M’Cheyne Bible Reading Plan
18 A Dafydd a gyfrifodd y bobl oedd gydag ef, ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid. 2 A Dafydd a anfonodd o’r bobl y drydedd ran dan law Joab, a’r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia, brawd Joab, a’r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad. A’r brenin a ddywedodd wrth y bobl, Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi. 3 Ond y bobl a atebodd, Nid ei di allan: canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni; ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant eu meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas. 4 A dywedodd y brenin wrthynt hwy, Gwnaf yr hyn fyddo da yn eich golwg chwi. A’r brenin a safodd gerllaw y porth; a’r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ac yn filoedd. 5 A’r brenin a orchmynnodd i Joab, ac Abisai, ac Ittai, gan ddywedyd, Byddwch esmwyth, er fy mwyn i, wrth y llanc Absalom. A’r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i’r holl flaenoriaid yn achos Absalom.
6 Felly yr aeth y bobl i’r maes i gyfarfod Israel: a’r rhyfel fu yng nghoed Effraim. 7 Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef ugain mil. 8 Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a’r coed a ddifethodd fwy o’r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw.
9 Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a’r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr, a’i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith. 10 A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn derwen. 11 A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, Ac wele, ti a’i gwelaist ef; paham nas trewaist ef yno i’r llawr, ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac un gwregys? 12 A dywedodd y gŵr wrth Joab, Pe cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian, nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin: canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ittai, gan ddywedyd, Gwyliwch gyffwrdd o neb â’r llanc Absalom. 13 Os amgen, mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes: canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn. 14 Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a’u brathodd trwy galon Absalom, ac efe eto yn fyw yng nghanol y dderwen. 15 A’r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a’i lladdasant ef. 16 A Joab a utganodd mewn utgorn; a’r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl. 17 A hwy a gymerasant Absalom, ac a’i bwriasant ef mewn ffos fawr yn y coed, ac a osodasant arno garnedd gerrig fawr iawn: a holl Israel a ffoesant bob un i’w babell.
18 Ac Absalom a gymerasai ac a osodasai iddo yn ei fywyd golofn, yn nyffryn y brenin: canys efe a ddywedodd, Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei hun. A hi a elwir Lle Absalom, hyd y dydd hwn.
19 Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd, Gad i mi redeg yn awr, a mynegi i’r brenin, ddarfod i’r Arglwydd ei ddial ef ar ei elynion. 20 A Joab a ddywedodd wrtho ef, Ni byddi di yn genhadwr y dydd hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddiw ni byddi di gennad, oherwydd marw mab y brenin. 21 Yna y dywedodd Joab wrth Cusi, Dos, dywed i’r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymodd i Joab, ac a redodd. 22 Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd eilwaith wrth Joab, Beth bynnag a fyddo, gad i minnau, atolwg, redeg ar ôl Cusi. A dywedodd Joab, I ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennyt genadwriaeth addas? 23 Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi. 24 A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a’r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan. 25 A’r gwyliedydd a waeddodd, ac a fynegodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd. 26 A’r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg: a’r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwn hefyd sydd gennad. 27 A’r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gŵr da yw hwnnw, ac â chenadwriaeth dda y daw efe. 28 Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddywedodd wrth y brenin, Heddwch: ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu llaw yn erbyn fy arglwydd frenin. 29 A’r brenin a ddywedodd, Ai dihangol y llanc Absalom? A dywedodd Ahimaas, Gwelais gythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin, a’th was dithau, ond ni wybûm i beth ydoedd. 30 A’r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a drodd heibio, ac a safodd. 31 Ac wele, Cusi a ddaeth. A dywedodd Cusi, Cenadwri, arglwydd frenin: canys yr Arglwydd a’th ddialodd di heddiw ar bawb a’r a ymgyfododd i’th erbyn. 32 A dywedodd y brenin wrth Cusi, A ddihangodd y llanc Absalom? A dywedodd Cusi, Fel y llanc hwnnw y byddo gelynion fy arglwydd frenin, a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn di er niwed i ti.
