Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

M’Cheyne Bible Reading Plan

The classic M'Cheyne plan--read the Old Testament, New Testament, and Psalms or Gospels every day.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Samuel 17

17 Dywedodd Ahitoffel hefyd wrth Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon. A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a’i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig. A throaf yr holl bobl atat ti: megis pe dychwelai pob un, yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn heddwch. A da fu’r peth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel. Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd. A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di. A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon. Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a’i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda’r bobl. Wele, yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom. 10 Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon llew, a lwfrha: canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef. 11 Am hynny y cynghoraf, lwyr gasglu atat ti holl Israel, o Dan hyd Beer‐seba, fel y tywod wrth y môr o amldra, a myned o’th wyneb di dy hun i’r rhyfel. 12 Felly y deuwn arno ef i un o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ac a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o’r holl wŷr sydd gydag ef. 13 Ond os i ddinas yr ymgasgl efe, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno, a ni a’i tynnwn hi i’r afon, fel na chaffer yno un garegan. 14 A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor Ahitoffel. Canys yr Arglwydd a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr Arglwydd ddrwg ar Absalom.

15 Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid, Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel: ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau. 16 Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan, a mynegwch i Dafydd, gan ddywedyd, Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch, ond gan fyned dos; rhag difa’r brenin a’r holl bobl sydd gydag ef. 17 Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En‐rogel; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt. Hwythau a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangos i fyned i’r ddinas. 18 Eto llanc a’u gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom: ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd; a hwy a aethant i waered yno. 19 A’r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a daenodd arno falurion ŷd; fel na wybuwyd y peth. 20 A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i’r tŷ, hwy a ddywedasant, Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A’r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem. 21 Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith, yna y lleill a ddaethant i fyny o’r pydew, ac a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd; ac a ddywedasant wrth Dafydd, Cyfodwch, ac ewch yn fuan dros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi. 22 Yna y cododd Dafydd a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a aethant dros yr Iorddonen: erbyn goleuo’r bore nid oedd un yn eisiau a’r nad aethai dros yr Iorddonen.

23 A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i’w dŷ ei hun, i’w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad. 24 Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim. Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen, efe a holl wŷr Israel gydag ef.

25 Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu, Ac Amasa oedd fab i ŵr a’i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas, chwaer Serfia, mam Joab. 26 Felly y gwersyllodd Israel ac Absalom yng ngwlad Gilead.

27 A phan ddaeth Dafydd i Mahanaim, Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon, a Machir mab Ammïel o Lo‐debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim, 28 A ddygasant welyau, a chawgiau, a llestri pridd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chras ŷd, a ffa, a ffacbys, a chras bys, 29 A mêl, ac ymenyn, a defaid, a chaws gwartheg, i Dafydd, ac i’r bobl oedd gydag ef, i’w bwyta. Canys dywedasant, Y mae y bobl yn newynog, yn flin hefyd, ac yn sychedig yn yr anialwch.

2 Corinthiaid 10

10 A myfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn yn bresennol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hy arnoch. Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy â’r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd. Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd: (Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i’r llawr;) Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist; Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi. Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist. Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni’m cywilyddid: Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau. 10 Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eithr presenoldeb y corff sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygus. 11 Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol. 12 Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall. 13 Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o’n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddyd hyd atoch chwi hefyd. 14 Canys nid ydym, megis rhai heb gyrhaeddyd hyd atoch chwi, yn ymestyn allan tu hwnt i’n mesur; canys hyd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist: 15 Nid gan fostio hyd at bethau allan o’n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth, 16 I bregethu’r efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes. 17 Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd. 18 Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymeradwy; ond yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol.

Eseciel 24

24 Drachefn yn y nawfed flwyddyn, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti enw y dydd hwn, fab dyn, ie, corff y dydd hwn: ymosododd brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem o fewn corff y dydd hwn. A thraetha ddihareb wrth y tŷ gwrthryfelgar, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gosod y crochan, gosod, a thywallt hefyd ddwfr ynddo. Casgl ei ddrylliau iddo, pob dryll teg, y morddwyd, a’r ysgwyddog; llanw ef â’r dewis esgyrn. Cymer ddewis o’r praidd, a chynnau yr esgyrn dano, a berw ef yn ferwedig; ie, berwed ei esgyrn o’i fewn.

Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywed fel hyn, Gwae ddinas y gwaed, y crochan yr hwn y mae ei ysgum ynddo, ac nid aeth ei ysgum allan ohono: tyn ef allan bob yn ddryll: na syrthied coelbren arno. Oherwydd ei gwaed sydd yn ei chanol: ar gopa craig y gosododd hi ef; nis tywalltodd ar y ddaear, i fwrw arno lwch: I beri i lid godi i wneuthur dial; rhoddais ei gwaed hi ar gopa craig, rhag ei guddio. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Gwae ddinas y gwaed! minnau a wnaf ei thanllwyth yn fawr. 10 Amlha y coed, cynnau y tân, difa y cig, a gwna goginiaeth, a llosger yr esgyrn. 11 A dod ef ar ei farwor yn wag, fel y twymo, ac y llosgo ei bres, ac y toddo ei aflendid ynddo, ac y darfyddo ei ysgum. 12 Ymflinodd â chelwyddau, ac nid aeth ei hysgum mawr allan ohoni: yn tân y bwrir ei hysgum hi. 13 Yn dy aflendid y mae ysgelerder: oherwydd glanhau ohonof di, ac nid wyt lân, o’th aflendid ni’th lanheir mwy, hyd oni pharwyf i’m llid orffwys arnat. 14 Myfi yr Arglwydd a’i lleferais: daw, a gwnaf; nid af yn ôl ac nid arbedaf, ac nid edifarhaf. Yn ôl dy ffyrdd, ac yn ôl dy weithredoedd, y barnant di, medd yr Arglwydd Dduw.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 16 Wele, fab dyn, fi yn cymryd oddi wrthyt ddymuniant dy lygaid â dyrnod: eto na alara ac nac wyla, ac na ddeued dy ddagrau. 17 Taw â llefain, na wna farwnad; rhwym dy gap am dy ben, a dod dy esgidiau am dy draed, ac na chae ar dy enau, na fwyta chwaith fara dynion. 18 Felly y lleferais wrth y bobl y bore; a bu farw fy ngwraig yn yr hwyr; a gwneuthum y bore drannoeth fel y gorchmynasid i mi.

19 A’r bobl a ddywedasant wrthyf, Oni fynegi i mi beth yw hyn i ni, gan i ti wneuthur felly? 20 Yna y dywedais wrthynt, Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 21 Dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn halogi fy nghysegr, godidowgrwydd eich nerth, dymuniant eich llygaid, ac anwyldra eich enaid: a’ch meibion a’ch merched, y rhai a adawsoch, a syrthiant gan y cleddyf. 22 Ac fel y gwneuthum i, y gwnewch chwithau; ni chaewch ar eich geneuau, ac ni fwytewch fara dynion. 23 Byddwch â’ch capiau am eich pennau, a’ch esgidiau am eich traed: ni alerwch, ac nid wylwch; ond am eich anwiredd y dihoenwch, ac ochneidiwch bob un wrth ei gilydd. 24 Felly y mae Eseciel yn arwydd i chwi: yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe, y gwnewch chwithau: a phan ddelo hyn, chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw. 25 Tithau fab dyn, onid yn y dydd y cymeraf oddi wrthynt eu nerth, llawenydd eu gogoniant, dymuniant eu llygaid, ac anwyldra eu henaid, eu meibion a’u merched, 26 Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddihango, atat, i beri i ti ei glywed â’th glustiau? 27 Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddihango; lleferi hefyd, ac ni byddi fud mwy: a byddi iddynt yn arwydd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

Salmau 72

Salm i Solomon.

72 O Dduw, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder. Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a’th drueiniaid â barn. Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder. Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd. Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd. Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear. Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad. Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear. O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch. 10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd. 11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef. 12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo. 13 Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus. 14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef. 15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef. 16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear. 17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig. 18 Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau. 19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen. 20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.