M’Cheyne Bible Reading Plan
11 Ac wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem.
2 A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen tŷ y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. 3 A Dafydd a anfonodd ac a ymofynnodd am y wraig: ac un a ddywedodd, Onid hon yw Bathseba merch Elïam, gwraig Ureias yr Hethiad? 4 A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. 5 A’r wraig a feichiogodd, ac a anfonodd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog.
6 A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. 7 A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd am lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel. 8 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, Dos i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dŷ y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef. 9 Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws tŷ y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun. 10 Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dŷ ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun? 11 A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m tŷ fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn. 12 A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth. 13 A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun.
14 A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. 15 Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw. 16 A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo. 17 A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant â Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
18 Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel: 19 Ac a orchmynnodd i’r gennad, gan ddywedyd, Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin: 20 Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer? 21 Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
22 Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid. 23 A’r gennad a ddywedodd wrth Dafydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i’r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth. 24 A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weision y brenin a fuant feirw; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. 25 Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad, Fel hyn y dywedi di wrth Joab; Na fydded hyn ddrwg yn dy olwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf: cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef.
26 A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod. 27 A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddûg iddo fab. A drwg yng ngolwg yr Arglwydd oedd y peth a wnaethai Dafydd.
4 Am hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu; 2 Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw. 3 Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig: 4 Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw. 5 Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu. 6 Canys Duw, yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist. 7 Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni. 8 Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith; 9 Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha; 10 Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni. 11 Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. 12 Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau. 13 A chan fod gennym yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru; 14 Gan wybod y bydd i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a’n gosod gerbron gyda chwi. 15 Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i ras wedi amlhau, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw. 16 Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd. 17 Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni; 18 Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.
18 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2 Paham gennych arferu y ddihareb hon am dir Israel, gan ddywedyd, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod? 3 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni bydd i chwi mwy arferu y ddihareb hon yn Israel. 4 Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.
5 Canys os bydd gŵr yn gyfiawn, ac yn gwneuthur barn a chyfiawnder, 6 Heb fwyta ar y mynyddoedd, na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel, ac heb halogi gwraig ei gymydog, na nesáu at wraig fisglwyfus, 7 Na gorthrymu neb, ond a roddes ei wystl i’r dyledwr yn ei ôl, ni threisiodd drais, ei fara a roddodd i’r newynog, ac a ddilladodd y noeth, 8 Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymerodd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr. 9 Yn fy neddfau y rhodiodd, a’m barnedigaethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd: cyfiawn yw; gan fyw efe a fydd byw, medd yr Arglwydd Dduw.
10 Os cenhedla efe fab yn lleidr, ac yn tywallt gwaed, ac a wna gyffelyb i’r un o’r pethau hyn, 11 Ac ni wna yr un o’r pethau hynny, ond ar y mynyddoedd y bwyty, a gwraig ei gymydog a haloga, 12 Yr anghenus a’r tlawd a orthryma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd‐dra, 13 Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.
14 Ac wele, os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly, 15 Ar y mynyddoedd ni fwyty, a’i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymydog, 16 Ni orthryma neb chwaith, ni atal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i’r newynog, a’r noeth a ddillada, 17 Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw. 18 Ei dad, am orthrymu yn dost, a threisio ei frawd trwy orthrech, a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ymysg ei bobl, wele, efe a fydd marw yn ei anwiredd.
19 Eto chwi a ddywedwch, Paham? oni ddwg y mab anwiredd y tad? Pan wnelo y mab farn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau, a’u gwneuthur hwynt, gan fyw efe a fydd byw. 20 Yr enaid a becho, hwnnw a fydd marw. Y mab ni ddwg anwiredd y tad, a’r tad ni ddwg anwiredd y mab: cyfiawnder y cyfiawn fydd arno ef, a drygioni y drygionus fydd arno yntau. 21 Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw; ni bydd efe marw. 22 Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth: yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw. 23 Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol, medd yr Arglwydd Dduw, ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd, a byw?
24 Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnelo yr annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.
25 Eto chwi a ddywedwch, Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd. Gwrandewch yr awr hon, tŷ Israel, onid yw gymwys fy ffordd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys? 26 Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a marw ynddynt; am ei anwiredd a wnaeth y bydd efe marw. 27 A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid. 28 Am iddo ystyried, a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw y bydd byw, ni bydd marw. 29 Eto tŷ Israel a ddywedant, Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd. Tŷ Israel, onid cymwys fy ffyrdd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys? 30 Am hynny barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun, medd yr Arglwydd Dduw. Dychwelwch, a throwch oddi wrth eich holl gamweddau; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.
31 Bwriwch oddi wrthych eich holl gamweddau y camweddasoch ynddynt, a gwnewch i chwi galon newydd, ac ysbryd newydd: canys paham, tŷ Israel, y byddwch feirw? 32 Canys nid oes ewyllys gennyf i farwolaeth y marw, medd yr Arglwydd Dduw. Dychwelwch gan hynny, a byddwch fyw.
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Dafydd.
62 Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth. 2 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth, a’m hamddiffyn; ni’m mawr ysgogir. 3 Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd. 4 Ymgyngorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd; hoffasant gelwydd: â’u geneuau y bendithiant, ond o’u mewn y melltithiant. Sela. 5 O fy enaid, disgwyl wrth Dduw yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith. 6 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni’m hysgogir. 7 Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn Nuw. 8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Sela. 9 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi. 10 Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno. 11 Unwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo Duw yw cadernid. 12 Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O Arglwydd: canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred.
Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.
63 Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; 2 I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. 3 Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. 4 Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. 5 Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: 6 Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. 7 Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. 8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal. 9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear. 10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant. 11 Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.