w pabellau. A Joab a ddychwelodd i Jerwsalem at y brenin.
23 Yna Joab oedd ar holl luoedd Israel; a Benaia mab Jehoiada ar y Cerethiaid, ac ar y Pelethiaid; 24 Ac Adoram oedd ar y dreth; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; 25 Sefa hefyd yn ysgrifennydd; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid; 26 Ira hefyd y Jairiad oedd ben‐llywydd ynghylch Dafydd.
13 Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair. 2 Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf: 3 Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi. 4 Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw trwy nerth Duw: canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi. 5 Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy? 6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy. 7 Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy. 8 Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd. 9 Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi. 10 Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr. 11 Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw’r cariad a’r heddwch a fydd gyda chwi. 12 Anerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae’r holl saint yn eich annerch chwi. 13 Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyda chwi oll. Amen.
Yr ail at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi ym Macedonia, gyda Thitus a Luc.
27 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd, 2 Tithau fab dyn, cyfod alarnad am Tyrus; 3 A dywed wrth Tyrus, O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tyrus, ti a ddywedaist, Myfi wyf berffaith o degwch. 4 Dy derfynau sydd yng nghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch. 5 Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti. 6 Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim. 7 Lliain main o’r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do. 8 Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o’th fewn, oedd dy long‐lywiawdwyr. 9 Henuriaid Gebal a’i doethion oedd ynot yn cau dy agennau: holl longau y môr a’u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad. 10 Y Persiaid, a’r Ludiaid, a’r Phutiaid, oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd: tarian a helm a grogasant ynot; hwy a roddasant i ti harddwch. 11 Meibion Arfad oedd gyda’th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a’r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch. 12 Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud; ag arian, haearn, alcam, a phlwm, y marchnatasant yn dy ffeiriau. 13 Jafan, Tubal, a Mesech, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres. 14 Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch, a marchogion, a mulod. 15 Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti. 16 Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o’th waith di: am garbuncl, porffor, a gwaith edau a nodwydd, a lliain meinllin, a chwrel, a gemau, y marchnatasant yn dy ffeiriau. 17 Jwda a thir Israel, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am wenith Minnith, a Phannag, a mêl, ac olew, a thriagl. 18 Damascus oedd dy farchnadydd yn amlder dy waith oherwydd lliaws pob golud; am win Helbon, a gwlân gwyn. 19 Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd: haearn wedi ei weithio, casia, a’r calamus, oedd yn dy farchnad. 20 Dedan oedd dy farchnadydd mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau. 21 Arabia, a holl dywysogion Cedar, oedd hwythau farchnadyddion i ti am ŵyn, hyrddod, a bychod: yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion. 22 Marchnadyddion Seba a Rama, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy ffeiriau am bob prif beraroglau, ac am bob maen gwerthfawr, ac aur. 23 Haran, a Channe, ac Eden, marchnadyddion Seba, Assur, a Chilmad, oedd yn marchnata â thi. 24 Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith, am frethynnau gleision, a gwaith edau a nodwydd, ac am gistiau gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwymo â rhaffau a’u gwneuthur o gedrwydd, ymysg dy farchnadaeth. 25 Llongau Tarsis oedd yn canu amdanat yn dy farchnad; a thi a lanwyd, ac a ogoneddwyd yn odiaeth yng nghanol y moroedd.
26 Y rhai a’th rwyfasant a’th ddygasant i ddyfroedd lawer: gwynt y dwyrain a’th ddrylliodd yng nghanol y moroedd. 27 Dy olud, a’th ffeiriau, dy farchnadaeth, dy forwyr, a’th feistriaid llongau, cyweirwyr dy agennau, a marchnadwyr dy farchnad, a’th ryfelwyr oll y rhai sydd ynot, a’th holl gynulleidfa yr hon sydd yn dy ganol, a syrthiant yng nghanol y môr, ar ddydd dy gwymp di. 28 Wrth lef gwaedd dy feistriaid llongau, y tonnau a gyffroant. 29 Yna pob rhwyfwr, y morwyr, holl lywyddion y moroedd, a ddisgynnant o’u llongau, ar y tir y safant; 30 A gwnânt glywed eu llef amdanat, a gwaeddant yn chwerw, a chodant lwch ar eu pennau, ac ymdrybaeddant yn y lludw. 31 A hwy a’u gwnânt eu hunain yn foelion amdanat, ac a ymwregysant â sachliain, ac a wylant amdanat â chwerw alar, mewn chwerwedd calon. 32 A chodant amdanat alarnad yn eu cwynfan, a galarant amdanat, gan ddywedyd, Pwy oedd fel Tyrus, fel yr hon a ddinistriwyd yng nghanol y môr! 33 Pan ddelai dy farchnadaeth o’r moroedd, diwellit bobloedd lawer; ag amlder dy olud a’th farchnadaeth y cyfoethogaist frenhinoedd y ddaear. 34 Y pryd y’th dorrer gan y môr yn nyfnderau y dyfroedd, dy farchnad a’th holl gynulleidfa a syrthiant yn dy ganol. 35 Holl breswylwyr yr ynysoedd a synnant amdanat, a’u brenhinoedd a ddychrynant ddychryn; hwy a drallodir yn eu hwynebau. 36 Y marchnadyddion ymysg y bobloedd a chwibanant arnat: dychryn fyddi, ac ni byddi byth mwyach.
I’r Pencerdd, Al‐teschith, Salm neu Gân Asaff.
75 Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny. 2 Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn. 3 Ymddatododd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela. 4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn: 5 Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth. 6 Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth. 7 Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall. 8 Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion. 9 Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob. 10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.
76 Hynod yw Duw yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel. 2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion. 3 Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela. 4 Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail. 5 Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo. 6 Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu. 7 Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter? 8 O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear, 9 Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela. 10 Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi. 11 Addunedwch, a thelwch i’r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy. 12 Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.