33 A’r brenin a gyffrôdd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac fel hyn y dywedodd efe wrth fyned; O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab, fy mab!
11 O na chyd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb; eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi. 2 Canys eiddigus wyf trosoch ag eiddigedd duwiol: canys mi a’ch dyweddïais chwi i un gŵr, i’ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist. 3 Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist. 4 Canys yn wir os ydyw’r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd-ddygech ag ef. 5 Canys yr ydwyf yn meddwl na bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf. 6 Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, eto nid wyf felly mewn gwybodaeth; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim. 7 A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y dyrchefid chwi, oblegid pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad? 8 Eglwysi eraill a ysbeiliais, gan gymryd cyflog ganddynt hwy, i’ch gwasanaethu chwi. 9 A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisiau, ni ormesais ar neb: canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia: ac ym mhob dim y’m cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf. 10 Fel y mae gwirionedd Crist ynof, nid argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn yng ngwledydd Achaia. 11 Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a’i gŵyr. 12 Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd. 13 Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist. 14 Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni. 15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd. 16 Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffôl: os amgen, eto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig. 17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus. 18 Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd. 19 Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol. 20 Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i’ch caethiwo, os bydd un i’ch llwyr fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, os bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb. 21 Am amarch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hy, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd,) hy wyf finnau hefyd. 22 Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau. 23 Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl,) mwy wyf fi; mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych. 24 Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un. 25 Tair gwaith y’m curwyd â gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor; 26 Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llifddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ymhlith brodyr gau: 27 Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn annwyd a noethni. 28 Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi. 29 Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi? 30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid. 31 Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. 32 Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i: 33 A thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o’i ddwylo ef.
25 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf gan ddywedyd, 2 Ha fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon, a phroffwyda yn eu herbyn hwynt; 3 A dywed wrth feibion Ammon, Gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am ddywedyd ohonot, Ha, ha, yn erbyn fy nghysegr, pan halogwyd; ac yn erbyn tir Israel, pan anrheithiwyd; ac yn erbyn tŷ Jwda, pan aethant mewn caethglud: 4 Am hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu palasau ynot, ac y gosodant eu pebyll o’th fewn: hwy a ysant dy ffrwyth, a hwy a yfant dy laeth. 5 Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 6 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot â’th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon â’th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel; 7 Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th roddaf yn fwyd i’r cenhedloedd, ac a’th dorraf ymaith o fysg y bobloedd, ac a’th ddifethaf o’r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.
8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd: 9 Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o’r dinasoedd, o’i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Beth‐jesimoth, Baal‐meon, a Ciriathaim, 10 I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon, a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd. 11 Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Jwda wrth wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt; 13 Am hynny, medd yr Arglwydd Dduw, yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom, a thorraf ohoni ddyn ac anifail; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman; a’r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf. 14 A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel: a hwy a wnânt ag Edom yn ôl fy nicllonedd, ac yn ôl fy llid; fel y gwypont fy nialedd, medd yr Arglwydd Dduw.
15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am wneuthur o’r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial trwy ddirmyg calon, i’w dinistrio am yr hen gas; 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid, a thorraf ymaith y Cerethiaid, a difethaf weddill porthladd y môr. 17 A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf fy nialedd arnynt.
Salm Asaff.
73 Yn ddiau da yw Duw i Israel; sef i’r rhai glân o galon. 2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad. 3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol. 4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini. 5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill. 6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn. 7 Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth. 8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel. 9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear. 10 Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn. 11 Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf? 12 Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud. 13 Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd. 14 Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore. 15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam. 16 Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i; 17 Hyd onid euthum i gysegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt. 18 Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr. 19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn. 20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt. 21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau. 22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di. 23 Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau. 24 A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant. 25 Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi. 26 Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw Duw yn dragywydd. 27 Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt. 28 Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi: yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.