M’Cheyne Bible Reading Plan
19 Amynegwyd i Joab, Wele y brenin yn wylo, ac yn galaru am Absalom. 2 A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristáu o’r brenin am ei fab. 3 A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas, fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel. 4 Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb; a’r brenin a waeddodd â llef uchel, O fy mab Absalom, Absalom, fy mab, fy mab! 5 A Joab a ddaeth i mewn i’r tŷ at y brenin, ac a ddywedodd, Gwaradwyddaist heddiw wynebau dy holl weision, y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw, ac einioes dy feibion a’th ferched, ac einioes dy wragedd, ac einioes dy ordderchwragedd; 6 Gan garu dy gaseion, a chasáu dy garedigion: canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion, na’th weision: oherwydd mi a wn heddiw, pe Absalom fuasai byw, a ninnau i gyd yn feirw heddiw, mai da fuasai hynny yn dy olwg di. 7 Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywed yn deg wrth dy weision: canys yr wyf fi yn tyngu i’r Arglwydd, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon. 8 Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i’w babell.
9 Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom. 10 Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb sôn am gyrchu y brenin drachefn?
11 A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, Lleferwch wrth henuriaid Jwda, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dŷ? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin, hyd ei dŷ. 12 Fy mrodyr ydych chwi; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi: paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adref? 13 Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth. 14 Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda, fel calon un gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, Dychwel di a’th holl weision. 15 Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth i’r Iorddonen. A Jwda a ddaeth i Gilgal, i fyned i gyfarfod â’r brenin, i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen.
16 A Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a frysiodd, ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda, i gyfarfod â’r brenin Dafydd. 17 A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas tŷ Saul, a’i bymtheng mab a’i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin. 18 Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simei mab Gera a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen; 19 Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o’r brenin hynny at ei galon. 20 Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dŷ Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod â’m harglwydd frenin. 21 Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo felltithio eneiniog yr Arglwydd? 22 A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel? 23 A’r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a’r brenin a dyngodd wrtho ef.
24 Meffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod â’r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai’r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch. 25 A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod â’r brenin, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Paham nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth? 26 Ac efe a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, fy ngwas a’m twyllodd i: canys dywedodd dy was, Cyfrwyaf i mi asyn, fel y marchogwyf arno, ac yr elwyf at y brenin; oherwydd cloff yw dy was. 27 Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg. 28 Canys nid oedd holl dŷ fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhlith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin? 29 A’r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir. 30 A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddyfod fy arglwydd frenin i’w dŷ mewn heddwch.
31 A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim, ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin, i’w hebrwng ef dros yr Iorddonen. 32 A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn darparu lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe. 33 A’r brenin a ddywedodd wrth Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a mi a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem. 34 A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem? 35 Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytâf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin? 36 Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth? 37 Gad, atolwg, i’th was ddychwelyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y’m cladder ym meddrod fy nhad a’m mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg. 38 A dywedodd y brenin, Chimham a â gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a’i gwnaf erot. 39 A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun. 40 Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.
41 Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef? 42 Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid câr agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg? 43 A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gan hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.
12 Ymffrostio yn ddiau nid yw fuddiol i mi: canys myfi a ddeuaf at weledigaethau a datguddiedigaethau’r Arglwydd. 2 Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg, (pa un ai yn y corff, ni wn; ai allan o’r corff, ni wn i: Duw a ŵyr;) y cyfryw un a gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef. 3 Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn, (pa un ai yn y corff, ai allan o’r corff ni wn i: Duw a ŵyr;) 4 Ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd. 5 Am y cyfryw un yr ymffrostiaf; eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid. 6 Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddaf ffôl; canys mi a ddywedaf y gwir: eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf. 7 Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i’m cernodio, fel na’m tra-dyrchefid. 8 Am y peth hwn mi a atolygais i’r Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Crist ynof fi. 10 Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid, mewn amarch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn. 11 Mi a euthum yn ffôl wrth ymffrostio; chwychwi a’m gyrasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf, er nad ydwyf fi ddim. 12 Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi, mewn pob amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a gweithredoedd nerthol. 13 Canys beth yw’r hyn y buoch chwi yn ôl amdano, mwy na’r eglwysi eraill, oddieithr am na bûm i fy hun ormesol arnoch? maddeuwch i mi hyn o gam. 14 Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch; ac ni byddaf ormesol arnoch: canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi: canys ni ddylai’r plant gasglu trysor i’r rhieni, ond y rhieni i’r plant. 15 A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau chwi, er fy mod yn eich caru yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach. 16 Eithr bid, ni phwysais i arnoch: ond, gan fod yn gyfrwys, mi a’ch deliais chwi trwy ddichell. 17 A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o’r rhai a ddanfonais atoch? 18 Mi a ddeisyfais ar Titus, a chydag ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau? 19 Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi. 20 Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddelwyf, na’ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn, a’m cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod cynhennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau: 21 Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a’r godineb, a’r anlladrwydd a wnaethant.
26 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Ha fab dyn, oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem, Aha, torrwyd hi, pyrth y bobloedd: trodd ataf fi: fo’m llenwir; anrheithiedig yw hi: 3 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, O Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i’th erbyn, fel y cyfyd y môr ei donnau. 4 A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus, a’i thyrau a ddinistriant: minnau a grafaf ei llwch ohoni, ac a’i gwnaf yn gopa craig. 5 Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr: canys myfi a lefarodd hyn, medd yr Arglwydd Dduw: a hi a fydd yn ysbail i’r cenhedloedd. 6 Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â’r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
7 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dwyn ar Tyrus, o’r gogledd, Nebuchodonosor brenin Babilon, brenin brenhinoedd, â meirch ac â cherbydau, ac â marchogion, a thorfoedd, a phobl lawer. 8 Dy ferched a ladd efe yn y maes â’r cleddyf; ac a esyd wrthglawdd i’th erbyn, ac a fwrw glawdd i’th erbyn, ac a gyfyd darian i’th erbyn. 9 Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a’th dyrau a fwrw efe i lawr â’i fwyeill. 10 Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a’th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a’r olwynion, a’r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog. 11 A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll: dy bobl a ladd efe â’r cleddyf, a’th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i’r llawr. 12 A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddinistriant dy geyrydd, a’th dai dymunol a dynnant i lawr: a’th gerrig, a’th goed, a’th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd. 13 A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio; ac ni chlywir mwy lais dy delynau. 14 A gwnaf di yn gopa craig: taenfa rhwydau fyddi: ni’th adeiledir mwy: canys myfi yr Arglwydd a’i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.
15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Tyrus: Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp, pan waeddo yr archolledig, pan ladder lladdfa yn dy ganol? 16 Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o’u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt. 17 Codant hefyd alarnad amdanat, a dywedant wrthyt, Pa fodd y’th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a’i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi? 18 Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith. 19 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y’th guddio dyfroedd lawer; 20 A’th ddisgyn ohonof gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, at y bobl gynt, a’th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, fel na’th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw; 21 Gwnaf di yn ddychryn, ac ni byddi: er dy geisio, ni’th geir mwy, medd yr Arglwydd Dduw.
Maschil Asaff.
74 Paham, Dduw, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? 2 Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo. 3 Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr. 4 Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion. 5 Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed. 6 Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion. 7 Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw. 8 Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir. 9 Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd. 10 Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd? 11 Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes. 12 Canys Duw yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir. 13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd. 14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch. 15 Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion. 16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul. 17 Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf. 18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw. 19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth. 20 Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster. 21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw. 22 Cyfod, O Dduw, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd. 23 Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.